Olivia Breen yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2022
- Cyhoeddwyd
Y para-athletwraig Olivia Breen yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales 2022.
Ym mis Awst, enillodd Breen fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad gan guro Sophie Hahn o Loegr yn y ras 100m T37/38 yn Birmingham.
Fe gofnododd record bersonol newydd yn y broses gan orffen mewn 12.83 eiliad.
"Mae'n sioc. Do'n i ddim yn disgwyl ennill [y wobr]..." meddai.
"Mae hyn yn anrhydedd enfawr gyda pherfformiadau mor gryf o fewn chwaraeon Cymru.
"Roedd bod yn rhan o'r tîm yn anhygoel a bod yn un o'r capteiniaid [athletau] hefo Osian Jones yn foment sbesial iawn i fi."
Ychwanegodd bod pawb yn Nhîm Cymru wedi "cefnogi ein gilydd" ac yn dilyn cyfnod Covid, "mae'n gwneud i chi werthfawrogi bywyd a chael torf hefyd".
Perfformiad gorau ei gyrfa
Ei medal oedd y gyntaf gan Gymraes ar y trac mewn Gemau Cymanwlad ers i Kay Morley ennill y ras 100m dros y clwydi yn Auckland, 1990.
Roedd yn hyd yn oed mwy melys gan fod Breen mor aml wedi colli allan i Hahn ar y trac.
Y flwyddyn flaenorol roedd Breen yn seithfed wrth i Hahn amddiffyn ei theitl Paralympaidd T38 yng Ngemau Tokyo.
Ond yn Birmingham daeth tro ar fyd o'r diwedd wrth i Breen gynhyrchu perfformiad orau ei gyrfa.
Profodd ei chyfweliad emosiynol ar ôl y ras yn Birmingham i fod yn un o eiliadau mwyaf cofiadwy'r Gemau.
"Byddai cael unrhyw fath o fedal wedi bod yn anhygoel ond roedd ennill yr aur mor arbennig, ac roedd cael fy nheulu a ffrindiau yno yn anhygoel," ychwanegodd.
"Rydw i wedi bod mewn cystadleuaeth â Sophie Hahn ers naw mlynedd bellach, mae hi wedi bod yn ennill ers blynyddoedd...mae'n dangos bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed."
'Perfformiad syfrdanol'
Dewiswyd Breen ar gyfer gwobr BBC Cymru Wales gan banel o arbenigwyr a gadeiriwyd gan gyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru Nigel Walker, ac sy'n cynnwys y Barwnes Tanni Grey-Thompson, Leshia Hawkins prif weithredwr Criced Cymru, cyn bêl-droediwr Cymru a chwaraewr pêl-rwyd Nia Jones ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru.
"Olivia Breen oedd dewis unfrydol y panel i fod yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru 2022 am ei pherfformiad rhagorol yn ystod Birmingham 2002," dywedodd Walker.
"Roedd yn berfformiad a oedd yn atseinio ar draws y DU wrth gael ei ailchwarae am sawl diwrnod yn dilyn ei pherfformiad syfrdanol yn trechu'r bencampwraig a'r ffefryn, Sophie Hahn.
"Roedd yn berfformiad oedd yn un o uchafbwyntiau y gemau gyfan.
"Roedd safon y perfformiad yn amlwg ond hefyd y ffordd y cafodd ei phleser amlwg ei rannu gan y rhai a oedd yn ddigon ffodus i fod yn y stadiwm - a hefyd gan y miliynau yn gwylio ar y teledu. Moment wirioneddol arbennig.
"Roedd yna grybwylliadau anrhydeddus i'r sgïwr Menna Fitzpatrick a ychwanegodd at ei chasgliad helaeth o fedalau ar lwyfan y byd er gwaethaf newid canllaw hwyr, i Gareth Bale a'i berfformiadau rhagorol yn helpu Cymru i ymddangos yn ei Chwpan Byd Pêl-droed dynion cyntaf ers 1958 ac i Jeremiah Azu a gyhoeddodd ei fod wedi cyrraedd fel uwch-athletwr trac gyda pherfformiadau trawiadol yng Ngemau'r Gymanwlad a'r Pencampwriaethau Ewropeaidd."
Mae Breen hefyd yn cystadlu yn y categori naid hir F38 ac mae bellach yn canolbwyntio ar Bencampwriaethau Para-Athletau'r Byd ym Mharis yng Ngorffennaf 2023.
"Rwyf wedi anafu am y chwe wythnos diwethaf ond rwy'n dod yn ôl i mewn iddo," ychwanegodd Breen.
"Fe ddigwyddodd i fy mhen-glin pan oeddwn yn hyfforddi ym Mhortiwgal.
"Roeddwn yn teimlo mor dda, des yn ôl i hyfforddi ac roedd popeth yn mynd yn dda iawn felly roeddwn ychydig yn isel ond mae'n rhaid i mi gadw'n bositif a bydd yn dod.
"Rwyf eisiau mwy o PB's [ym Mharis], mwy o fedalau, i fynd yn gyflymach, yn gryfach a neidio ymhellach.
"Dyna fy mhrif nod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022