Heriau datrys problemau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd
Mae penawdau cyson ynglŷn â ffaeleddau'r Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru yn tanseilio hyder cleifion, yn niweidio ysbryd staff ac yn gwaethygu problemau recriwtio sydd eisoes yn ddifrifol, yn ôl un o benaethiaid bwrdd iechyd yr ardal.
Yn ôl cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dr Nick Lyons, mae 'na risg fod rhai cleifion yn amharod i ofyn am gymorth oherwydd yr holl sylw i'r problemau.
Yn y cyfamser mae staff sy'n cyflawni "gwaith arbennig" meddai, yn teimlo'n nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi, a bod enw drwg y bwrdd yn gallu bod yn rhwystr wrth recriwtio.
Ond mae Dr Lyons yn mynnu bod mwyafrif helaeth cleifion y gogledd yn cael gofal da ac effeithiol, er ei fod yn cydnabod y gallai fod yn flynyddoedd cyn y caiff rhai o'r problemau mawr eu datrys.
'Mwy na'i siâr o drafferthion'
Ers ei sefydlu yn 2009 mae bwrdd iechyd y gogledd wedi wynebu mwy na'i siâr o drafferthion.
Yn 2015 y bwrdd oedd y sefydliad iechyd cyntaf, a'r unig un hyd hynny, i gael ei osod yn gyfan gwbl mewn "mesurau arbennig" sef y lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru.
Fe barodd hynny am bum mlynedd.
Ond hyd yn oed wedyn daeth ffaeleddau mawr i'r amlwg.
Yn ystod haf eleni fe gafodd un o brif ysbytai'r gogledd, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, ei osod dan oruchwyliaeth fanwl gan Lywodraeth Cymru oherwydd ffaeleddau difrifol, yn benodol yn y gwasanaethau fasgiwlar a'r uned frys.
Fe fydd yr ysbyty yn aros o dan yr hyn sy'n cael ei alw'n "ymyrraeth wedi'i dargedu" am beth amser eto gan fod Llywodraeth Cymru o'r farn fod "problemau difrifol yn parhau".
Yn y cyfamser mae'r bwrdd iechyd yn chwilio am ei bumed prif weithredwr parhaol mewn cyfnod o 13 o flynyddoedd.
Yn ôl Dr Lyons mae'r feirniadaeth a'r ansicrwydd yn cael effaith ar hyder cleifion ac ysbryd staff.
"Pan dwi'n siarad gyda'n cleifion weithiau maen nhw'n codi cwestiynau fel: 'Ydy hi'n ddiogel i mi gael fy nhrin yma?'
"Ac ydy, mae o, er bod rhai materion sylweddol sydd dal angen mynd i'r afael â nhw.
"Y risg arall yw fod hyn yn effeithio ar ein staff sy'n teimlo, yn y gymuned ble maen nhw'n byw, eu bod nhw ddim bob amser yn cael eu gwerthfawrogi ac nad yw eu gwaith caled bob amser yn cael ei gydnabod."
'Mynd y filltir ychwanegol'
Mae Mared Jones-Owen yn nyrs sy'n gweithio yn Ysbyty Alltwen ger Porthmadog.
Mae'n gyfrifol am redeg clinic sy'n rhoi triniaethau mewnwythiennol (i/v) i gleifion, sy'n cynnwys cleifion â chanser a rhai â heintiau sydd angen eu trin â chyffuriau gwrthfeiotig cryf.
Ar ddechrau'r pandemig sylweddolodd Mared fod rhai cleifion yn bryderus am ddod i'r clinig a bod eraill, fel cleifion canser, er enghraifft, yn wynebu risg mwy sylweddol o ddal Covid.
Felly penderfynodd y byddai'n mynd ati i ymweld â chartrefi'r cleifion i roi eu triniaeth iddyn nhw yno.
"Ro'n i'n gweld pedwar o gleifion bob dydd yn eu cartrefi. Ro'n i'n mynd yn y bore cyn cynnal y clinig yn y prynhawn a wedyn mynd ar ôl gwaith. Ro'n i'n neilltuo dydd Gwener ar gyfer ymweliadau," meddai.
"Oedden nhw wrth eu boddau ac yn meddwl bod y gwasanaeth yn anhygoel. Roeddwn i'n cael croeso mawr gan y teuluoedd i gyd.
