Plannu perllan ym Mharc Bute ar ôl difrod i goed

  • Cyhoeddwyd
Parc Bute
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd wedi gosod camerâu wrth fynedfeydd y parc

Mae aelodau o gymuned yng Nghaerdydd wedi plannu perllan ym Mharc Bute yn y brifddinas, ar ôl i ddifrod "sylweddol" gael ei achosi i goed yno y llynedd.

Ym mis Medi cafodd tua 50 o goed eu difrodi gan fandaliaid - yn eu plith rhai oedd wedi eu plannu er cof am anwyliaid fu farw yn ystod y pandemig.

Mae £5,000 wedi ei godi gan The Secret Garden Café yn y parc ar gyfer plannu'r berllan.

Dywed Cyngor Caerdydd eu bod nhw'n ceisio sicrhau fod y parc yn teimlo'n ddiogel i ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer fawr o goed eu difrodi ym Mharc Bute yng Nghaerdydd ym Medi 2021

I Jenny Bradley a'i chwaer Sian, oedd yn y parc ar gyfer yr ail-blannu, roedd plannu dwy goeden newydd ar gyfer pob un gafodd ei chwalu yn golygu fod "rhywbeth da iawn" yn dod o'r niwed gafodd ei achosi.

Dywedodd Jenny eu bod nhw "wir, wir yn siomedig" ar ôl darganfod fod y goeden yr oedden nhw wedi ei phlannu yno'n wreiddiol, i gofio am eu tad-cu fu farw ar ddechrau'r pandemig, wedi cael ei fandaleiddio yn yr ymosodiad ar 9 Medi 2021.

"Fel dinesydd o Gaerdydd roeddwn i'n siomedig iawn i weld fod ein parc hyfryd ni wedi ei fandaleiddio," meddai.

"Doedd hyn ddim o angenrhaid am ein coeden ni. Roedd yn teimlo fel ymosodiad ar Gaerdydd gyfan."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Ychwanegodd Sian fod y parc yn teimlo fel lle diogel, ond fel aelod o'r gymuned LHDTC+ bod yr ymosodiad wedi codi amheuon.

"Dwi wastad wedi teimlo'n ddiogel yn y parc a dwi yn teimlo fel ei fod yn le diogel, ond mae yn gwneud i rywun feddwl ddwywaith fod yna bobl allan yna sydd yn barod i ymosod ar ein gofod ni, ac ymosod ar bobl fregus."

Melissa Boothman, perchennog caffi y Secret Garden, oedd un o'r rhai cyntaf i ddarganfod y difrod pan oedd hi ar ei ffordd i'r gwaith. Roedd hi wedi ei "brawychu a'i thristáu", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Melissa Boothman sefydlu tudalen codi arian wedi iddi weld bod cwsmeriaid wedi'u siomi gan y difrod

Cododd staff y caffi £5,000 ar gyfer adfer y berllan. Ond mae Ms Boothman yn poeni am ddiogelwch yno - mae menywod ifanc sy'n gweithio iddi weithiau yn gorfod aros yno ar ôl iddi dywyllu.

Dywedodd fod angen gwneud mwy.

"Dyma ein gofod diogel ni a 'da ni angen dal ein gafael ynddo," meddai.

"Mae angen i'r gymuned arwain, a cael llais ynglŷn â hyn," meddai, "ac i'r cyngor gydweithio gyda'r gymuned i ddweud sut i wneud fan hyn yn fwy diogel."

Mae Jennifer Burke-Davies, aelod o gabinet Cyngor Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros barciau, yn cytuno.

Gydag ymosodiadau eraill wedi digwydd yno hefyd, mae'r awdurdod wedi gosod camerâu cylch cyfyng yn y mynedfeydd, ac wedi trefnu ceidwaid parciau ac aelodau o Heddlu'r De i fod ar batrôl yno.

Ond dywedodd y Cynghorydd Burke-Davies fod angen cadw cydbwysedd pan mae 'na awgrymiadau am gau'r parc dros nos.

"Fe ddylai parciau o ran eu natur fod ar gael i bawb ac ni ddylai'r hyn ddigwyddodd amharu ar fwynhad ymwelwyr," meddai.

Mae yna dros 2.5 miliwn o ymweliadau â Pharc Bute bob blwyddyn, ac mae'r cyngor wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd cyllid o'r cynllun Strydoedd Diogel yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo diogelwch y cyhoedd ymhellach.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys cyflwyno "man-cymorth" 24/7 yn y parc ble gall ymwelwyr gysylltu gyda thimau diogelwch y cyngor yn syth.