Cynllun i gael mwy o fenywod ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau fyddai'n cynnwys cael un ai prif weithredwr neu gadeirydd benywaidd ar eu bwrdd.
Mae'r cynigion, fydd yn mynd at glybiau am bleidlais ar 26 Mawrth, hefyd yn cynnwys cael o leiaf pum dynes ar y bwrdd rheoli o 12.
Daw'r cynigion wedi i URC ddod dan y lach dros y dyddiau diwethaf yn dilyn honiadau o "ddiwylliant gwenwynig", rhywiaeth a chasineb o fewn yr undeb.
Mae un o gyn-chwaraewyr Cymru hefyd wedi honni fod chwaraewyr benywaidd yn cael eu trin yn israddol, a chael eu gadael allan o'r tîm am "fynegi barn".
'Gwywo neu flaguro'
Ers i'r honiadau yn rhaglen BBC Wales Investigates gael eu gwneud, mae prif weithredwr URC, Steve Phillips wedi ymddiswyddo.
Bydd tasglu annibynnol nawr yn cael ei sefydlu i edrych ar newidiadau o fewn yr undeb, gyda'r cadeirydd Ieuan Evans yn dweud ei fod yn "dorcalonnus" i glywed yr honiadau.
Ychwanegodd prif weithredwr dros dro URC, Nigel Walker, fod dyfodol y sefydliad yn y fantol os na fydd newidiadau'n cael eu gwneud.
Bydd pwyllgor chwaraeon Senedd Cymru yn holi URC a'r dirprwy weinidog chwaraeon ddydd Iau.
Yn y cyfamser, mae URC nawr wedi cyhoeddi cynigion eu hunain.
Maen nhw'n cynnwys bwriad i gael o leiaf un fenyw yn un o'r ddwy brif rôl, a chael dwy fenyw ymhlith y pedwar cyfarwyddwr anweithredol.
Byddai pump o'r 12 ar y bwrdd hefyd yn fenywod, medden nhw, gyda phwyslais ar gael ystod fwy eang o sgiliau.
Ar hyn o bryd dim ond un ddynes sydd ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru.
Bydd rhaid i 75% o'r clybiau sy'n aelodau'r URC bleidleisio o blaid y newidiadau, gyda Mr Evans yn dweud bod "angen newid" er lles llwyddiant y gamp yng Nghymru.
"Mae'r pwyslais arnom ni i esbonio i aelodau beth yw budd y cynigion yma, ac fe fyddwn ni'n gwneud hynny," meddai.
"Ond dwi'n credu hefyd bydd aelodau'n deall pwysigrwydd beth ry'n ni'n ceisio ei gyflawni."
Ychwanegodd: "Mae dewis amlwg o'n blaenau ni - gwywo neu flaguro."
Cyn y datganiad diweddaraf gan URC, mae un cyn-chwaraewr rhyngwladol wedi honni bod merched yn cael eu trin yn israddol gan yr undeb.
Disgrifiodd Alecs Donovan, 31, achosion o URC yn adeiladu campfa i ddynion yn unig a merched yn "cael eu gadael allan o'r tîm" am roi eu barn.
"Y teimlad ges i fel chwaraewr oedd 'Dydw i ddim wir yn gwybod a oes croeso i mi yma'," meddai Donovan, a ymddeolodd yn 2021.
"Yn enwedig chwaraewr rygbi benywaidd a gwybod na fydd rhai pobl yn eich cefnogi chi oherwydd dydyn nhw ddim yn meddwl y dylai merched chwarae rygbi."
Dywedodd bod "llwyth o straeon" wedi bod a'r "teimlad llethol yw bod llawer o bobl ddim eisiau chi yno".
Ymddiheurodd URC am y profiadau "dirdynnol" yr oedd rhai merched wedi ei ddioddef.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2023