Diwrnod cyntaf yr her gyfreithiol i addysg rhyw mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod yn "hollbwysig i helpu pobl ifanc feithrin perthnasau iach"

Mae'r Uchel Lys yng Nghaerdydd wedi bod yn clywed manylion her gyfreithiol sy'n gwrthwynebu cyflwyno pwnc addysg rhyw newydd yn ysgolion Cymru.

Mae'r cod Addysg Rhyw a Pherthnasedd yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd ers mis Medi eleni.

Cafodd yr adolygiad barnwrol ei gyflwyno gan bum rhiant sy'n dweud y gallai plant gael eu haddysgu am bynciau anaddas.

Maen nhw'n galw am yr hawl i dynnu disgyblion o'r gwersi.

Gwadu'r honiadau mae Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn hanfodol i helpu pobl ifanc greu perthynas iach ag eraill a pharchu ei gilydd.

Dywedodd llefarydd hefyd mai dim ond pynciau sy'n briodol i'w hoedran a'u datblygiad y bydd disgyblion yn edrych arnyn nhw.

Dywed cyfreithwyr ar ran y rhieni bod ganddynt "hawliau sylfaenol" ac mai'r hyn sydd yn y fantol yw "a yw rhieni yn colli pob rheolaeth addysgol pan yn anfon eu plant i'r ysgol".

Maen nhw'n dadlau nad yw'r cod a'r canllaw sydd wedi'u rhoi i ysgolion yn rhoi sylw i faterion "traddodiadol" sy'n berthnasol i "fywyd teuluol" ond bod yna "sylw amlwg i themâu LHDTC+".

Eu nod yw ceisio atal Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fel rhan o'r cwricwlwm.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn "hanfodol" i gadw plant yn ddiogel rhag sefyllfaoedd a pherthynas niweidiol a bod yr addysg yn briodol i oed disgyblion.

Mewn datganiad yn gynharach eleni fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Bydd y disgyblion ieuengaf yn cael eu haddysgu am gyfeillgarwch a theuluoedd.

"Fyddan nhw ddim yn cael eu haddysgu am berthnasau rhamantaidd a rhywiol. Mae'r cod yn gwahardd hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwricwlwm ei gyflwyno i bob ysgol gynradd ac i ddisgyblion ieuengaf ysgolion uwchradd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ym Medi

Dywedodd cyfreithwyr ar ran y llywodraeth nad oedd pryderon y rhieni yn seiliedig ar "unrhyw addysg benodol" yn ysgolion Cymru.

Cafodd y cwricwlwm ei gyflwyno i bob ysgol gynradd ac i ddisgyblion ieuengaf ysgolion uwchradd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ym Medi a'r bwriad yw ei ehangu i ddisgyblion hyd at 16.

Cyn hyn roedd disgyblion ysgolion uwchradd yn cael cynnig gwersi rhyw ond roedd hawl gan rieni dynnu eu plant o'r gwersi.

Mae disgyblion bellach yn dechrau cael y gwersi pan yn dair oed a dyw tynnu plentyn o'r wers ddim yn ddewis i rieni.

Ond dywed gweinidogion Llywodraeth Cymru y byddan nhw ond yn dysgu am themâu megis rhannu, caredigrwydd a pharchu eraill.

Dywed Llywodraeth Cymru y dylai'r maes, i ddisgyblion hyd at 16, gynnwys materion yn ymwneud â hawliau a thegwch; rhyw, rhywedd a rhywioldeb, delwedd cyrff; iechyd a lles rhywiol; a thrais, diogelwch a chefnogaeth.

Nodir hefyd y dylid datblygu dealltwriaeth am hunaniaethau gwahanol gan gynnwys bywydau pobl LHDTC+.

Mae ymgyrchwyr o dan faner Public Child Protection Wales yn honni y gallai'r plant ieuengaf gael eu haddysgu am bynciau sy'n gwbl anaddas - honiadau "cwbl gamarweiniol" ac a allai fod yn "niweidiol i addysg pobl ifanc" yn ôl y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Fe ohiriwyd cyfarfod o Gyngor Gwynedd am gyfnod yn dilyn aflonyddu o'r oriel gyhoeddus fis Awst

Ym mis Awst eleni bu'n rhaid galw'r heddlu wedi trafodaeth danbaid ar y mater yng Nghyngor Gwynedd.

Fe gafodd ymgyrchwyr hawl i adolygiad barnwrol wedi i farnwr Uchel Lys, Mr Ustus Turner, nodi bod y materion a godwyd ganddynt "yn cynnwys materion cyfansoddiadol cymhleth a allai gael effaith arwyddocaol ar rieni a phlant".

Ond ofer fu'r ymdrech munud olaf i atal cyflwyno y cwricwlwm newydd ar y maes ddechrau'r tymor ysgol gyda'r barnwr yn nodi y byddai hynny yn "creu cryn anrhefn".

Bydd yr adolygiad barnwrol yn parhau ddydd Mercher.