Crwner i ysgrifennu at Tesco yn dilyn marwolaeth padlfyrddiwr

  • Cyhoeddwyd
Emma Louise PowellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emma Louise Powell mewn damwain Padlfyrddio ym Morfa Conwy

Mae crwner yn bwriadu ysgrifennu at Lywodraeth y DU ac archfarchnad i godi pryderon am ddiogelwch padlfyrddau.

Roedd John Gittins, Uwch Grwner Canol a Dwyrain Gogledd Cymru, yn siarad yn ystod cwest i farwolaeth Emma Powell, 24, a fu farw wrth badlfyrddio yng Nghonwy fis Gorffennaf.

Bu farw ychydig oriau wedi iddi hi a'i chyfnither brynu padlfwrdd o archfarchnad Tesco ger Llandudno.

Clywodd y cwest yn Rhuthun bryderon ynglŷn â'r defnydd o gortyn ffêr, sy'n cysylltu'r defnyddiwr â'r bwrdd.

Clywyd hefyd nad oedd Emma, ​​na'i chefnder Amber Powell, 21, yn gwisgo siacedi achub ar y pryd.

Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol, dywedodd Mr Gittins ei fod yn cyhoeddi adroddiad atal marwolaethau'r dyfodol i Lywodraeth y DU a chwmni Tesco.

O ganlyniad bydd yn ysgrifennu i fynegi ei bryderon ynghylch y cyngor ar ddefnyddio cortyn o'r fath, ac y dylid darparu cyngor diogelwch - gan gynnwys y defnydd o siacedi achub - gan adwerthwyr byrddau padlo.

Dywedodd nad oedd wedi dewis Tesco ar gyfer sylw arbennig, ond y byddai'n ysgrifennu atyn nhw fel darparwr bwrdd Ms Powell.

Dywedodd Tesco eu bod yn cydymdeimlo gydag anwyliaid Emma, ac y bydden nhw'n ystyried pryderon y crwner ar ôl derbyn ei lythyr.

Achosion tebyg

Dywedodd Mr Gittins fod y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cysylltu ag ef ddydd Mercher, a chafodd weld adroddiad a gyhoeddwyd ganddynt ar farwolaethau pedwar padlfyrddiwr yn Hwlffordd.

Ar ôl darllen adroddiad MAIB, dywedodd fod peth tebygrwydd rhwng yr achosion, ond bod cyhoeddiad y ddau adroddiad mor agos i'w gilydd yn "gyd-digwyddiad llwyr".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roed Emma Powell a'i chyfneither wedi prynu padlfyrddau o siop Tesco ger Llandudno yn gynharach yn y dydd

Ychwanegodd Mr Gittins nad oes gan grwneriaid "y dannedd i orfodi newid", ond byddai gan Tesco a Llywodraeth y DU 56 diwrnod i ymateb i'w adroddiad.

"Rwy'n gwybod na fyddwn yn gyfforddus oni bai fy mod yn codi fy mhryder gyda rhywun," meddai.

Tynnu gan y llanw

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun fod Emma a'i chyfneither Amber wedi mynd i Forfa Conwy ar 14 Gorffennaf yn ystod gorllanw tua 21:30, pan doedd hi dal heb nosi'n llawn.

Dywedodd Courtney Powell, chwaer Amber - a oedd hefyd yn bresennol ar y noson - iddi sylwi bod y môr braidd yn arw, ond dywedodd Emma ei bod eisiau aros yn y fan honno oherwydd ei bod "eisoes wedi chwythu fy mwrdd i fyny".

Doedd yr un ohonyn nhw yn gwisgo siacedi achub, ac, er bod y dŵr wedi cael ei ddisgrifio fel ychydig yn arw, doedd y tywydd ddim yn ddrwg.

Dywedodd Courtney Powell fod y ddwy ddynes yn cael eu tynnu gan y llanw o fewn munudau, ac "yn sydyn fe darodd Emma i mewn i ochr y lanfa".

Dywedodd Ms Powell wrth y gwrandawiad iddi glywed Amber yn galw: "Help, mae Emma yn y dŵr. Mae hi'n sownd. Alla' i ddim ei gweld hi."

Cafodd yr RNLI, Gwylwyr y Glannau, yr heddlu a'r ambiwlans eu galw i'r fan.

Ffynhonnell y llun, Aran Lennox/North Wales Live
Disgrifiad o’r llun,

Daeth sawl ambiwlans a Gwylwyr y Glannau i geisio helpu'r grŵp o badlfyrddwyr

Credir bod Emma - nofiwr cryf oedd wedi derbyn hyfforddiant achub bywyd - wedi parhau o dan y dŵr am tua 10 munud, cyn cael ei darganfod gan yr RNLI wedi'i ei chlymu mewn ysgol ar y lanfa.

Roedd Emma ac Amber wedi bod yn gwisgo eu clymau diogelwch, ond clywodd y cwest fod yna wahanol ffyrdd o'u gwisgo - o amgylch y ffêr neu o amgylch y canol.

Dywedodd David Jones o RNLI Conwy bod cyflymder y dŵr ar y pryd wedi bod tua phum not, a "byddai'n her i unrhyw un nofio yn erbyn hynny".

Ychwanegodd, yn ei farn ef, na ddylai byrddau padlo gael eu gwerthu "heb ryw fath o gymorth i aros ar yr wyneb y dŵr".

Cofnododd y crwner bod marwolaeth Emma Powell yn ddamwain.

Pynciau cysylltiedig