Byw'n fwy gwyrdd mewn argyfwng costau byw yn helpu'r blaned?
- Cyhoeddwyd
Ry'n ni'n gyfarwydd â'r syniad o geisio "lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu" er mwyn helpu'r amgylchedd.
Ond yng nghanol argyfwng costau byw, tybed ydy'r mantra hyd yn oed yn fwy perthnasol?
Mae 'na arwyddion bod mwy yn troi at siopau ail-law i brynu dillad, a "chaffis trwsio nwyddau" hefyd yn adrodd cynnydd mewn diddordeb.
Petai'r newid ymddygiad yma'n parhau, mi allai helpu'r blaned yn yr hirdymor, yn ôl rhai arbenigwyr.
Mae'r misoedd diwethaf wedi gweld cynnydd o 14% yn nhrosiant y 600 o siopau elusen sydd gan Cancer Resarch UK.
Yn eu storfa fawr ar Ffordd Casnewydd, Caerdydd - un o siopau ail law mwyaf Cymru - mae nifer y cwsmeriaid sy'n dod drwy'r drysau ar i fyny 10% hefyd o'i gymharu â'r un cyfnod llynedd.
Dywedodd cyfarwyddwr masnach yr elusen Julie Byard fod pobl yn "dewis siopa mewn ffordd sy'n helpu eu harian fynd ymhellach".
Tra bod nifer "wedi'u gyrru gan anghenraid" at ddillad y siop, sydd wedi'u prisio dan £5, mae ymchwil yr elusen yn awgrymu bod pobl nawr yn llawer mwy parod i ddewis nwyddau ail law yn bwrpasol.
"Mae siopau elusen yn rhan o'r ateb i fast fashion fel problem - a ry'n ni'n ystyried ein hunain fel un o'r ailgylchwyr mwyaf," meddai.
"Drwy'n siopau ni yn unig ry'n ni'n arbed oddeutu 25,000 o dunelli o decstilau rhag mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn," ychwanegodd.
Ond mae'r ystadegau o ran pobl yn cyfrannu nwyddau at eu siopau i lawr 10% yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf.
"Mae'n bosib" bod hynny'n symptom arall o'r argyfwng costau byw, meddai.
Yn Siop Hinsawdd Llanbedr Pont Steffan, mae'r dillad ail law a nwyddau eraill wedi'u prisio mewn coed yn hytrach na phunnoedd gan fod yr elusen yn ariannu ymdrechion plannu coed yn Kenya.
Dywedodd Rhys Jones, dirprwy faer y dref sydd hefyd yn un o wirfoddolwyr y siop eu bod yn gweld "mwy a mwy o bobl yn dod i mewn sy'n ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd".
"Mae pobl yn gorfod gweud arbedion ac yn darganfod hefyd nad oes dim byd o'u le â gwisgo dillad ail law."
"Mae modd eu golchi'n hyfryd a rhoi bywyd newydd iddyn nhw," meddai.
Ychwanegodd Sara Avila, un arall o'r gwirfoddolwyr eu bod wedi sylwi ar "nifer fawr" o bobl yn gofyn am lenni i'w gosod yn erbyn eu drysau i "helpu cadw'r gwres i mewn" y gaeaf hwn.
"Maen nhw'n ofnus iawn eu bod nhw'n mynd i rewi, a chofiwch fod llenni newydd yn ofnadwy o ddrud i'w prynu - ond yn fan hyn gallwch chi gael pâr am rai punnoedd," meddai.
'Ymddygiad wedi newid'
Mae 'na arwyddion hefyd bod pobl yn dewis trwsio eitemau, yn hytrach na'u taflu.
Cymru sydd â'r rhwydwaith fwyaf o gaffis trwsio drwy'r DU - gyda bron i 100 o gymunedau bellach yn cynnig digwyddiadau lle gall bobl ddod â dillad, beics neu nwyddau trydanol i gael eu trwsio am ddim.
Dywedodd Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Repair Cafe Wales bod y sefydliad wedi gweld "cynnydd go iawn o ran diddordeb" yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cytunodd bod yr argyfwng costau byw yn arwain at y math o newid ymddygiad y mae ymgyrchwyr newid hinsawdd wedi bod yn galw amdanyn nhw ers tro - i leihau defnydd o adnoddau'r blaned.
