'Dim angen cosbi'r plant sy'n dod mewn i ofal'
- Cyhoeddwyd
"Doedd o'm yn gwybod lle roedd o ar fap a doedd o ddim yn dallt acen y bobl oedd yn byw o'i gwmpas. Roedd o'n Gymraeg iaith gyntaf."
Dyna brofiad un bachgen o'r gogledd a gafodd ei symud at ddarparwr gofal preifat yng nghanolbarth Lloegr wedi iddo orfod derbyn gofal gan ei awdurdod lleol.
Y llynedd roedd cynghorau Cymru yn gofalu am dros 7,000 o blant, gyda rhai ohonyn nhw yn gorfod symud ymhell tu allan i'r sir oedd yn gofalu amdanynt.
Weithiau roedd yn rhaid symud plant am resymau diogelwch ond cafodd rhai eu symud oherwydd diffyg llefydd gofal yn eu hardaloedd eu hunain.
Bwriad cynllun arloesol yw cadw cymaint o blant bregus mor agos i'w cynefinoedd â phosibl - mae hynny yn eu galluogi i barhau i dderbyn addysg drwy'r Gymraeg ac, lle mae'n briodol, i barhau â'r cyswllt gyda'u teuluoedd.
Fe enillodd cynllun 'Cartrefi Clyd' Cyngor Môn wobr genedlaethol yn ddiweddar, dolen allanol, gan ddenu clod gan y beirniaid am eu gallu i helpu'r plant i adeiladu perthnasau gwell.
Er nad yn addas na phriodol ymhob achos, credir y gall cynlluniau tebyg gael eu mabwysiadu mewn ardaloedd eraill, gan gadw mwy o blant mewn cysylltiad â'u cymunedau ac ysgolion iaith Gymraeg.
'Talu'n ddrud'
Mae 'Cartrefi Clyd' Môn wedi'u staffio gan ofalwyr ac yn cynnig lleoliad mor agos i gartref â phosib i blant sy'n cael gofal gan yr awdurdod - fel arfer am gyfnod dros dro wrth iddynt aros am drefniant mwy parhaol.
"Oedd ganddon ni ganran o'n plant mewn gofal oedd yn gorfod mynd oddi ar y sir i dderbyn gofal, rhan amlaf i Loegr" dywedodd Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Môn wrth Cymru Fyw.
"Ddoth o i'r amlwg yn ganol ymweliad lle roedd gweithiwr cymdeithasol wedi mynd i ymweld â phlentyn oedd wedi gorfod symud o Ynys Môn i ochra Birmingham.
"Be darodd y weithwraig cymdeithasol wrth siarad efo'r hogyn ydi doedd o'm yn gwybod lle roedd o ar fap a doedd o ddim yn dallt acen y pobl oedd yn byw o'i gwmpas o. Roedd o'n Gymraeg iaith gyntaf."
Gyda chost lleoliad asiantaeth preifat hefyd yn gallu costio hyd at £200,000 y flwyddyn fesul plentyn, fe sbardunodd yr angen i chwilio am gynlluniau mwy amgen.
"Ddaru ni edrych ar sut oeddan ni'n gallu nadu plant oedd yn ein gofal ni rhag gorfod mynd oddi ar y sir," ychwanegodd, gyda'r model o gartrefi plant traddodiadol yn "mynd yn fwy heriol i'w weithredu".
"Wrth fod ni'n talu'n ddrud am y lleoliadau yma [fysa rhywun yn meddwl] ein bod yn cael yr ansawdd gorau, ond doedd hynny dim bob amser yn wir... doedd na ddim tystiolaeth gadarn a chyson."
Dros yr haf fe lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddileu'r elfen elw i ddarparwyr preifat i blant mewn gofal, dolen allanol.
Ond dywedodd llefarydd mai'n aml "nad oedd dewis" a'r "rhan amlaf fod rhaid mynd lle'r oedd y gwlâu".
"Does na neb yn canolbwyntio ar le mae'r lleoliad, doedd hynny ddim yn deimlad braf o gwbl ac oedd ganddon ni lot o'n staff yn crwydro ar hyd Cymru a Lloegr i drio cadw cysylltiad [hefo'r plant]," ychwanegodd.
"Hefo'r gost, oedd hwnnw yn sylweddol a 'dan ni wedi gweithio allan ei fod yn lot mwy cost effeithiol i ddarparu'r gofal yma ar yr ynys yn hytrach na mynd allan i'r sector breifat."
'Diwylliant iaith yn bwysig'
Yn rhannol seiliedig ar syniad a ddatblygwyd yn Rwmania, mae'r 'Cartrefi Clyd' yn darparu lle ar gyfer hyd at dri o blant ac wedi eu staffio gan dimau bach o weithwyr gofal.
Mae'r cartrefi hyn wedi'u lleoli o fewn tai arferol ar yr ynys, un ai o stoc bresennol y cyngor neu wedi eu prynu yn arbennig gan yr awdurdod lleol gan grantiau Llywodraeth Cymru. Mae pedwar eisoes wedi'u sefydlu.
Yn ôl ffigyrau a ryddhawyd y llynedd, dim ond dau o blant yr ynys a gafodd eu hanfon i leoliadau preifat tu allan i'r sir, o'i gymharu â 13 yn 2018/19.
