Plaid Cymru yn galw ar bennaeth Undeb Rygbi Cymru i ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Steve PhillipsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe benodwyd Steve Phillips fel Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn 2020

Mae Plaid Cymru a chyn-gynghorydd trais yn y cartref Llywodraeth Cymru wedi galw ar Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru i ymddiswyddo.

Mae Steve Phillips yn dweud ei fod yn credu mai ef yw'r dyn i arwain y corff ar ôl ymddiheuro yn sgil honiadau o anffafriaeth a bwlio yn erbyn menywod.

Cafodd honiadau difrifol eu gwneud gan gyn-bennaeth rygbi merched yng Nghymru a chyn-gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru ar raglen BBC Wales Investigates.

Dywedodd URC eu bod yn ymroddgar i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Dywedodd Plaid Cymru y dylai Mr Phillips "ymddiswyddo, a chael arweinyddiaeth newydd i sicrhau'r newidiadau sydd eu dirfawr angen."

Mae grŵp y blaid yn y Senedd hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried "a yw'n briodol" darparu unrhyw arian cyhoeddus pellach i URC.

Esboniodd Heledd Fychan, llefarydd y blaid ar chwaraeon, bod yr "honiadau ofnadwy o rywiaeth a chasineb at fenywod sydd wedi dod i'r amlwg yn codi cwestiynau dybryd i URC".

"Mae eu methiant llwyr i gydnabod difrifoldeb yr honiadau hyn yn dangos bod gwactod arweinyddiaeth wedi bod, ac yn parhau i fod, yn yr undeb."

'Gweithredu brys a thryloyw'

Mae'r dirprwy weinidog chwaraeon wedi galw am "weithredu brys a thryloyw" gan URC er mwyn adfer hyder.

Mewn cyfarfod gyda Steve Phillips fore Mercher, galwodd Dawn Bowden am "weithredu brys fydd yn adfer ymddiriedaeth staff, chwaraewyr, cefnogwyr, rhieni a phlant yn ei sefydliad".

Ychwanegodd: "Nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i wylio camdriniaeth ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag aflonyddu a bwlio.

"Os nad oes gan sefydliad broblem gyda'i ddiwylliant yna ni fyddai cwynion o'r maint a'r natur yma'n cael eu cyflwyno," ychwanegodd.

Yn y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru fod y tystiolaethau a roddwyd gan y menywod yn y rhaglen yn "ddinistriol".

Meddai Jane Hutt: "Roeddwn i'n meddwl eto am yr effaith ar y menywod hynny oedd â'r dewrder i siarad, y fath ddewrder ar ôl profi'r aflonyddu, y bwlio, y cam-drin".

Ychwanegodd ei fod yn ymddangos bod casineb at fenywod a rhywiaeth yn "trwytho sefydliad" URC.

'Ymddiheuriad ddim yn ddigon'

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Rhian Bowen Davies nad yw ymddiheuriad Steve Phillips "yn ddigon".

"Dwi'n credu, fel arweinydd yr undeb, dyle fe gymryd cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd," meddai.

"Er dwi'n deall mae hyn wedi digwydd cyn iddo fe ddod i'r rôl, mae'r diwylliant yn rhywbeth sydd wedi greiddio'n ddwfn yn yr undeb ac mae rhaid cymryd cyfrifoldeb am hynny.

"Mae'n rhaid cymryd camau ar unwaith ac un o'r camau mwyaf positif yw iddo fe ymddiswyddo a dod â arweinydd newydd i mewn."

'Newid y diwylliant'

Ychwanegodd: "Mae hyn yn esiampl eto lle mae misogyny a rhywiaeth yn systemig ac yn ddiwylliant sy'n ceisio tawelu unigolion sy'n dioddef unrhyw fath o drais rhywiol neu drais yn y cartref.

Disgrifiad o’r llun,

Rhian Bowen Davies: "Mae'n rhaid cymryd camau ar unwaith"

"Mae'n rhaid i ni gymryd camau mwy penodol ynglŷn â newid y diwylliant 'ma.