"Mae'n siomedig taw caledwch economaidd sy'n gorfodi pobl i lawr y ffyrdd yma o newid ymddygiad, ond mae yn [digwydd]," eglurodd.
"Dyma'r newid sy'n rhaid i ni ei weld, a ry'n ni'n gobeithio y bydd rhai o'r arferion yma'n parhau, ac yn aros."
Undeb myfyrwyr Prifysgol Bangor yw un o'r llefydd diweddaraf i ddechrau cynnal digwyddiadau caffi trwsio, sydd hefyd yn agored i'r gymuned leol.
"Dwi'n teimlo fel ein bod ni eisie' hybu myfyrwyr i ffeindio ffyrdd mwy cheap-ach o fynd o gwmpas bywyd mewn argyfwng costau byw, ond hefyd gwneud hynny mewn ffordd gwyrdd," eglurodd Celt John, Llywydd UMCB.
Roedd Sam Dickins, sy'n un o swyddogion sabothol yr undeb, wedi dod â phâr o jins i'w trwsio.
"Byddai talu am rai newydd yn costio dros £20," meddai, "arian fyddai'n llawer gwell gen i ei gadw yn mhocedi tylliog fy nhrowsus!"
"Mae'r argyfwng costau byw bendant yn cael effaith ar ymddygiad pobl i ryw raddau," ychwanegodd.
"Mae myfyrwyr yn dweud 'drychwch os nad ydw i'n gwisgo fy het, fy nghot a fy sanau yna dyw'r gwres ddim yn mynd ymlaen yn y tŷ' - a ma' hynny'n cael effaith amgylcheddol hefyd."
Mae ffocws ar osgoi gwastraffu bwyd yn faes arall sy'n cysylltu'n argyfyngau costau a hinsawdd.
Yn hwb cymunedol Yr Orsaf, Penygroes mae gwirfoddolwyr yn gyfrifol am bantri cymunedol sy'n dosbarthu bwyd dros ben o archfarchnadoedd fyddai fel arall yn cael ei daflu.
"Mae'n niferoedd ni yn cynyddu," eglurodd Gwenllian Spink, swyddog dim gwastraff y prosiect.
"Mae'n fater o anghenraid i rai pobl ond maen nhw hefyd yn dangos diddordeb yn ochr amgylcheddol y cynllun hefyd," meddai.
"Mae'r hen a'r ifanc yn ymwybodol iawn nawr o'r creisis newid hinsawdd a phan y'ch chi'n cysylltu hynny gyda'r argyfwng costau mae'n gwneud synnwyr i dorri lawr ar wastraff, arbed arian tra hefyd yn lleihau eich ôl troed carbon," meddai.
Yng Nghanolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd mae eu hymchwil wedi canolbwyntio ar agweddau pobl at broblemau amgylcheddol a'r newidiadau ymddygiad sydd eu hangen i fynd i'r afael â nhw.
Dywedodd Dr Stuart Capstick, dirprwy gyfarwyddwr y ganolfan mai "un o'r pethau sydd wedi'n synnu ni yw hyd yn oed trwy'r gwaethaf o bandemig Covid pan fyddem efallai wedi disgwyl i bryderon pobl ynghylch newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd ostwng, mewn gwirionedd i lawer o bobl mae'r pryderon hynny wedi aros yn eithaf amlwg.
"Mae pobl yn gweld y cysylltiadau rhwng y ffactorau sy'n gyrru'r argyfwng ynni fel y gwrthdaro yn Wcráin, ein dibyniaeth ni o danwydd ffosil ac yn gweld mai nhw hefyd sy'n sail i'r argyfwng costau byw."
Ond rhybuddiodd "nad oedd yn beth da" fod pobl yn cael eu gorfodi ar hyn o bryd i sefyllfa lle maen nhw'n poeni am filiau uwch.
"Byddai'n llawer gwell [pe byddem] yn defnyddio llai o ynni yn ein cartrefi oherwydd eu bod yn gynhesach ac wedi'u hinswleiddio'n dda, neu ein bod ni'n bwyta'n fwy cynaliadwy oherwydd bod hynny'n fforddiadwy ac roedden ni'n gallu gwneud hynny.
"Felly tra bydd canlyniadau amgylcheddol i'r argyfwng costau byw mewn ffordd lythrennol, mae'n bwysig cofio nad dyma'r ffordd orau o fynd ati i wneud hynny," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd16 Awst 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022