'Anodd ymdopi' heb gymorth cwmnïau gofal lleol

  • Cyhoeddwyd
Gofalwr yn cadw cwmni
Disgrifiad o’r llun,

Mae 60 o fusnesau bychain yn rhan o'r cynllun gofal yn Sir Benfro

Mae cwpl yn eu 90au yn Sir Benfro yn dweud eu bod yn parhau i allu byw yn annibynnol yn sgil cynllun sy'n cynnwys cwmnïau gofal llai - cwmnïau sydd yn annibynnol ac yn lleol.

Fe gafodd cynllun micro fusnesau ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl gan bartneriaeth gymunedol Planed er mwyn cefnogi pobl i sefydlu a datblygu gwasanaethau gofal yn y sir.

Y nod oedd rhoi mwy o ddewis i bobl a'u helpu i ddod o hyd i ofal personol yn lleol sydd yn addas ar gyfer eu hanghenion nhw.

Mae hefyd yn helpu i ysgafnhau'r pwysau cynyddol sydd ar y sectorau gofal ac iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eric Jones, sy'n 97, bod angen cymorth cyson arno erbyn hyn

Mae Eric Jones sy'n 97 oed a'i wraig Lina sy'n 95 yn cael gofal 24 awr y dydd gan gwmni lleol.

Heb y gofal yna fe fydden nhw yn ei chael hi yn anodd ymdopi gan fod cyflyrau iechyd yn golygu bod angen help cyson arnyn nhw.

"Mae angen lot o help arno i," medd Eric.

"Dwi ddim yn rhy saff ar fy nhraed y dyddie ma', ac mae y carer wastod ar gael i roi help i fi. Rwy'n cael shower bob bore "

Mae e' yn chwerthin wrth ddweud ei fod yn treulio llawer o'i amser nawr yn eistedd yn y gadair.

Ond mae yn bendant bod yr help gan y cwmni gofal yn hollbwysig.

"Os byddai'r help yn cwpla, bydden i yn cwpla hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lina ac Eric yn dweud fod cymorth y cwmni gofal yn holl bwysig

Mae ei wraig, Lina, yn cytuno.

"Mae Rachel, y gofalwr, yn arbennig iawn. Ry' ni yn lwcus iawn i'w chael hi."

Cyn-weithiwr iechyd yw Rachel Bartlett, 38 oed.

Ar ôl gweithio yn y gwasanaeth iechyd am ddeng mlynedd, penderfynodd sefydlu ei chwmni gofal ei hun.

Mae hi'n gofalu am Eric a Lina 12 awr y dydd, dridiau'r wythnos.

"Rwy'n dod mewn a 'neud bwyd a diodydd iddyn nhw, cynnau'r tân, tacluso ag ati beth bynnag sy ishe.

"Ni'n cael sgwrs, a fi ma' trwy'r dydd. S'dim angen rhuthro mas i 'neud rhywbeth arall."

Roedd gadael y gwasanaeth iechyd yn dipyn o fenter iddi, meddai, ond mae yn sicr iddi wneud y dewis cywir.

"Y gofal rwy'n gallu ei roi, s'dim byd fel hynna yn y byd, rwy' wrth fy modd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Bartlett yn un o'r rhai sydd wedi sefydlu cwmni ei hun yn Sir Benfro

Mae bron i 60 o fusnesau bach sy'n cynnig gofal yn rhan o'r cynllun yn Sir Benfro erbyn hyn - cynllun sydd â'r potensial i ddarparu dros 500 o oriau o ofal ar gyfartaledd bob wythnos.

Yn sgil yr ymateb yn Sir Benfro, mae'r cynllun nawr yn ehangu i Sir Gaerfyrddin er mwyn helpu mwy o bobl i aros a byw yn annibynnol yn eu cartrefi.

Dywed Rachel fod y gwasanaeth a'r gefnogaeth yn bwysig, ond hefyd bod y gwmnïaeth yn allweddol.

"Chi yn dod i 'nabod nhw a dod i 'nabod y teulu, ma' nhw fel mam-gu a tad-cu arall i fi. Mae'n ffantastig. Fi meddwl lot fawr amdanyn nhw".