Ysgolion yn ceisio denu disgyblion absennol yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae ysgolion ar draws Cymru yn troi at arferion newydd er mwyn denu disgyblion yn ôl i'r ystafell ddosbarth.
Dydy cyfradd presenoldeb ysgolion Cymru heb gyrraedd 94% ers cyn y pandemig.
Mae'n agosach at 90% ar gyfartaledd erbyn hyn, er bod hynny wedi gostwng i 85.3% yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Mae'r rhesymau a datrysiad i hyn yn aml yn gymhleth.
Ond mae banciau dillad, golchi gwisgoedd ysgol ac amserlenni ysgafnach ymhlith y mesurau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan rai ysgolion.
Yn Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn ger Llandudno mae 'na dîm o staff arbenigol yn canolbwyntio ar les disgyblion ac yn gobeithio denu'r rhai sy'n absennol yn gyson yn ôl i'r ysgol.
"Ar y cyfan mae'r disgyblion wedi ymdopi yn dda iawn [ers y pandemig]," meddai'r pennaeth cynorthwyol, Eurgain Owen.
"Ond 'dan ni'n sicr wedi gweld cynnydd yn y disgyblion sy'n dioddef hefo gor-bryder."
'Gwisg ysgol yn ffactor'
Yn y swyddfa, mae Eurgain Owen ac Osian Hughes, uwch swyddog bugeiliol y Creuddyn, yn edrych ar ba ddisgyblion o bosib sydd angen cymorth ychwanegol er mwyn eu helpu i ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth.
"Mae 'na ddirywiad sylweddol, boed hynny yn ddiwrnod achlysurol neu yn gyfnodau hirach o absenoldeb," meddai Ms Owen.
"Yn sicr 'dan ni wedi tynhau'r modd 'dan ni'n ymafael â phethau ond yn anffodus mae'r patrymau yn parhau."
I ddatrys y sefyllfa mae'r tîm yn adnabod disgyblion sydd angen cymorth, yn cyfathrebu gyda'r cartref ac yna'n ystyried sut all yr ysgol eu cefnogi.
Newidiodd y pandemig drefn arferol disgyblion, gan achosi gor-bryder i nifer.
Bellach mae heriau costau byw hefyd i weld yn arwain at rai yn colli gwersi.
Ers y pandemig mae nifer y disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn Ysgol y Creuddyn "bron â bod wedi dyblu", meddai Ms Owen.
Mae'r ysgol rŵan yn edrych ar gyflwyno "cyfnewidfa ddillad", lle fyddai modd i rieni a disgyblion gael dillad am ddim i leddfu pwysau ariannol adref.
Mae'r ysgol hefyd yn codi llai o bres ar ddisgyblion ar ddyddiau gwisgoedd eu hunain ac yn annog rhai sy'n gallu i gyfrannu i'r banc bwyd sy'n cael ei roi i'r gymuned leol.
"Mae gwisg ysgol yn ffactor," yn ôl Mr Hughes.
"Yn ddiweddar mae 'na gynnydd mewn dysgwyr sydd ddim efo'r gwisgoedd ysgol, neu 'sgidiau cywir ac yn aml wrth eu holi, yr ateb ydy mai dim ond un pâr o drowsus sydd ganddyn nhw a'r rheiny yn y golch felly mae rhaid gwisgo tracwisg."
Mae staff yn dweud bod gofyn felly i fod yn ystyrlon wrth gydbwyso rheolau gwisg ysgol a deall anghenion disgyblion.
"Mae 'na gefnogaeth - cyfarfodydd rhieni, llythyrau cefnogi, amserlen llai - er mwyn eu hail-integreiddio i'r ysgol, felly mae nifer o ffyrdd o ddelio a mynd i'r afael â phresenoldeb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020