'Fanzone' Cwpan y Byd Y Trallwng i fod yn hafan gynnes

  • Cyhoeddwyd
Fanzone 2016
Disgrifiad o’r llun,

Roedd golygfeydd cofiadwy o 'fanzones' Cymru yn ystod Euro 2016

Mae paratoadau ar y gweill ym Mhowys i greu ardal wylio arbennig i gefnogwyr gyda llai na mis tan gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd.

Roedd golygfeydd cofiadwy o fanzones Cymru yn ystod Euro 2016.

Efallai na fydd yr un golygfeydd i'w gweld yn nhywydd hydrefol mis Tachwedd eleni, ond yn Y Trallwng y gobaith ydy y bydd y fanzone yn neuadd y dref hefyd yn gweithredu fel hafan gynnes i drigolion.

O hanner tymor ymlaen bydd y cyhoedd yn cael eu gwahodd i'r neuadd bob dydd, ac ar achlysur gemau Cymru yn Qatar bydd sgrin fawr yn dangos y pêl-droed.

Dywedodd un o'r rhai tu ôl i'r syniad, y Cynghorydd Ben Gwalchmai wrth Newyddion S4C: "Dydyn ni ddim eisiau cymryd oddi ar y tafarndai achos ni'n gwybod bod hynny'n bwysig.

"Ond os ydy teuluoedd eisiau rhywle arall gallan nhw ddod i'r neuadd.

"Maen nhw'n gwybod ei fod yn lle diogel, yn neis a chynnes - fel yr ysbryd cymunedol."

'Dod â'r gymuned yn agosach'

Mae neuadd y dref Y Trallwng yn hen adeilad sydd angen ei wresogi'n barhaus.

Oherwydd hynny mae'r Cyngor Tref yn gwahodd pobl i mewn dros fisoedd oer y gaeaf i gadw'n gynnes ac i rannu cwmni.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Ben Gwalchmai fod neuadd y dref "yn lle diogel, yn neis a chynnes"

"Fel Cyngor Tref ni'n gwybod mae'n gaeaf anodd. Mae ddim yn edrych fel gaeaf neis," meddai'r Cynghorydd Gwalchmai.

"Ond ni'n hapus i wneud popeth posib dros y dref ac yma yn y neuadd."

Bydd y gwahoddiad i bawb, ond yn enwedig teuluoedd.

Un sy'n rhoi croeso i'r syniad ydy pennaeth Ysgol Gymraeg Y Trallwng, Angharad Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Angharad Davies: "Fydd 'Yma o Hyd' yn adleisio yn y dyffryn yma a fydd o'n wych!"

"Yn anffodus mae hi'n gyfnod heriol iawn ar nifer o deuluoedd yr ardal, a thu hwnt hefyd," meddai.

"Dwi'n meddwl bod y ffaith bod nhw'n cymryd hynny mewn i ystyriaeth, mae o mor bwysig. Mae o jyst yn dod â'r gymuned yn agosach at ei gilydd."

Mae'r pêl-droed yn fonws i Ms Davies, sy'n bêl-droediwr brwd ei hun.

"Mae o yma i danio Cymreictod, felly fydd y plant 'ma'n gallu canu nerth eu pennau," meddai.

"Fydd 'Yma o Hyd' yn adleisio yn y dyffryn yma a fydd o'n wych!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kieran, Libby a Morgan yn edrych ymlaen at wylio Cymru yng Nghwpan y Byd

Mae'r plant hefyd yn edrych ymlaen yn fawr.

Dywedodd Kieran: "Mae'n dod â pobl at ei gilydd. Oherwydd costau bywyd, dydy rhai pobl ddim yn gallu gwylio fo."

Mae Libby yn dawel hyderus am obeithion Cymru yng Nghwpan y Byd: "Dwi'n barod i wylio. Dwi'n meddwl bod hefo nhw siawns da. Ond bydd 'na dimau anodd hefyd."

Mae Morgan yn cyfri'r dyddiau: "Dwi'n mynd mor gyffrous pob diwrnod. Dwi'n codi a dwi fel 'dyna ddiwrnod i lawr tan Cwpan y Byd'. Dwi mor falch ac angerddol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae "unrhyw beth sy'n hybu Cymreictod" yn hwb i'r dref, medd Avril Hughes

Yn siop Gymraeg Pethe Powys mae Avril Hughes hefyd yn gobeithio y bydd llwyddiant i'r tîm cenedlaethol yn hwb i Gymreictod yn dref ar y ffin, fel yn 2016.

"Dwi'n gwybod roedd ganddom ni yr het bwced enwog yma ar werth ac roedd honno wedi diflannu o'r silffoedd yn gyflym iawn a phawb yn awyddus i gael un," meddai.

"So ydy mae o yn hwb - unrhyw beth sy'n hybu Cymreictod - a dwi'n credu mae'r tîm yn pêl-droed yn llwyddo i wneud hynny."

Efallai o ddiddordeb:

Disgrifiad,

Gareth Bale yn sgorio'n fyw ar Newyddion 9