Cyngor Powys yn dileu opsiwn wythnos ysgol fyrrach

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn defnyddio gliniadurFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Cyngor Powys wedi cadarnhau nad yw symud ysgolion y sir i wythnos pedwar diwrnod yn un o'r opsiynau dan ystyriaeth i leihau costau, yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru.

Fe ddaeth i'r amlwg ddechrau Tachwedd fod y cyngor yn edrych ar nifer o syniadau i helpu ysgolion arbed arian ar gynhesu adeiladau.

Un o'r opsiynau posib "mewn achosion eithafol", yn wyneb biliau ynni uchel a chwyddiant, oedd rhoi gwersi ar-lein i ddisgyblion am ddiwrnod yr wythnos.

Mae'r cyngor yn dweud nawr bod y "dewis hwn bellach wedi'i ddileu".

Ond mae'n rhybuddio bod yr her yn parhau wrth i gyrff cyhoeddus weld "effaith lawn y cynnydd mewn prisiau ynni dros y flwyddyn ariannol nesaf".

Yr opsiwn "mwyaf eithafol"

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, yr aelod o gabinet Cyngor Powys sy'n arwain ar faterion addysg: "Mae'n hanfodol fod ysgolion yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa sy'n eu hwynebu wrth baratoi eu cyllidebau.

"Dyna pam y gwnaeth y cyngor baratoi pecyn cymorth rheoli ariannol ar gyfer ysgolion oedd yn cynnwys data a syniadau cymharu cyllidebol manwl ar sut i leihau costau o amgylch yr ysgol.

"Wythnos ysgol pedwar diwrnod oedd y mwyaf eithafol o'r opsiynau hyn."

Ffynhonnell y llun, PA Media

"Fodd bynnag, mae'r cyngor wedi dileu'r opsiwn hwn o'r pecyn cymorth yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru, nad oedd yn gefnogol o ysgolion yn symud i wythnos pedwar diwrnod ar hyn o bryd.

"Nid yw'r penderfyniad hwn yn golygu bod yr her ariannol wedi gwella'n sylfaenol dim ond bod un dewis yn llai ar y bwrdd.

"Byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion ac yn edrych ar opsiynau i leihau eu costau rhedeg na fydd yn cael effaith ar ein dysgwyr."

Pynciau cysylltiedig