Roedd yna enghraifft arall o blentyn yn gallu dathlu pen-blwydd gyda rhiant am y tro cyntaf erioed.
Dywedodd Fôn Roberts bod y buddion eisoes yn amlwg, gan nodi parodrwydd ysgolion lleol i gynnig cymorth.
"O ran y plant mae eu gweithwyr cymdeithasol nhw ar yr ynys ond yn bwysicach mae eu teuluoedd nhw ar yr ynys.
"Mae'r staff i gyd yn siarad Cymraeg a Saesneg ac mae'r diwylliant iaith yn bwysig. Mae rhai o'r plant wedi bod yn chwarae pêl-droed efo clybiau lleol ac yn chwarae rhan yn y gymuned, lle os fysan nhw i ffwrdd fysa hynny ddim yn digwydd.
"Mae'r ffaith bod nhw ond 20 munud i ffwrdd o'u teuluoedd, ella, yn meddwl rhywbeth iddyn nhw. Mae plant sydd wedi eu lleoli yn Lloegr yn stryglo weithiau drwy beidio gwybod pa mor bell a pha mor aml fysan nhw'n gallu gweld eu rhieni, felly mae hwnnw wedi bod yn bwysig.
"Tydi'r pentref neu'r gymuned ddim yn wybodol fod y plant yma mewn gofal, mae nhw yn ffitio fewn i'r gymuned fel fysa unrhyw blentyn arall. Does yna ddim rheswm i blant mewn gofal gael eu trin yn wahanol."
'Maen nhw'n caru'r swydd'
Er hynny, pwysleisiodd nad yw gofalu dros blant mewn gofal yn wahanol i unrhyw elfen arall o wasanaethau cymdeithasol yn nhermau trafferthion i ddenu staff i'r maes.
"Yr her wrth gwrs ydi staffio, fyswn wrth fy modd yn gallu agor pedwar arall, mae na ddigon o alw i agor pedwar os nad pump [cartref clyd] arall.
"Mae angen staff eitha' arbennig, maen nhw'n gweithio shifts felly angen bod yn barod i adael teuluoedd eu hunain i edrych ar ôl plant yn ein gofal ni, a weithia' os ydi'r plentyn heb gael diwrnod cystal am be bynnag reswm, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn barod i ddelio gyda unrhyw issues ddaw o hynny, o gofio fod ein plant mewn gofal wedi bod drwy trawma sylweddol.
"O ganlyniad mae'n rhaid i'n staff fod yn eitha resilient i weithio efo'r unigolion a bod yn barod i rechargio a dod yn ôl."
"Da ni di bod yn lwcus yn denu'r staff sydd ganddon ni, sa ni'n gallu gwneud efo rhedeg rhai ohonyn nhw drwy photocopier a chael mwy ohonyn nhw!
"Mae'n fater cenedlaethol dydi, tydi'r tâl ddim yn wych, 'sa ni wrth ein boddau yn gallu cynyddu'r tâl... ond ddim pres ydi o bob tro.
"Mae pobl yn ei wneud o achos eu bod yn caru'r swydd."
'Perthynas cryfach gyda'u plant'
Gyda rhai teuluoedd wedi bod yn "amheus" o'r syniad i ddechrau, dywedodd fod rhai plant mewn gofal bellach wedi gallu dychwelyd at eu teuluoedd.
"Mae hwnna'n rhywbeth i'w ddathlu pan mae hynny'n digwydd ond neith o'm gweithio bob tro a dyw e ddim yn briodol ymhob achos.
"Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd wedi arfer hefo'u plant yn mynd i ffwrdd, a maen nhw wedi gweld gwahaniaeth o allu magu perthynas gydag aelodau'r staff a chael perthynas gryfach gyda'u plant am fod nhw'n byw yn lleol."
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, deilydd portffolio gwasanaethau cymdeithasol y cyngor, fod y cydnabyddiaeth ar lefel y DU yn "hwb enfawr" ac yn dangos bod y prosiect "wedi gweithio'n wych."
"Oedd o'n brosiect sydd wedi bod yn agos at fy nghalon, yn rhywbeth mor bwysig fel bod ein plant a phobl ifanc yn gallu aros a chwarae'u rhan yn y gymuned Gymraeg a Chymreig," meddai.
"Mae'n agoriad llygad faint o waith sy'n mynd ymlaen tu ôl i'r llenni - gwaith sydd yn sicr angen ei gydnabod.
"Mae'r iaith yn ffactor bwysig, roedd ein plant yn symud tu allan i'r cadarnleoedd Cymraeg rheiny, ac yn amlach na pheidio roedd y plant yn symud i beidio clywed Cymraeg o gwbl.
"Ond mae na fwy na jyst yr iaith, ac mae'n rhywbeth a all ei fabwysiadu gan gynghorau eraill... chwarae'ch rhan a bod yn rhan o'r un gymuned a dal i fynychu'r un ysgol.
"Ar ddiwedd y dydd dydi'r plant a phobl ifanc yna ddim angen eu cosbi oherwydd bod nhw'n dod i ofal - mae'r cynllun yn sicrhau bod nhw'n dal i gael mynychu'r un ysgol, chwarae i'r un clwb pêl-droed, cael yr un cylch o ffrindia' a'u bod yn cael aros lle maen nhw'n gyfforddus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019