'Catastroffig' colli menter gymunedol ym Mro Ffestiniog
- Cyhoeddwyd
"Mae o'n bwysig iawn, calon Blaenau, maen nhw'n helpu pawb."
Dyna sut mae Diana Whitley, un o drigolion Blaenau Ffestiniog, yn disgrifio'r Dref Werdd, menter gymdeithasol sy'n cefnogi trigolion gyda materion ariannol, yn ogystal ag iechyd a lles.
Er bod y fenter wedi helpu miloedd dros y blynyddoedd diwetha', mae'n wynebu dyfodol ansicr oherwydd diffyg cyllid parhaol.
Fe dderbynion nhw grant loteri am bedair blynedd yn 2019 ond, wrth i'r arian hwnnw ddod i ben, mae'r staff yn galw am gymorth llywodraeth leol a chanolog i helpu ariannu'r prosiect yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn gwneud hynny y gallan nhw i gefnogi sefydliadau trydydd sector fel Y Dref Werdd.
Gwaith 'statudol'
Yn ogystal â rhoi chyngor a chymorth ymarferol gyda biliau ynni, dyled, ceisiadau budd-dal, mae'r Dref Werdd yn rhedeg cynllun rhoddion bwyd.
Maen nhw hefyd yn darparu cefnogaeth iechyd a lles, gan drefnu teithiau cerdded, gweithgareddau ym myd natur, dysgu sgiliau i drigolion lleol a chynnal gwaith cadwraeth yn yr ardal.
Er eu bod wedi derbyn rhywfaint o arian gan Gyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i barhau â'r gwaith am flwyddyn arall, mae'r staff eisiau model ariannu mwy cynaliadwy ac maen nhw'n credu y dylai'r prosiect dderbyn arian statudol.
Meddai Gwydion ap Wynn, rheolwr y prosiect: "'Sa ti'n gallu dadlau fod y gwaith 'dan ni'n ei wneud yn waith statudol a ddylai gael ei ddarparu gan y llywodraeth leol neu'r llywodraeth yn genedlaethol.
"Be' sy'n anodd ydy mae 'na rôl staff craidd ac mae'n anodd ffitio hynny mewn i unrhyw gais grant.
"Ond y gwir ydy, os nag ydan ni'n llwyddo i gael yr arian yna o flwyddyn i flwyddyn, mae'r gwasanaeth yn mynd i orfod dod i ben."
'Dim stigma bellach'
Rhwng sefydlu'r ganolfan alw i mewn ym Mlaenau Ffestiniog yn 2019 a'r llynedd, roedd y Dref Werdd wedi ymwneud â bron i 3,500 o bobl.
Ond mae Rhian Williams, Gweithiwr Llesiant y prosiect, yn dweud bod y galw am wasanaethau wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar.
"'Dan ni'n helpu pobl i wneud yn siŵr bod nhw'n cael bob budd-dal maen nhw fod i gael, bob cymorth maen nhw fod i gael.
"Mae 'di mynd yn gyfnod anodd ar bawb rŵan, nid dim ond y bobl sydd ar y budd-daliadau. Mae hyd yn oed pobl sydd yn gweithio yn gweld hi'n anodd rŵan efo costau byw 'di mynd i fyny, costau ynni, bob dim."
Er ei bod hi'n dweud bod yna rhywfaint o "stigma" ar y cychwyn, mae hi'n credu bod pobl yn ei chael hi'n haws dod at wasanaeth fel un nhw erbyn hyn.
"Dwi'n byw yn 'Stiniog ei hun felly dwi'n 'nabod pobl. Mae pobl yn siarad efo fi'n y siop ac yn bob man a dwi fel 'o wel, dewch i fewn'."
'Gweld pobl fatha nhw'
Mae Gwydion ap Wynn yn cytuno bod yr elfen o 'nabod y trigolion yn ffactor allweddol.
"Y peth pwysica' ydy mae pobl yn gweld y staff sydd ar y llinell flaen yn union fatha nhw'u hunain," meddai.
"'Dan ni jyst yn bobl fatha nhw, sydd yn mynd drwy'r un fath o bethau gwahanol mae bywyd yn taflu atyn nhw.
"Ond dwi yn meddwl tasa'r drysau'n cloi unwaith ac am byth, fasa fo'n gatastroffig i Blaenau ac i'r holl bobl 'da ni'n cefnogi."
Un o drigolion Blaenau sydd wedi cael llawer o gefnogaeth gan y Dref Werdd, yn enwedig wrth wella o salwch, ydy Norma Williams.
"Ddaru fi gael mastectomi rhyw dair blynedd a hanner yn ôl ac o'ddan nhw 'di stopio 'mhres i a bob dim," meddai.
"Ddois i at Gwydion i fan hyn a ddaru fo helpu fi yn bob ffordd 'sa fo'n gallu a ddoth o drwadd yn iawn i mi.
"Maen nhw 'di bod yn hynod o dda efo fi a phawb arall yn Blaenau - mae pawb yn dod o bob man yma."
'Teimlo 'mod i'n werth rhywbeth'
Yn ôl Diana Whitley, un arall o'r trigolion, mae'r Dref Werdd wedi ei helpu hithau gyda materion ariannol, fel hawlio lwfans gweini.
Ond mae'n ychwanegu bod y gweithgareddau maen nhw'n eu trefnu yn helpu ei iechyd a'i lles hefyd.
"Maen nhw 'di gwneud i mi deimlo 'mod i'n werth rhywbeth a maen nhw 'di helpu fi micsio efo bobl yn y dre'," meddai.
"'Dwi 'di bod yn dod yma i ddysgu sut i ddefnyddio'r peiriannau argraffu 'ma a dwi'n volunteer rŵan i helpu pobl eraill."
Heb Y Dref Werdd mae hi'n dweud y bydda' hi "adre' ar fy mhen fy hun yn y tŷ o hyd".
Ychwanegodd: "'Dan ni'n mynd am dro i'r coed i helpu efo'r mental health, gwneud ioga ac art yn y coed - pob math o bethau.
"'Dan ni'n mynd am dro, dysgu hanes - ac maen nhw'n dod â'r bwyd fasa'n cael ei luchio i ffwrdd yma i bobl rannu.
"'Does 'na 'nunlle arall i mi fynd i wneud rhywbeth so mae fan hyn yn bwysig iawn i mi."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod, fel partneriaid prosiect, yn "cydnabod yr holl waith da" mae'r Dref Werdd yn ei wneud ym Mro Ffestiniog.
"Rydym yn ymwybodol bod yna ansicrwydd ynghylch y dyfodol ar hyn o bryd, ond rydym mewn cysylltiad gyda'r Dref Werdd ac yn bwriadu trefnu cyfarfod gyda'n Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau yn fuan er mwyn adnabod pa gefnogaeth a chyfleodd sydd ar gael," meddai.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r argyfwng costau byw wedi cael "effaith sylweddol ar sectorau ar draws y gymdeithas" ac mae'r trydydd sector yn gweld "cynnydd enfawr o ran costau gwres, cludiant, bwyd ac offer arall ar yr un pryd â galwadau cynyddol am eu cymorth".
"Dyna pam ein bod yn parhau i fuddsoddi yn rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy'n cynnwys 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), am eu bod yn gallu darparu amrywiaeth o gymorth i sefydliadau llawr gwlad - gan gynnwys help o ran dod o hyd i ffynonellau cyllid priodol," meddai llefarydd.
"Mae ein Cynllun Trydydd Sector yn ein galluogi i adlewyrchu pwysau chwyddiant pan fo sefydliad yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022