"Roedd e'n deimlad braf iawn."
Fe gafodd Mared wobr gan y bwrdd iechyd am "fynd y filltir ychwanegol".
Ond gyda chymaint o benawdau negyddol yn sôn am broblemau y bwrdd mae Mared yn cydnabod y gall hyn wneud i staff deimlo'n ddigalon.
"Storis drwg mae rhywun yn apt o glywed bob amser. So mae'n neis bod pobol yn clywed bod pethau da yn digwydd yn y gwasanaeth iechyd hefyd - bod pobol yn barod i fynd y filltir ychwanegol.
"Ond does dim digon o staff - dyna'r broblem."
Mae prinder staff wrth wraidd nifer o ffaeleddau diweddar yn y bwrdd iechyd.
Yn ôl Dr Lyons mae hanes y bwrdd a'r argraff fod gan y sefydliad enw drwg ar brydiau yn ei gwneud hi'n anoddach i ddenu staff.
"Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gyffredinol yn cael trafferth recriwtio ond mae Betsi Cadwaladr yn sefydliad sydd â pheth hanes, ac mae'n gwneud y recriwtio yna'n anoddach i ni," meddai.
"Rydyn ni'n cael anhawster i recriwtio meddygon teulu... Ond mae 'na broblemau penodol i ni hefyd mewn arbenigeddau fel adrannau brys a gwasanaethau oncoleg a chanser a'n gwasanaeth fasgwlar."
Ym mis Medi gwariodd y bwrdd iechyd 6.5% o gyfanswm y bil tâl ar staff asiantaeth dros dro - £13.9m mewn mis.
Yn ôl y bwrdd roedd y gwariant er mwyn ymateb i "bwysau parhaus" ar ofal brys a "gwaith parhaus" i fynd i'r afael â rhestrau aros.
Uned Frys Ysbyty Glan Clwyd
Un o brif flaenoriaethau'r bwrdd iechyd yw gwella'r amodau yn uned frys Ysbyty Glan Clwyd yn dilyn cyfres o adroddiadau beirniadol am ddiogelwch cleifion gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Ond pa welliannau sy'n cael eu gwneud?
Wrth drafod y newidiadau dywedodd Gaynor Thomason, arweinydd y tîm sy'n ceisio gwella safonau: "Rydyn ni wedi gwneud rhai pethau cyflym... fel sicrhau bod rhai yn gallu cael asesiad cychwynnol yn gyflymach," meddai.
"Mae gennym ni uwch nyrsys wrth y drws ffrynt i ofyn y cwestiynau cywir er mwyn i ni allu adnabod y rhai sydd angen y gofal mwyaf brys.
"Ond mae newid y system ehangach yn mynd i gymryd amser hir.
"Felly fe welwch chi newidiadau bach fydd yn gwneud gwahaniaeth i gleifion unigol fel asesiadau cychwynnol cyflymach.
"Efallai y bydd angen i chi aros chwe i saith awr o hyd, ond byddwn yn anelu at roi paned a brechdan i chi tra byddwch chi'n aros."
Ond y gwirionedd yw bod oedi hir yn gyffredin i bob ysbyty yn y gogledd.
Mae unedau brys ysbytai Glan Clwyd, Wrecsam Maelor a Gwynedd ymhlith y rhai sy'n perfformio waethaf o ran cleifion sy'n gorfod aros mwy na phedair a 12 awr.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr hefyd wedi cofnodi'r nifer fwyaf o oriau y mae ambiwlansys wedi gorfod aros tu allan i'r unedau hynny.
"Mae'n rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb ac ymddiheuro i'r bobl hynny sy' ddim yn cael y gofal brys y dylen nhw ei ddisgwyl," meddai Dr Lyons.
"Mae'n gymhleth, yn ymwneud â recriwtio a meysydd eraill fel gwelyau mewn gofal preswyl a'r gymuned.
"Ar hyn o bryd mae gennym ni tua 300 o gleifion sy'n addas i adael - fe fyddai hynny'n rhyddhau gwelyau i bobl eraill."
Gall 120 claf fod yn aros
Ar ymweliad diweddar â'r ysbyty fe gefais gyfle i weld sut mae straen ar draws y system iechyd a gofal yn arwain at oedi hir ger y drws ffrynt.
