Carcharu gyrrwr am achosi marwolaeth plismones yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Simon DraperFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Simon Draper hefyd ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd

Mae dyn o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am achosi marwolaeth plismones trwy yrru'n beryglus wrth iddi seiclo ar yr A40 yn y sir.

Cafodd Sarjant Lynwen Thomas, 37, ei tharo gan fan Simon Draper, 42 o Sanclêr, ar y ffordd ddeuol ger Bancyfelin fis Chwefror y llynedd.

Cafwyd Draper yn euog o achosi ei marwolaeth trwy yrru'n beryglus gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe fis Hydref.

Clywodd y rheithgor bod ymchwiliad yr heddlu o ffôn symudol Draper wedi amlygu fod apiau fel Facebook, Whatsapp ac Instagram wedi cael eu defnyddio yn y munudau cyn i'w fan Ford Transit daro beic Ms Thomas.

Mae Draper yn parhau i fynnu mai ei fab 13 mis oed oedd yn defnyddio'r ffôn ar y pryd.

Roedd Draper yn dweud ei fod wedi pasio'r ffôn i'r plentyn yng nghefn y cerbyd am fod goleuadau'r ffôn yn ei dawelu.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Sarjant Lynwen Thomas yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad

Dywedodd hefyd ei fod ond wedi troi "am eiliad" i roi dymi i'w fab pan darodd Ms Thomas, oedd yn hyfforddi er mwyn cymryd rhan mewn ras Ironman.

Ond fe ddywedodd tystion arbenigol wrth y llys nad oes gan blentyn 13 mis oed y "gallu corfforol na meddyliol i drin y ffôn y ffordd y cafodd ei ddefnyddio yn yr achos hwn".

Awgrymodd ymchwilydd fforensig gwrthdrawiadau y byddai Draper wedi cael "9.28 o eiliadau i weld y seiclwr" ar y ffordd.

Cafodd Ms Thomas ei disgrifio gan Heddlu Dyfed-Powys adeg ei marwolaeth fel "swyddog ifanc talentog... uchel ei pharch" oedd yn seiclwr profiadol.

Cafodd Draper hefyd ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd.