Cefnogwyr yn methu gêm Cymru wedi nam cerdyn fisa

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hywel Price o Gaerdydd yn trafod y trafferthion wrth i rai fethu hedfan i Doha o Dubai fore Gwener ar raglen Dros Frecwast

Mae cefnogwyr Cymru yn dweud fod "degau" o bobl heb gael hedfan o Dubai i Doha, sy'n golygu eu bod heb allu mynd i weld gêm Cwpan y Byd y tîm cenedlaethol yn erbyn Iran, oherwydd problem gyda'r cerdyn sy'n caniatáu mynediad i Qatar.

Fe gododd y trafferthion mewn maes awyr wrth i swyddogion ddweud wrth gefnogwyr nad oedd eu cerdyn Hayya, dolen allanol yn ddilys - cerdyn adnabod sydd hefyd yn gweithredu fel fisa ac yn caniatáu mynediad i fysus, trenau a'r metro.

"Mae pobol yn anhapus iawn - mae'n rhaid bod hyn yn broblem ar lefel enfawr," meddai Hywel Price o Gaerdydd, un o'r cefnogwyr a gafodd ei wrthod ym maes awyr Dubai ben bore Gwener.

Mewn neges ar Twitter dywedodd y gyflwynwraig Eleri Siôn bod 78 o gefnogwyr wedi cael eu gwrthod a bod y sefyllfa'n "hunllef llwyr i'r bobol a gafodd fynd i Qatar ar gyfer y gêm gyda UDA ond ddim heddiw".

Ychwanegodd: "Mae'n debyg bod rhai cardiau Hayya wedi cael eu diweddaru ddoe ond mae nam yn y system wedi creu'r llanast yma."

Mae'r BBC wedi cysylltu gyda llysgenhadaeth Prydain yn yr Emiradau Arabaidd Unedig a llywodraeth Qatar yn gofyn am eu hymateb i'r trafferthion.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Rydym yn ymwybodol o'r problemau ac yn gweithio'n agos gyda'r FSA [Football Supporters Association] sy'n ceisio eu datrys."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Qatar system fisa electroneg, sef y Cerdyn Hayya, y mae modd i'w gael ato trwy app

Roedd Hywel Price a'i wraig ymhlith y miloedd o Gymru sydd wedi bod yn aros yn Dubai gan deithio i Doha ar y diwrnodau y mae Cymru'n chwarae eu gemau.

Fe deithiodd y ddau'n gwbl ddidrafferth i Doha ddechrau'r wythnos i weld gêm gyfartal nos Lun yn erbyn UDA.

Ond dywedodd wrth raglen Dros Frecwast bod "dege o gefnogwyr" wedi cael trafferth gyda'u cardiau Hayya, gan ychwanegu: "Fi yw un o'r rhai anlwcus."

Roedd wedi codi am 02:30 y bore, sef 05:30 yma yng Nghymru, a theithio mewn tacsi i'r maes awyr er mwyn dal awyren oedd yn cychwyn am 06:30.

"Gath y cardyn Hayya ma' ei wrthod gan yr awdurdode a'r bobol oedd yn caniatáu i mi fynd ar yr awyren," meddai.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd maes awyr Dubai

"O'dd e'n uffernol, i fod yn onest, achos o'dd 13 ohonon ni yna yn gefnogwyr o Gymru, ryw hanner awr wedi pedwar y bore, i gyd yn profi bod gyda ni gerdyn Hayya.

"Ond o'dd y cerdyn yn cario ymlaen i ddeud bod o'n pending, er oedd o'n gweithio falle ddoe, a wedyn yn sydyn ddim yn gweithio bore 'ma.

"O'dd probleme enfawr - pobol wedi cael ebyst yn deud pethe fel 'yes, your Hayya card is valid', ewch ymlaen ar eich hediad'. A wedyn o'ddach chi'n cael eich gwrthod yna.

"Mae pobol yn anhapus iawn a mae'n rhaid bod hyn yn broblem ar lefel enfawr ac wedi parhau trwy'r bore fel mae cefnogwyr Cymru'n trio cyrraedd Doha mewn da bryd i gyrraedd y gêm."

'Plant yn eu dagrau'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Hywel Price a nifer o genfogwyr eraill fodloni ar wylio'r gêm ar sgrîn yn Dubai

Dywedodd Mr Price bod plant yn eu dagrau ar ôl cael gwybod na fydden nhw'n cael mynd i weld y gêm oherwydd y trafferthion gyda'r cardiau Hayya.

"Weles i blant mewn dagrau yn y maes awyr. Weles i dad a mab... fe aeth y mab ond doedd y tad methu mynd. Mae'n ofnadwy."

Mae'n dweud bod tua 20 o hediadau wedi gadael Dubai am Doha fore Gwener, a bod teithwyr Qatar Airlines yn cael mynd ar yr awyren, beth bynnag statws eu cardyn.

Ond doedd cwmnïau eraill ddim yn gadael i gefnogwyr fynd ar yr awyren os nad oedd eu cerdyn yn ddilys.

"Pan ry'n chi wedi taluch arian, gwneud yr holl waith papur... ac yna methu bod yna oherwydd app. Mae'n ofnadwy."

Doedd dim dewis i Mr Price a'r cefnogwyr eraill na chafodd hedfan ond gwylio'r gêm mewn bar yn Dubai.

"Mae 'na waeth lefydd i fod, am wn i," meddai.

'Bydd y Wal Goch yn brin o rai cannoedd'

Dywed Mr Price nad yw'n disgwyl cael ei arian yn ôl. "I fod yn deg, fyddai'r un cwmni yswiriant yn talu am hyn," meddai. "Cyfrifoldeb yr unigolyn yw gwneud yn siŵr bod y gwaith papur mewn trefn.

"Bydd yr arian wedi mynd yn wastraff - roedd y tocynne a'r hediade yn ddrud iawn."

Mae'n beirniadu'r diffyg cynrychiolwyr yn y maes awyr i roi cyngor ynghylch trafferthion cardiau Hayya, gan ddweud bod "neb â diddordeb" helpu er yr holl gyfathrebiadau o flaen llaw bod ond angen gofyn am gymorth.

"Unwaith chi yna, chi ar ben eich hun," dywedodd.

"Bydd y Wal Goch yn brin, bydden i'n meddwl siŵr o fod, cwpwl o gannoedd o gefnogwyr sy'n methu'r gêm bore ma'."

Pan wnaeth y BBC geisio cysylltu â llysgenhadaeth Prydain yn yr Emiradau Arabaidd Unedig -sydd wedi trydar rhif ffôn os oes yna broblemau, doedd ond modd clywed neges wedi recordio.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ffred Ffransis

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ffred Ffransis

I'r cefnogwyr hynny na chafodd drafferthion teithio, roedd yna gyfle i fwynhau'r awyrgylch yn Doha cyn anelu am Stadiwm Ahmad bin Ali.

Cafodd nifer o ddigwyddiadau eu cynnal yn ardal y Corniche ben bore 'ma, gan gynnwys adloniant gan Dafydd Iwan a Chôr Aelwyd Dyffryn Clwyd.