Colofn Osian Roberts: 'Mae'r gêm agoriadol mor bwysig'

  • Cyhoeddwyd
Cyn hyfforddwr Cymru, Osian RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyn hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, yn ein tywys trwy'r gemau

Bydd cyn is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, yn dadansoddi gemau Cwpan y Byd Qatar 2022 yn arbennig ar gyfer Cymru Fyw.

Ag yntau yn aelod o dîm hyfforddi Cymru yn Euro 2016, mae Osian yn gyfarwydd â'r cyffro a'r heriau sy'n wynebu carfan Robert Page yn Qatar.

Dyma ei sylwadau cyn gêm agoriadol Cymru yn erbyn UDA yng Ngrŵp B ar 21 Tachwedd.

'Mae'r gêm agoriadol mor bwysig'

Mae'n ffantastig ein bod wedi cyrraedd Cwpan y Byd. Mae'r targed o gyrraedd y bencampwriaeth wedi bod o gwmpas ers tipyn, ac o'r diwedd mae'r genhedlaeth yma o chwaraewyr wedi dod â hynny'n realiti. Mae'n grêt i ni fel cenedl ac yn grêt i'r tîm.

Fel arfer mae 'na lot o aros cyn y gêm gyntaf. Pan fo twrnament yn yr haf, mae 'na fis i fynd ar ôl diwedd y tymor ac wedyn rydach chi yn dod at eich gilydd i baratoi am ychydig o wythnosau. Mae hon yn wahanol oherwydd roedd pawb yn chwarae i'w clybiau wythnos yn ôl.

Ond dydi ddim wedi bod mor ddrwg â hynny, ac o'r funud y gwnaeth y tîm lanio fe aeth y ffocws i gyd ar y gêm agoriadol. Mae'r gêm gyntaf mor bwysig ym mhob grŵp.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Glaniodd y tîm yn Qatar ar 16 Tachwedd

'Her newydd' Cwpan y Byd Qatar

Da 'ni ddim yn gwybod sut mae timau yn mynd i ymdopi efo'r her newydd yma. Mae timau o Asia ac Affrica wedi hen arfer, achos dyma'r math o baratoadau maen nhw yn brofi cyn Cwpan Affrica ac yn y blaen gan eu bod nhw'n cael eu cynnal yn ystod y tymor. Felly mae 'na fantais yn fan'na i dipyn o dimau.

O ran timau Ewrop, da' ni ddim yn gwybod sut maen nhw yn mynd i ymdopi felly amser â ymddengys. Ond un peth sy'n sicr ydi bod chwaraewyr yn llawer mwy ffres yr adeg yma o'r tymor yn hytrach nag ar ddiwedd tymor. Da ni wedi clywed ar hyd y blynyddoedd ei bod hi'n anodd i dimau Ewrop wneud yn dda yn yr haf yn dilyn tymor mor galed.

Mae 'na ffreshni yn y grŵp. Dyla' ffitrwydd ddim bod yn broblem i'r rhan fwyaf a'r unig beth mae'r chwaraewyr isio rŵan ydi cnesu fyny, mynd ar y cae, a chlywed y chwiban gyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn ymarfer yn Doha, 17 Tachwedd

Yr elfen feddyliol

Yr her i'r rheolwr bob tro ydi pwyso a mesur lle yn union i osod y llinell yna o ran yr elfen feddyliol. Ti isio sicrhau bod chwaraewyr yn barod ac ar y lefel gywir yn feddyliol i fynd i mewn i'r gêm. Ond os wyt ti'n croesi'r llinell yna ormod mae pryder a nerfau yn dod i mewn ac mae hynny'n gallu cael effaith negatif ar berfformiad yr unigolion a'r tîm.

Yn Euro 2016, cyn mynd i Bordeaux yn y gêm gyntaf be wnaethon ni oedd darparu fideo, heb i'r chwaraewyr wybod, o'u teuluoedd, partneriaid, plant a rhieni yn dymuno'r gorau iddyn nhw. Roedd o'n eithaf emosiynol ond ro'n i yn coelio ar y pryd ei fod yn rhywbeth pwysig i'w wneud.

Mae hon yn bennod arbennig eto yn ein hanes. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld sut maen nhw'n mynd o'i chwmpas hi er mwyn trio sicrhau bod y lefel yno yn feddyliol ac yn seicolegol ar gyfer y gêm agoriadol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rob Page, rheolwr Cymru, yn trafod y gêm agoriadol, 20 Tachwedd

Bydd y tîm tu ôl i'r tîm wedi bod yn trafod ac yn rhoi paratoadau yn eu lle am fisoedd. Ond hyd yn oed wedyn, dydi popeth ddim o fewn dy reolaeth. Pan oeddan ni yn chwarae yn Bordeaux wnaethon ni ddeffro am frecwast a gawson ni'r newyddion bod cefn Wayne Hennessey wedi cloi. Felly ar ddiwrnod y gêm mae dy baratoadau di yn gallu newid, jest fel na.

Profiad carfan 2022

Un peth sydd gennym ni rŵan a doedd gennym ni ddim yn 2016 ydi profiad. Mae gennym ni chwaraewyr profiadol rŵan mewn twrnamentau. Ar y llaw arall ychydig iawn o dîm America sydd wedi chwarae mewn Cwpan y Byd neu mewn twrnament mawr. Doedden nhw ddim yn Rwsia, felly mae'n wyth mlynedd ers iddyn nhw fod ynddi.

Mae gan chwaraewyr fel Gareth Bale, Joe Allen, Aaron Ramsey, Wayne Hennessey, a Chris Gunter mwy fyth o brofiad a bydd hynny'n helpu'r hogiau eraill i fod yn barod i ddechrau'r gêm yn y ffordd fwyaf positif.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae profiad chwaraewyr fel Gareth Bale a Joe Allen yn hollbwysig o flaen y gêm agoriadol meddai Osian Roberts

Ond fel i mi ddweud, alli di ddim cadw rheolaeth ar bob dim. Oni bai am Ben Davies mi fysa Hamsik wedi sgorio yn gêm Bordeaux ac ella fysa hi wedi bod yn stori hollol wahanol yn Ffrainc!

Gwireddu breuddwyd Gary Speed

Pan wnaethon ni gyfarfod yn ôl yng nghyfnod Gary Speed yn 2011, dw'i ddim yn siŵr faint o chwaraewyr oedd yn credu y byddan ni yn gallu cyrraedd Cwpan y Byd.

Ond da ni yma rŵan ac mae breuddwyd Gary a'r weledigaeth 'na oedd ganddo wedi dod yn fyw. Mi fydd o yn sicr yn gwenu arnom ni gyd pan fyddan ni yn dechrau arni fory.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyrraedd Cwpan y Byd oedd breuddwyd Gary Speed pan ddaeth yn reolwr yn 2010