Ganol bore, a roedd sgrîn yn ystafell reoli'r ysbyty yn dangos bod saith ambiwlans eisoes yn aros y tu allan i'r uned frys a dau arall ar y ffordd yno.
Roedd un ambiwlans wedi bod yn aros am wyth awr a 51 munud i drosglwyddo claf i ofal yr uned frys.
Roedd sgrîn arall yn dangos fod 58 o gleifion yn yr uned frys, ac un claf wedi bod yn aros am 24 awr a dau funud.
Yn ôl staff, ar fore prysur iawn gall hyd at 120 claf fod yn aros yno.
Fel 'gwyddbwyll dynol'
Esboniodd Martin Farr, rheolwr clinigol safle Glan Clwyd, fod yr oedi yn deillio o'r ffaith bod dim digon o welyau yn rhydd ar wardiau'r ysbyty i drosglwyddo cleifion iddyn nhw.
Ac er fod timau penodol yn ceisio adnabod y cleifion oedd yn ddigon iach yn feddygol i fynd adref, roedd problemau o ran gofal cymdeithasol a gofal yn y gymuned yn arafu llif cleifion.
"Ambell ddiwrnod fe allwn ni gael cyn lleied â 12 i 15 o bobl yn gadael pan fo 20 i 30 eisoes yn aros i ddod mewn ben bore," meddai.
"Mae fel jyglo yn y bôn - neu wyddbwyll dynol."
Felly, her benodol i fwrdd iechyd y gogledd, fel byrddau iechyd eraill yw sut mae lleihau'r pwysau ar yr ysbytai mawr a chynnig mwy o gefnogaeth fel bod pobl yn llai tebygol o fod angen mynd i'r ysbyty, neu yn gallu dychwelyd adref yn gynt ar ôl bod yno.
Fe wnes i gwrdd ag aelodau tîm yn Rhuthun ble mae staff y bwrdd iechyd a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio law yn llaw i gyflawni hynny.
Ar wal y swyddfa ma na 'restr o "welyau" - ond dyw'r rhain ddim wedi eu lleoli mewn unrhyw adeilad, gwelyau "rhithwir" ydyn nhw - yn aml gwelyau cleifion yn eu cartrefi eu hunain.
Y theori yw, os oes modd i rywun gael y gefnogaeth briodol gan staff fel nyrsys cymunedol, meddygon teulu, gofalwyr cymdeithasol ac ati bod modd "agor" y gwelyau hynny fel bod cleifion yn gallu aros yn eu cartrefi.
Dod â'r ysbyty 'i gartref y claf
Tra bod ysbytai â nifer penodol o welyau sydd yn aml iawn wedi'u llenwi, does dim uchafswm dan y model hwn o welyau y gellid eu hagor yn y gymuned, os oes digon o staff ar gael.
"Y syniad ydy dod â'r ysbyty i gartref y claf. Er nad oes gyda ni'r holl beiriannau fel sy' mewn ysbyty mae ganddon ni'r cyfarpar sydd ei angen i ofalu amdanyn nhw adre," meddai Gwawr Roberts sy'n goruchwylio cleifion yn Rhuthun a Chorwen.
"'Dan ni'n lwcus fod gwasanaethau fel meddygon teulu, a gwasanaethau canser a diwedd oes yn rhai ychwanegol, yn ein helpu ni i gadw'r cleifion yma adref."
Eto, mae Gwawr yn cydnabod fod prinder staff yn cael effaith.
"Er ein bod ni'n recriwtio ma' nifer yn dal yn gadael, yn mynd i faes arall neu sector arall."
Yn ôl y bwrdd iechyd bydd modelau gofal integredig fel hyn wedi eu lleoli yn nwyrain, canol a gorllewin gogledd Cymru yn gosod y gwasanaeth iechyd yn yr ardal ar seiliau mwy cadarn yn y dyfodol.
Ond mae Dr Lyons yn cydnabod y gallai gymryd amser hir i fynd i'r afael â'r holl broblemau.
"Rwy'n amau y gallai gymryd misoedd i flynyddoedd cyn bod yr holl faterion ry'n ni'n ymwybodol ohonyn nhw yn cael eu datrys yn llawn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Awst 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022