Undeb Rygbi Cymru 'angen adfer hyder' wedi honiadau

  • Cyhoeddwyd
URCFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod yn ymroddgar i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Mark Drakeford wedi dweud fod angen i Undeb Rygbi Cymru (URC) adfer hyder yn eu hunain yn dilyn honiadau o anffafriaeth a bwlio yn erbyn menywod.

Dywedodd y Prif Weinidog fod angen i benaethiaid rygbi gymryd "camau brys a thryloyw", a chydnabod maint y broblem.

Daw hyn wedi i gyn-bennaeth Chwaraeon Cymru hefyd feirniadu'r "diffyg atebolrwydd" sydd o fewn URC yn sgil yr honiadau "erchyll".

Cafodd yr honiadau eu gwneud gan gyn-bennaeth rygbi merched yng Nghymru a chyn-gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru ar raglen BBC Wales Investigates.

Mae Chwaraeon Cymru wedi dweud bod angen "gweithredu ar unwaith" yn sgil yr honaidau, tra bod un o brif noddwyr rygbi yng Nghymru wedi dweud wrth reolwyr y gamp bod disgwyl gweithredu "di-oed a phendant".

Dywedodd URC eu bod yn ymroddgar i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

'Angen newid ar fwrdd URC'

Mae Huw Jones yn gyn-brif weithredwr Chwaraeon Cymru, a hefyd yn aelod o Ymddiriedolaeth Rygbi CF10, sef "llais annibynnol i gefnogwyr Rygbi Caerdydd".

Dywedodd nad oedd yr honiadau yn ei synnu, gan ddweud nad oes gan fwrdd yr undeb y "sgiliau a'r gallu" i greu'r newid sydd ei angen.

"Pan dy'ch chi'n edrych ar bethau fel y berthynas sydd gan URC gyda'r rhanbarthau a chlybiau cymunedol, a'r diffyg atebolrwydd sydd gan fwrdd URC, dyw'r honiadau yma ddim yn fy synnu," meddai ar radio'r BBC fore Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Charlotte Wathan ei bod wedi ystyried lladd ei hun oherwydd "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw o fewn URC

"Mae'r honiadau yn erchyll. Mae'n anodd iawn gwybod sut i deimlo ar ôl clywed rhai o'r honiadau a'r ymddygiad oedd rhai o'r menywod yn son amdano yn y rhaglen.

"Fedrith hwn ddim parhau, a rhaid i ni weld newidiadau yn yr undeb. Ar ddiwedd y dydd, y bwrdd sy'n gyfrifol - nhw sy'n gyfrifol am y diwylliant o fewn y corff.

"Dylen nhw wneud yn siŵr bod hwn ddim yn digwydd o gwbl, ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny.

"Dydyn nhw ddim 'efo'r sgiliau a'r gallu i 'neud hynny, a 'da ni wedi bod yn galw am 'neud newidiadau i gael bwrdd mwy proffesiynol na'r hyn sy' 'na ar y funud."

Drakeford yn 'herio' yr undeb

Ychwanegodd Mr Jones fod ymateb URC i'r honiadau wedi bod yn annigonol.

"Pan mae unigolion yn dod ymlaen, maen nhw'n gorfod profi pethau, yn hytrach na chael eu gweld fel dioddefwr.

"Pe bydden i mewn sefyllfa lle mae unigolyn yn dod ymlaen a dweud eu bod nhw wedi meddwl am gymryd ei bywyd ei hun oherwydd beth sydd 'di digwydd yn y corff, bydden i'n ymddiswyddo - bydden i ddim yn gallu byw gyda fy hun."

Mae Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Dawn Bowden eisoes wedi cwrdd ag URC brynhawn ddydd Llun wedi i'r honiadau ddod i'r amlwg yn ymchwiliad y BBC.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod gan yr undeb "le ym mywyd cyhoeddus Cymru y mae angen iddyn nhw ei gydnabod".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Undeb Rygbi Cymru am "dryloywder"

"Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ei gwneud hi'n glir yn y cyfarfod yna gydag URC fod angen i ni weld camau brys a thryloyw sy'n helpu i adfer hyder yn URC eu hunain," meddai.

"Mae hynny'n cynnwys cydnabyddiaeth gyhoeddus gan URC o faint a natur y materion gafodd eu codi yn y rhaglen."

Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn parhau i'w "herio, ble mae angen" er mwyn sicrhau fod gan bawb yn y byd rygbi "hyder" yn yr undeb.

Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies y dylai pwyllgor chwaraeon y Senedd ystyried sut allen nhw gynorthwyo'r "rheiny ddioddefodd y driniaeth yma", a gweithio gydag URC i gyflwyno camau gwarchod.

Beth yw'r honiadau?

Dywedodd un o gyn-benaethiaid rygbi merched yng Nghymru, Charlotte Wathan, wrth raglen BBC Wales Investigates ei bod wedi ystyried lladd ei hun oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd fel "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw o fewn URC.

Honnodd hefyd bod cydweithiwr gwrywaidd wedi dweud o flaen sawl person arall ei fod eisiau ei "threisio" a bod "pawb wedi chwerthin".

Mae menyw arall a oedd yn gweithio i'r undeb yn dweud ei bod hithau wedi paratoi llawlyfr i'w gŵr rhag ofn iddi ladd ei hun.

Yn dilyn yr honiadau hynny, dywedodd menyw fusnes flaenllaw, Amanda Blanc, bod hithau wedi rhybuddio URC bod yna broblem "wedi'i wreiddio'n ddwfn" o ran diwylliant ac ymddygiad o fewn yr undeb.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Amanda Blanc ymddiswyddo fis Tachwedd 2021 am ei bod yn teimlo nad oedd yr undeb yn gwrando arni

Mae'r honiadau'n "destun pryder mawr" i Gymdeithas Adeiladu'r Principality, sy'n cefnogi rygbi llawr gwlad ac yn noddi'r stadiwm ble mae Cymru'n chwarae.

Dywedodd eu prif swyddog cwsmeriaid, Vicky Wales: "Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn ymfalchïo'n fawr o ran cefnogi rygbi llawr gwlad o fewn y cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu, fel yr ydym wedi gwneud am dros 20 mlynedd.

"Mae'r Principality eisiau gweithio gyda phartneriaid sy'n rhannu ein gwerthoedd.

"Mae'r honiadau yn ymchwiliad y BBC yn destun pryder mawr a byddwn yn disgwyl i URC gymryd y camau di-oed a phendant sydd eu hangen i ddileu unrhyw ymddygiad gwahaniaethol a bwlïaidd ac i gynnal y gwerthoedd cynhwysol y dylwn ni oll eu harddel."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stadiwm y Mileniwm ei ailenwi'n Stadiwm Principality yn 2016 fel rhan o gynllun noddi 10 mlynedd

Dywedodd llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard bod yr honiadau wedi ei ddigalonni'n fawr.

"Mae'n siomedig eithriadol i weld yr hyn sy'n ymddangos yn ddiwylliant o ddifaterwch at rai mathau o ymddygiad annerbyniol a diffyg ymchwilio manwl i'r cwynion yma," meddai.

"Rwy'n gobeithio'n arw y gellid ymchwilio'n llawn i'r materion yma i roi sicrwydd [i'r achwynwyr] y bydd yna gamau gweithredu a sicrhau nad yw menywod yn cael eu hannog i beidio â chymryd rhan yn y gêm na'r drefn o'i llywodraethu."

Mae URC hefyd wedi gwrthod galwadau i gyhoeddi ei adolygiad o gêm y menywod yng Nghymru o 2021, ond mae rhannau ohono wedi cael eu gweld gan dîm BBC Wales Investigates.

Ynddo, fe wnaeth cyn-chwaraewyr ddisgrifio diwylliant rygbi Cymru ar y pryd fel gwenwynig, ac fe ddywedon nhw eu bod am roi diwedd ar "anghydraddoldeb" ac "addewidion gwag".

'Dulliau gweithredu wedi'u dilyn'

Mewn datganiad dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies eu bod wedi "synnu a thristáu i glywed yr honiadau difrifol" yn erbyn URC.

Ychwanegodd bod angen "gweithredu ar frys", gan ddweud y byddai Chwaraeon Cymru yn hapus i gynorthwyo er mwyn sicrhau "gwelliannau diwylliannol o fewn y sefydliad".

"Dylen ni ddiolch i'r rheiny sydd wedi bod yn ddigon dewr i ddod ymlaen, ac mae'n meddyliau ni gyda phawb sydd wedi eu heffeithio," meddai.

Dywedodd URC fod y ddau achos a fu'n rhan o'r rhaglen wedi bod yn destun ymchwiliad a bod "dulliau gweithredu wedi'u dilyn".

Mae URC eisoes wedi siarad am eu hymrwymiad i gêm y menywod, a'r llynedd fe wnaethon nhw gyflwyno cytundebau proffesiynol i fenywod am y tro cyntaf.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan BBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.