'Annibyniaeth yn niweidiol i'r bobl dlotaf' - Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai annibyniaeth i Gymru yn gwneud "niwed i'r bobl dlota' yn ein cymdeithas ni", yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Mewn cyfweliad gyda Beti George ar gyfer rhaglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru, mae Eluned Morgan yn trafod sawl pwnc gan roi sylw arbennig i'r heriau dyddiol sy'n wynebu'r llywodraeth, a hithau yn ei swydd bob dydd.
Gan gyfeirio at ddigwyddiadau diweddar yn San Steffan, mae Ms Morgan yn rhybuddio bod cyfnod heriol tu hwnt yn wynebu Cymru, yn sgil toriadau arfaethedig i wasanaethau cyhoeddus - a bod gwaeth i ddod.
Mae'r fam i ddau o blant hefyd yn trafod y posibilrwydd o olynu Mark Drakeford fel prif weinidog yn y dyfodol, ac yn datgelu bod ganddi gydymdeimlad hefo Mr Drakeford ynglŷn â'r ffrae ddiweddar yn y Senedd rhyngddo ef ac arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies.
Annibyniaeth i Gymru?
Dywedodd Eluned Morgan fod perthyn i'r Deyrnas Unedig yn golygu bod y gwledydd i gyd yn gallu helpu ei gilydd "er gwaetha'r mess maen nhw'n 'neud ohoni yn San Steffan ar hyn o bryd".
"Mae'r ffordd 'dan ni'n datblygu'r welfare state ac ati, mae hynny yn gyson dros Brydain i gyd, a dwi'n meddwl bod y solidarity hynny yn hollbwysig.
"Ond i wthio rhywbeth yn ideolegol [annibyniaeth] fydde'n gwneud niwed i'r bobl tlota' yn ein cymdeithas ni? Dwi ddim yn cytuno gyda hynny."
Mae'r gweinidog yn rhoi syniad i'r gwrandawyr o brysurdeb ei hwythnos waith:
"Dwi yn y gwaith erbyn 08:30, dwi ddim yn dod adre' tan 20:30, dwi'n cael rhywbeth i swper a dwi'n ôl yn gwaith am ddwy awr wedyn."
Mae dydd Sul yn ddiwrnod arbennig o brysur, lle mae hi'n gweithio drwy'r dydd, meddai.
"Dwi'n gwneud 100 o benderfyniadau bob dydd Sul sydd angen cael eu 'neud a dim ond fi sydd yn gallu gwneud y penderfyniad yna," meddai.
'Gwneud ein gorau'
"Ein cyfrifoldeb ni fel gwleidyddion yw arwain, hyd yn oed mewn amgylchiadau sydd yn heriol tu hwnt, a dyna beth ry'n ni'n ceisio'i wneud, gwneud y gorau ni'n gallu ar ran y bobl.
"Mi fyddwn ni'n gorfod blaenoriaethu sut ry'n ni'n gwario'r arian bach sydd gyda ni. Dwi'n obeithiol ac yn hyderus bydd Llywodraeth Cymru ar y cyfan yn deall bod iechyd yn holl bwysig wrth i ni benderfynu'r blaenoriaethau yna.
"Dwi'n gobeithio y bydd pobl Cymru yn deall mai nid ni fydd tu ôl i'r toriadau fydd yn dod, bydd rheiny yn dod o gyfeiriad San Steffan."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wrth gyfeirio at Mark Drakeford yn gwylltio gydag Andrew RT Davies yn ystod trafodaeth yn y Senedd yn ddiweddar dywedodd Eluned Morgan:
"Dwi'n deall yn iawn pam [y collodd ei dymer]," meddai.
"Yn gyffredinol mae e'n berson eitha' addfwyn, ond mae o'n gwybod bod y chaos sy'n digwydd yn Llundain yn ddiweddar - mae 'na ganlyniadau i hynny, ac mae'r canlyniadau hynny yn mynd i olygu toriadau mawr i'n gwasanaethau yma yng Nghymru sy'n mynd i gyffwrdd â bywydau pobl, sy'n mynd i effeithio ar y tlota' yn ein cymdeithas ni... mae hynny yn cynhyrfu ni gyd ac ry'n ni i gyd yn grac tu hwnt efo'r sefyllfa.
"Mi fydd hi'n heriol, mae'n heriol ar hyn o bryd ond mae'r hyn sydd i ddod mynd i fod lot yn waeth.
"A just i roi syniad i chi, eleni ges i bil ynni am yr NHS am £207m yn fwy nag oeddwn i'n disgwyl.
"Dim ond £170m oedd gen i i glirio'r backlog - mae hynny'n rhoi cyd-destun i chi o faint mae rhaid i ni ffeindio o fewn y gwasanaethau sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac eleni mae gennym ni tipyn bach o help o San Steffan. Duw a ŵyr os bydd yr help yna ar gael flwyddyn nesaf."
Olynu Mark Drakeford?
"Beth yw'r dyfodol i Eluned Morgan?" gofynna Beti George, gan awgrymu y gallai olynu'r prif weinidog.
Fe wnaeth Ms Morgan ymgeisio am yr arweinyddiaeth yn 2018.
"Ar hyn o bryd mae dal lot o egni gen i, mae dal lot o frwdfrydedd gen i, ac wrth gwrs nid fy mhenderfyniad yw e, ar ddiwedd y dydd penderfyniad Mark Drakeford yw hi.
"Dwi 'di gael golwg ar beth mae Mark wedi'i wneud a dwi'n ffan massive o Mark Drakeford, a dwi'n meddwl bod o'n gwneud gwaith anhygoel.
"Mae'n anrhydedd gallu gweithio iddo fe. Mae gweld e [wrth ei waith]... chi'n deall beth fydd yn rhaid i chi 'neud. Mi fyddai hynny yn sialens aruthrol dwi'n meddwl.
"Gewn ni weld, dwi ddim 'di gwneud unrhyw benderfyniad, gewn ni weld os fyddai'n gallu just byw trwy'r swydd yma'n gyntaf."
Gwaharddiad rhag gyrru
Mae gwreiddiau Ms Morgan, ar ochr ei mam, yn Nhyddewi, Sir Benfro, a bydd yn teithio i'w gweld hi bron bob penwythnos.
Pan mae'n dweud bod y daith ddwy awr, yno ac yn ôl, yn rhoi amser iddi feddwl heb neb yn cysylltu â hi, mae'n crybwyll y gwaharddiad gyrru a gafodd ym mis Mehefin ar ôl cael ei herlyn dair gwaith am oryrru.
"Mi ges i chwe mis o waharddiad. Ond mi wnes i gymryd y cyfle i ddefnyddio mwy ar y bysus pan o'n i yn Tyddewi dros yr haf.
"Roedd yn neis cael cyfle i siarad gyda phobl ar y bysus a gweld pa mor anodd ydy hi i bobl fyw heb gar yng nghefn gwlad, felly roedd hi'n siwrne wleidyddol hefyd."
Ar nodyn ysgafnach mae Ms Morgan yn sôn llawer am ei theulu - ei gŵr, Rhys, sy'n feddyg teulu a hefyd yn offeiriad erbyn hyn, a'i phlant Arwel a Gwen, sydd mewn prifysgolion yn Lloegr.
Pan ofynnwyd iddi a oedd y plant yn debygol o'i dilyn i'r byd gwleidyddol, atebodd yn blwmp ac yn blaen:
"Dim gobaith mul! Maen nhw wedi gweld pa mor galed dwi'n gweithio!"
Gwrandewch ar Beti a'i Phobol gydag Eluned Morgan ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Medi 2018
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018