Gyrrwr yn euog o achosi marwolaeth plismones ar yr A40
- Cyhoeddwyd
Mae Llys y Goron Abertawe wedi cael dyn 42 oed o Sir Gaerfyrddin yn euog o achosi marwolaeth plismones trwy yrru'n beryglus wrth iddi seiclo ar yr A40 yn y sir.
Fe gafodd Sarjant Lynwen Thomas, 37, ei tharo ar y ffordd ddeuol ger Bancyfelin fis Chwefror y llynedd gan fan Simon Draper, o Sanclêr.
Roedd wedi cyfaddef achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal, ond wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad mwy difrifol.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth nes ei wrandawiad dedfrydu, sydd eto i'w bennu.
Clywodd y rheithgor bod ymchwiliad yr heddlu o ffôn symudol Draper wedi amlygu fod apiau fel Facebook, Whatsapp ac Instagram wedi cael eu defnyddio yn y munudau cyn i'w fan Ford Transit daro beic Ms Thomas.
Roedd yn gyrru i gyfeiriad Caerfyrddin ar ôl cludo ei ddwy ferch adref cyn teithio ymlaen gyda'i fab 13 mis oed yn sedd gefn y cerbyd.
Roedd Draper wedi dweud ei fod wedi pasio'r ffôn i'r plentyn yn nghefn y cerbyd am fod goleuadau'r ffôn yn ei dawelu.
Dywedodd hefyd ei fod ond wedi troi "am eiliad" i roi dymi i'w fab pan darodd Ms Thomas, oedd yn hyfforddi er mwyn cymryd rhan mewn ras Ironman.
Ond fe ddywedodd tystion arbenigol wrth y llys nad oes gan blentyn 13 mis oed y "gallu corfforol na meddyliol i drin y ffôn y ffordd y cafodd ei ddefnyddio yn yr achos hwn".
Awgrymodd ymchwilydd fforensig gwrthdrawiadau y byddai Draper wedi cael "9.28 o eiliadau i weld y seiclwr" ar y ffordd.
'20 mis hir a phoenus'
Roedd cymar a theulu Ms Thomas yn eu dagrau wrth glywed dyfarniad y rheithgor. Mewn datganiad ar eu rhan fel gafodd y cyfnod ers ei marwolaeth ei ddisgrifio fel "20 mis hir a phoenus" a'u bod "o'r diwedd wedi gweld cyfiawnder yn achos y person oedd yn gyfrifol am ei chymryd oddi arnyn nhw".
Cafodd Ms Thomas ei disgrifio gan Heddlu Dyfed-Powys adeg ei marwolaeth fel "swyddog ifanc talentog... uchel ei pharch" oedd yn seiclwr profiadol.
Wedi'r dyfarniad ddydd Gwener, dywedodd arweinydd yr ymchwiliad i'r achos, yr Uwcharolygydd Sara John: "Unwaith yn rhagor, rydym yn gweld y dinistr disynnwyr a chwbl ddiangen sy'n cel ei achosi trwy ddefnyddio ffôn symudol tra'n gyrru.
"Roedd Lynwen lai na 10 munud o'i chartref pan wnaeth Draper, oedd yn gyson yn defnyddio'i iPhone wrth y llyw, wrthdaro â hi wrth iddi seiclo ar hyd yr A40.
"Roedd Lynwen yn gydweithiwr uchel ei pharch ac yn fam, merch, chwaer a chymar serchus a fu farw'n gynamserol oherwydd gweithredoedd haerllug a hunanol y diffynnydd sydd wedi gadael plentyn ifanc heb fam."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021