A fydd manteision i economi Cymru yn sgil Cwpan y Byd?
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi dychwelyd i'r llwyfan mwyaf oll ym myd chwaraeon - Cwpan y Byd - ond a fydd hynny'n arwain at fanteision economaidd?
Cymru 1-1 UDA - gêm a gafodd ei gwylio gan filiynau o bobl ar draws y byd.
I Lywodraeth Cymru, dyma gyfle i werthu'r wlad i'r byd, ond dyw'r strategaeth yma ddim yn un newydd.
Ers datganoli gallai rhywun ddadlau fod Cymru wedi defnyddio chwaraeon fwyfwy i hyrwyddo'r wlad.
Ond yw'r polisi hwnnw wedi llwyddo?
Cwpan Rygbi'r Byd, Cyfres y Lludw, Cwpan Ryder a rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.
Rhai o ddigwyddiadau mwya'r byd chwaraeon, a digwyddiadau sydd wedi eu cynnal yng Nghymru.
Nôl yn nyddiau cynnar datganoli roedd rhoi lle blaenllaw i chwaraeon yn bolisi gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y prif weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, â diddordeb mawr mewn chwaraeon ac yn teimlo bod modd arddangos Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Wrth ei ochr yn cynghori bryd hynny oedd ein prif weinidog presennol. Gobaith Mark Drakeford yw gwneud y mwyaf o'r sylw yn Qatar.
"Dyma bwysicrwydd yr hyn sy'n mynd ymlaen yn Qatar i ni fel gwlad fach - cael llwyfan sy'n mynd o gwmpas y byd, ble bydd enw Cymru ddim yn gyfarwydd i lot o bobl," meddai.
"Dyma gyfle i ni ddefnyddio'r ffaith y bydd enw Cymru mewn tai ym mhob cwr o'r byd.
"Cwpan y Byd yw'r un mwya', felly bydd rhaid gwneud mwy i dynnu mas beth sy'n mynd i fod o fudd i Gymru.
"Mae pethau yn digwydd nawr i weld os allwn ni fod yn rhan o'r bid ar gyfer yr Euros yn 2028.
"Bydd cyfleoedd yn Qatar i siarad gyda rhai o'r bobl fydd yn rhan o'r broses ddewis."
Yn bwysicach na'r effeithiau economaidd uniongyrchol y gall digwyddiadau mawr eu cael ar Gymru, yw'r neges mae gweld Cymru ar lwyfan y byd yn ei yrru i'r boblogaeth, meddai'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones.
Yn ôl Mr Jones, mae gweld Cymry eraill yn llwyddo yn ysgogi mwy i fod eisiau eu hefelychu.
"Rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig ein bod ni'n gallu cynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru, a hefyd ein bod ni'n llwyddiannus, ac yng Nghwpan y Byd Pêl-droed," meddai.
"Mae hynny'n dangos i bobl ein bod ni'n gallu bod 'na gyda'r gorau, a felly rhoi'r hyder i bobl feddwl eu bod nhw'n gallu llwyddo.
"Ni'n gwybod bod 'na broblem hanesyddol wedi bod yng Nghymru lle mae pobl wedi tynnu 'nôl efallai o achos diffyg hyder.
"Mae hwn yn rhoi hyder i ni a'n pobl - y neges yw, edrychwch ar beth sy'n digwydd nawr yn Qatar.
"Mae hwn yn dangos ein bod ni'r Cymry yn gallu bod gyda'r gorau yn y byd."
Mae Cwpan y Byd yn cynrychioli'r brig o ran digwyddiad mawr i Gymru.
Manteisio'n llawn ar hynny yw'r her i Lywodraeth Cymru, yn ôl yr arbenigwr cyfathrebu a'r cyn-Aelod Cynulliad Nerys Evans.
"Mae grym gyda chwaraeon i uno pawb. Mi fyddai gwleidyddion wrth eu bodd yn cael y fath rym.
"Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio hwn, wrth gwrs.
"Ry'n ni wedi gwneud bach o waith gyda'r gymdeithas [bêl-droed], ac mae'n deg dweud, cyn yr Euros roedd hi'n anodd agor drysau a chael sgwrs gyda gwleidyddion.
"Ond ers hynny mae'n llawer haws - mae llwyddiant yn magu llwyddiant."
Ond mewn cyfnod o brinder mewn cyllidebau, oes modd cyfiawnhau'r buddsoddiad?
Mae gan y cyn-chwaraewr rygbi Gareth Davies brofiad helaeth o gynrychioli Cymru dramor.
Ers ymddeol fel chwaraewr mae ei yrfa wedi ei arwain i hyrwyddo Cymru yn Awstralia, a bu'n rhan o ddenu Cwpan Ryder i Gasnewydd.
Ydy Cymru wedi gwneud digon o ran manteisio yn sgil y digwyddiadau mawr, felly?
"Ry'n ni wedi bod yn llwyddiannus o ran y digwyddiad, ond yn amlwg mae digwyddiadau mawr yn fwy na dim ond y digwyddiad," meddai.
"Ble dwi'n credu bod dim ffydd gyda ni yw ar ôl buddsoddi yn y campau - fel yr hen fwrdd croeso, er enghraifft.
"Dwi ddim yn credu ein bod ni wedi dilyn lan gyda'r buddsoddiad sydd ei angen i wneud argraff ar ôl y digwyddiad."
Ond a yw hi mor syml â hynny? Nid yn ôl yr economegydd o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Calvin Jones.
"Mae'r stadiwm - ond hefyd nid dim ond y stadiwm - wedi bod yn gyfrifol am ddod â miliynau o bunnau i mewn i economi Cymru.
"Felly 'dach chi methu dadlau nad yw wedi bod yn llwyddiannus yn economaidd, ond roedd 'na sôn ar y dechrau y byddai'r digwyddiadau chwaraeon mawr yma yn trawsnewid yr economi.
"Ond mae'n anodd profi hynny gan nad ydyn nhw'n gallu gwneud y gwahaniaeth mawr hynny."
Mae bron yn amhosib mesur a yw'r polisi yma wir yn llwyddiant.
Ond i'r rheiny sy'n ei gefnogi, mae'r cyfle i werthu Cymru ar y llwyfan rhyngwladol werth bob ceiniog.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022