Pryder y bydd sbwriel yn peryglu enw da Cei Newydd

  • Cyhoeddwyd
Biniau
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd roedd sbwriel yn gorlifo o'r biniau i'r tywod yng Nghei Newydd

Mae pobl yng Nghei Newydd yn poeni y gallai'r pentref golli ei apêl i ymwelwyr oherwydd problemau sbwriel o ganlyniad i finiau gorlawn.

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud na fydd biniau ar y traeth mwyach gan nad oes modd eu gwacau yn ddiogel.

Y llynedd roedd sbwriel yn gorlifo o'r biniau i'r tywod.

Ar ben hynny, eleni bydd llai o ddewis o lefydd gan bobl i fynd i'r tŷ bach - gan y bydd tai bach ger y traeth yn aros ynghau.

I bobl sy'n byw yn y pentref - sy'n boblogaidd iawn gyda thwristiaid - mae'r penderfyniad yn "broblem enfawr".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Lewis ei fod ef a'i griw wedi glanhau llanast o'r biniau sydd wedi gorlifo

Yn ôl Dafydd Lewis, capten cwch dolffiniaid yng Nghei Newydd, mae'r biniau gorlawn wedi achosi "llanast ofnadwy".

Dywedodd wrth Newyddion S4C fod yn rhaid iddo ef a'i griw lanhau llanast o'r biniau sydd wedi gorlifo yn ardal Cnwc cyn dechrau eu sifft ben bore.

"Mae'n eithaf caled, le ni gyd wedi bod yn clirio rybish yn y bore. Ma'n warthus i ddweud y gwir," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gill Hopley fod y penderfyniad yn ergyd i'r rheiny sydd wedi denu pobl i'r ardal dros y blynyddoedd

I'r cyn-gynghorydd Gill Hopley, mae'r penderfyniad yn un trist iawn ar ôl ymdrechion i ddenu pobl i'r traeth dros y blynyddoedd.

"Dwi'n torri nghalon ar ôl gweithio'n galed i drio cael y traeth a treial cael pobl i wybod beth yw Cei - bod e'n jewel yn crown Ceredigion."

Yn dilyn y penderfyniad gan y cyngor sir mae Cyngor Tref Cei Newydd wedi datgan ei siom.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Julian Evans o'r cyngor tref yn poeni na fydd unrhyw le i bobl roi eu sbwriel yn ystod tymor prysur yr haf

Dywedodd y cadeirydd Julian Evans: "Hoffai aelodau Cyngor Tref Cei Newydd ddatgan ein siom yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i gau cyfleusterau cyhoeddus Sandy Slip a chael gwared ar y biniau ger prif draeth Cei Newydd.

"Maen nhw'n cau'r cyfleusterau gan eu bod angen atgyweiriadau sylweddol ac nid oes gan y cyngor sir y gyllideb i dalu'r costau.

"Mae'r cyngor tref wedi pwysleisio i'r cyngor y dylai'r cyfleusterau aros ar agor gan eu bod nhw'n cael llawer iawn o ddefnydd; ond nid oedd hyn yn llwyddiannus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Ceredigion fod "consensws" nad yw'r toliedau ger Sandy Slip yn "opsiwn hyfyw mwyach"

Yn absenoldeb y biniau, mae cyngor y dref yn gobeithio y bydd aelodau'r cyhoedd yn ymdrechu i gadw'r traeth yn daclus.

"Gallech chi gael dros 200 o deuluoedd ar y traeth ar ddiwrnod poeth. Beth maen nhw'n mynd i wneud gyda'u sbwriel? Gall gynnwys bwyd a chewynnau er enghraifft," meddai'r Cynghorydd Evans.

"Mae Cyngor Tref Cei Newydd yn obeithiol y bydd defnyddwyr y traeth yn mynd â'u sbwriel gartref gyda nhw neu i'r biniau agosaf, yng Nghnwc.

"Gobeithio gall bawb gydweithio i gadw Cei Newydd yn daclus i bawb."

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion eu bod wedi "cyfarfod â chynrychiolwyr o Gyngor Tref Cei Newydd a rhannu â nhw lefel y gwasanaeth y bydd y Cyngor Sir yn gallu ei ddarparu yn ystod 2023".

Ychwanegwyd fod hyn er mwyn "galluogi rhanddeiliaid lleol, megis y Cyngor Tref, i ystyried pa ymyriadau y maent am eu hystyried a'u gweithredu i fodloni eu disgwyliadau lleol".

'Consensws nad yw'r toliedau'n hyfyw'

Dywedodd y llefarydd fod yna "broblemau hirdymor wedi bod gyda'r adeilad sy'n cynnwys y toiledau ger Sandy Slip gyda'r ddarpariaeth wedi bod ynghau ers mis Mai 2022".

"Yn ystod ymweliad diweddar â'r safle gyda'r cynrychiolydd lleol o'r Cyngor Sir, Cyngor Tref a busnesau lleol, lle trafodwyd yr holl faterion, roedd yna gytundeb consensws nad oedd y toiledau ar y lleoliad hwn yn opsiwn hyfyw mwyach," meddai.

"Mae yna ddarpariaeth toiledau arall ar gyfer y traeth hwn ar Stryd Sant Ioan (St John Street) sy'n fwy cyfleus ar gyfer defnyddwyr y traeth."

Ychwanegwyd y bydd yn rhaid i gabinet y Cyngor Sir gymeradwyo unrhyw gynnig i "gau'r ddarpariaeth yn derfynol".

"Mae'r Cyngor Sir yn edrych ymlaen at barhau â deialog gadarnhaol â'r Cyngor Tref gan nad yw'r cyfrifoldebau am gynnal yr amgylchedd lleol yn perthyn i unrhyw un sefydliad yn unig," meddai'r llefarydd.

Pynciau cysylltiedig