"Mae'r diwylliannau yma yn bodoli mewn systemau lle mai dynion sydd wedi rheoli ers degawdau.

"Mae'n rhaid i ni gael cydraddoldeb i fenywod... i ni eu gweld mewn sefyllfaoedd o arweinyddiaeth a rheolaeth er mwyn i ni allu dechrau newid y diwylliant yma."

'Cwestiwn i rhywun arall'

Mae Steve Phillips wedi ymddiheuro, ond mewn cyfweliad ddydd Mawrth dywedodd nad yw wedi ystyried ei ddyfodol yn sgil yr honiadau.

"Mae'n debyg bod hwnna'n gwestiwn i rhywun arall," meddai, gan gyfeirio at fwrdd URC sy'n cael ei gadeirio gan Ieuan Evans.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu mai ef oedd y dyn i arwain URC o hyd, ychwanegodd Phillips: "Ydw, oherwydd rwy'n credu mewn gosod y naws cywir, gosod y diwylliant cywir."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Charlotte Wathan ei bod wedi ystyried lladd ei hun oherwydd "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw o fewn URC

"Byddwn yn edrych yn ôl, yn myfyrio ac yn ystyried unrhyw adborth cadarnhaol a negyddol ar sut y gallem wneud y sefydliad yn un llawer gwell, a pharhau i fod yn well yn unol â'r disgwyliadau sydd gennym ymysg y cyhoedd."

Wedi cymryd yr awenau fel prif weithredwr yn 2020, cynigiodd ymddiheuriad am y diwylliant oddi fewn yr undeb rhwng 2017 a 2019.

"Rwyf wedi fy arswydo gyda chynnwys y rhaglen a'r honiadau a wnaed," meddai Phillips.

"A allem fod wedi gwneud pethau'n well? Mae'n debyg, ac rwy'n credu y gallwn fod yn well bob amser.

"Ni allaf droi'r cloc yn ôl, ond hoffwn edrych ymlaen a dweud y byddwn yn ystyried popeth a ddywedwyd."

Mae Phillips hefyd wedi ymddiheuro mewn llythyr at glybiau Cymru, gan ddweud y bydd yr undeb yn "adolygu'r prosesau a'r gweithdrefnau i sicrhau bod pob aelod staff yn teimlo'n ddiogel ac â'r gefnogaeth i roi gwybod ynghylch unrhyw beth sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghysurus".

Ychwanegodd bod yr undeb yn ymwybodol nad yw wedi cyrraedd "y safonau uchel rwy'n ei ddisgwyl".

'Sarhad'

Ond wrth siarad ar raglen BBC Wales Breakfast ddydd Mercher fe gododd y newyddiadurwr rygbi Peter Jackson sawl cwestiwn ynghylch ymddiheuriadau Steve Phillips.

Gofynnodd pam na gyfeiriodd at y diwylliant o fewn yr undeb ers ei benodiad yn 2020, a'r amgylchiadau a arweiniodd at ymddiswyddiad Amanda Blanc fel cadeirydd annibynnol Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru.

"Dywedodd nad oedd neb yn gwrando arni," meddai. "Mae rhaglen nos Lun yn tanlinellu'r ffaith bod pethau'n mynd tu hwnt i hynny, ei bod wedi codi cwestiynau ynghylch ymddygiad.

"Nawr mae wedi dod i'r amlwg yn ei haraith ymddiswyddo iddi gael ei chwestiynu a oedd ganddi ddigon o brofiad busnes i fod yn gadeirydd y bwrdd rygbi proffesiynol."

Roedd hynny, meddai, yn "sarhad" i rywun "oedd ymhlith 30 o fenywod mwyaf pwerus y byd, yn ôl rhestr Forbes," gan nodi iddi gael ei chynnwys gydag unigolion fel Is-lywydd UDA Kamala Harris, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen, a Phrif Weinidog Seland Newydd Jacinda Ardern.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae ganBBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.