Ymateb cymysg cymuned i gynllun fferm wynt Senghennydd

  • Cyhoeddwyd
Safle Twyn HywelFfynhonnell y llun, Bute Energy
Disgrifiad o’r llun,

Byddai safle fferm wynt Twyn Hywel yn agos i nifer o bentrefi yn ardal gogledd-orllewin Caerffili a Rhondda Cynon Taf

Mae 'na deimladau cymysg mewn cymuned i'r gogledd-orllewin o Gaerffili am gynllun fferm ynni gwynt.

Bwriad cwmni Bute Energy yw codi 14 o dyrbinau gwynt ar safle Twyn Hywel yn ardal Senghenydd i gynhyrchu "ynni glân, gwyrdd".

Er bod y gymuned yn cytuno fod angen helpu'r amgylchedd, mae rhai yn pryderu am leoliad y cynllun ger nifer o dai.

Yn ôl y cwmni maen nhw wedi bod yn siarad â phobl yn yr ardal ac wedi cynnal asesiadau amgylcheddol manwl.

Mae'r safle'n agos i bentrefi lleol fel Senghennydd, Trallwn, Cilfynydd, Abertridwr a Llanbradach.

Mae rhan fawr o'r cynllun ar dir comin ac yn cynnwys rhostir agored a chaeau pori.

O ganlyniad, maen nhw wedi addasu'r cynllun a'i leihau o'r bwriad gwreiddiol o 20 o dyrbinau i'r cynllun presennol sy'n cynnwys 14.

Mae rhan fwyaf y safle y tu mewn i ardal sydd wedi ei dynodi yn addas ar gyfer ffermydd gwynt gan Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Bute Energy
Disgrifiad o’r llun,

Mae tir comin ar ran o'r safle lle fyddai'r fferm yn cael ei datblygu

Dywedodd Catryn Newton, cyfarwyddwr budd cymunedol Bute Energy fod ynni gwynt yn "rhan bwysig o'r fwydlen er mwyn cyrraedd ein targed uchelgeisiol sero net".

Mae hi hefyd yn dweud y bydd y "pwyslais fydd y cwmni yn ei roi ar fudd cymunedol yn bwysig iawn yn yr ardal leol."

Ond, mae rhai pobl sy'n byw yn y cymunedau gerllaw yn codi cwestiynau ynglyn â'r datblygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dawn Wood yn gynghorydd ac yn dweud fod pryderon gan y gymuned am leoliad y cynllun

Yn eu plith mae y cynghorydd Dawn Wood o Bontypridd. Mae ei chartref hi'n edrych mas dros ran o'r parc ynni ac mae'n dweud y byddai'n gallu gweld rhai o'r tyrbeini o'i gardd gefn.

"Rwy o blaid ynni adnewyddadwy, ac mae hynny yn wir yn y gymuned yn gyfan gan ein bod ni'n amlwg yn wynebu argyfwng hinsawdd.

"Ry'n ni'n bositif iawn am ynni glân a ffermydd gwynt. Ond, mae gan y gymuned bryderon am y cynllun yma.

"Er bod llai o dyrbinau i'w codi erbyn hyn ry'n ni'n poeni o hyd am uchder y tyrbeini a hefyd pa mor weladwy fyddan nhw."

Ychwanegodd fod "pryder hefyd eu bod yn agos iawn i rai tai.

"Ry ni hefyd yn credu bod lle i ystyried y posibilrwydd o ffermydd gwynt yn cael eu perchnogi gan y gymuned, fel bod y budd o'r safleoedd yn mynd yn syth i'r gymuned."

'Ymateb i adborth lleol'

Mae Bute Energy yn dweud fod y cynllun wedi "esbylgu dros sawl mis mewn ymateb i adborth lleol ac asesiadau amgylcheddol manwl ac fe fydd "llai o effeithiau gweledol, sy'n gydnaws â'r diwrwedd o amgylch."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Rowlands yn gweithio i gwmni Bute Energy ac yn dweud bod y gymuned leol wedi rhoi eu hadborth ar y cynllun

Dywedodd Aled Rowlands, Cyfarwyddwr Materion Allanol Bute Energy, eu bod wedi siarad â chymunedau lleol ers dros flwyddyn a'u bod wedi addasu ers yr ymgynghoriad diwethaf.

"Ry'n ni yng nghanol tri argyfwng gwahanol - hinsawdd, costau byw a'r modd ry'n ni'n newid fel economi.

"Fe all cynllun fel hyn helpu ddatrys y tri. Bydd gyda ni ynni cynaliadwy a'r modd rhataf sydd ar gael i gael yr ynni yna, a thrwy 'neud y cynllun yma fe fyddwn ni'n gallu creu swyddi a sgiliau i bobl leol, ac yn fwy eang hefyd."

Mae'r cwmni'n dweud y bydden nhw'n creu budd cymunedol i gefnogi cymunedau lleol ar ffurf cronfa arbennig o fwy na £30m dros gyfnod o 45 mlynedd, sef oes gweithredol y prosiect.

Mae cymunedau sy'n byw yng nghysgod y datblygiad arfaethiedig yn edrych yn fanwl ar y manylion ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie Hadley yn rhedeg elusen leol ac yn gobeithio y gallai cynllun Twyn Hywel eu helpu

Yn eu plith mae Katie Hadley sydd yn arwain elusen cymunedol Little Lounge ym mhentref Cilfynydd. Mae'r elusen yn gweithio gyda phlant a theuluoedd yn lleol.

"Mae diddordeb gyda fi mewn gweld shwd y galle' Twyn Hywel helpu ni fel elusen," meddai.

"'Sdim lot o arian yn dod mewn o'n prosiectau ni yn lleol, felly ry'n ni wastod yn chwilio am ragor o arian i helpu gyda'r gwaith," meddai.

"Ry'n ni yn bescso am be' sy'n digwydd yn y byd o ran newid hinsawdd, ni'n gw'bod bod dim lot o ddyfodol gyda fossil fuels, a fi yn becso am blant fy hunan a pha fath o fyd ni'n gadael iddyn nhw yn y dyfodol."

'Ein pentref ni yw hwn'

Ond ar yr un pryd, mae hi'n dweud bod yn rhaid edrych ar effaith datblygiadau fel hyn ar gymunedau.

"Ein pentref ni yw hwn ac ry'n ni am warchod yr ardal hyfryd hon.

"Mae pobl y cymoedd yn bobl falch iawn ac mae ein cymuned yn bwysig i ni.

"Ry'n ni'n gw'bod y bydd rhaid cael cyfaddawd, ond ar yr un pryd rhaid g'neud yn siwr bod ein pentre' yn cael ei warchod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "angen ystod eang o dechnolegau i gwrdd ag anghenion ynni a thrydan yn y dyfodol wrth i ni symud at system sero net.

"Mae ynni gwynt ac ynni solar yn opsiynau sydd yn gost effeithiol er mwyn cynhyrchu trydan ac mae ganddyn nhw ran amlwg i chwarae."

Ychwanegodd eu bod "am sicrhau fod cymunedau lleol a phobl yng Nghymru yn elwa'n uniongyrchol o ynni sy'n cael ei gynhyrchu yma."

Ar hyn o bryd, mae Bute Energy yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn yr ardal ac yn dweud eu bod wedi "ymrwymo i weithio gyda'r gymuned leol i helpu i lunio y cynlluniau".

Pynciau cysylltiedig