Llywodraeth Qatar wedi talu am westy gweinidogion a'u swyddogion

  • Cyhoeddwyd
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. a Gweinidog yr Economi

Talodd llywodraeth Qatar i Mark Drakeford a'i weinidog economi aros mewn gwesty moethus pum seren yn ystod eu taith i Gwpan y Byd.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod dau weinidog a phedwar swyddog wedi cael llety mewn gwesty am ddim.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod prif weinidog Cymru, trwy dderbyn y lletygarwch, o bosib wedi tanseilio ymrwymiad ei lywodraeth i hawliau dynol.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru roedd y trip "yn gyfle i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi, cyfarfod ag aelodau o Lywodraeth Qatar a'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol i drafod hawliau gweithwyr".

£13,000 am deithiau awyren

Ddiwedd y llynedd dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol fod Llywodraeth Cymru wedi talu £13,000 am deithiau awyren ar gyfer y daith.

Yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth dilynol gan BBC Cymru, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod "llety, bwyd a thrafnidiaeth" y daith yn Qatar wedi'i ddarparu gan lywodraeth Qatar.

Mewn ymateb Rhyddid Gwybodaeth dywedodd ei fod yn rhan o becyn lletygarwch i'r holl gynrychiolwyr oedd yn mynychu Cwpan y Byd.

Dywedodd fod y trefniant wedi cael ei ddefnyddio gan Mr Drakeford a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Brady
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Drakeford yn Qatar adeg gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr UDA

Y gwesty a ddefnyddiwyd oedd y Ritz Carlton, a ddisgrifir ar wefan y cwmni fel "profiad cyrchfan cyfoethog" wedi'i leoli ar ynys breifat.

Roedd Adam Price o Blaid Cymru a Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi annog Mark Drakeford i ganslo'r daith oherwydd pryderon hawliau dynol.

Mae'r wlad wedi'i beirniadu am ei thriniaeth o bobl LHDTC+, menywod a gweithwyr mudol.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi codi "pryderon difrifol" am record LHDTC+ y wlad.

Mae'r llywodraeth wedi amddiffyn y daith dro ar ôl tro, gan ddweud eu bod nhw yn rhoi cyfle i Gymru fod ar lwyfan y byd ac i geisio buddsoddiad gan y wlad.

Mynychodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford gêm grŵp agoriadol Cymru yn erbyn UDA, tra bod Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn bresennol yn y gêm rhwng Cymru a Lloegr.

Aeth dirprwyaeth o ddau swyddog gyda'r ddau weinidog, gyda phob grŵp ar wahân yn aros am dri diwrnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe ymwelodd Prif Weinidog Cymru a Gweinidog yr Economi â Qatar i gefnogi tîm pêl-droed dynion Cymru wrth iddyn nhw gymryd rhan yng Nghwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd.

"Roedd hwn yn gyfle i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi, cyfarfod ag aelodau o Lywodraeth Qatar a'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol i drafod hawliau gweithwyr, ac i gymryd rhan mewn cyfarfodydd diwylliannol i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y Qatar a Chymru.

"Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i rannu ein gwerthoedd ar hawliau dynol, hawliau LGBTQ+, hawliau gweithwyr a rhyddid gwleidyddol a chrefyddol."

'Gwyngalchu'

Ond dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac AS dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn flaenorol na ddylai Llywodraeth Cymru "gyfrannu at wyngalchu record hawliau dynol Qatar".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Dodds y dylai'r llywodraeth a Llafur Cymru gyfrannu'r un faint â chost y daith i elusennau hawliau dynol

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Drwy dderbyn yr anrheg yma gan lywodraeth Qatari, mae Mark Drakeford o bosib wedi tanseilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau dynol, hawliau LHDTC+ a hawliau merched."

Ychwanegodd y dylai'r llywodraeth a Llafur Cymru gyfrannu'r un faint â chost y daith i elusennau hawliau dynol.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan: "Mae derbyn lletygarwch mewn perygl o danseilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gondemnio record llywodraeth Qatar ar ddiogelwch gweithwyr a hawliau LHDTC+.

"Mae'n hanfodol nawr, pan fydd y Senedd yn cyfarfod nesaf, fod y prif weinidog yn egluro sut y cododd ef a gweinidog yr economi y materion pwysig hyn, ac yn amlinellu'n glir sut mae strategaeth ryngwladol Cymru yn cyd-fynd â'n gwerthoedd fel cenedl."

Dywedodd Felix Jakens o Amnest Rhyngwladol y DU: "Fe wnaethon ni alw dro ar ôl tro ar wleidyddion ac eraill â dylanwad a fynychodd Cwpan y Byd yn Qatar i godi materion hawliau dynol gyda'u gwesteiwyr a gyda FIFA, a byddem yn gobeithio y gall Mark Drakeford a Vaughan Gething ddangos eu bod yn ceisio gwneud hyn."

Wrth amddiffyn y daith ym mis Tachwedd, dywedodd Vaughan Gething: "Mae'n fwy na dim ond cefnogi'r tîm, mae'n ymwneud â'r ffaith bod gan Gymru lwyfan byd-eang, ac mae'r proffil sydd gennym yn gyfle gwirioneddol i gael y byd i ystyried dod i Gymru, ond hefyd Cymru i fynd allan i'r byd."

Dywedodd ei fod yn trafod "ystod o opsiynau lle mae gan Qatar ddiddordeb mewn buddsoddiad pellach" gyda gweinidog cyllid y wlad, Ali bin Ahmed Al Kuwari.