Radio Cymru: Ffion Dafis i gyflwyno rhaglen wythnosol newydd

  • Cyhoeddwyd
Ffion Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ffion Dafis ei bod "wir yn edrych ymlaen i gael mynd dan groen pethau"

Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhaglen wythnosol newydd ar y celfyddydau yn cael ei darlledu o fis Ebrill.

Yr awdur a'r actor Ffion Dafis fydd yn cyflwyno'r rhaglen ddwy awr o hyd bob dydd Sul am 14:00.

Cafodd yr orsaf ei beirniadu'n llym gan rai y llynedd am ddod â'r unig raglen benodol ar y celfyddydau - Stiwdio - i ben.

Bu protestio hefyd yn erbyn y penderfyniad i gael gwared ar raglen Geraint Lloyd gyda'r nos.

Yn y cyfamser, mae un o hoelion wyth yr orsaf, Hywel Gwynfryn, wedi cyhoeddi y bydd yn camu'n ôl o gyflwyno ei raglen wythnosol.

'Wir yn edrych ymlaen'

Dywed BBC Cymru y bydd y rhaglen gelfyddydol newydd yn "adlewyrchu a thrafod bywyd celfyddydol Cymru a thu hwnt ar draws pob genre".

"Dyma raglen fydd yn adlewyrchu cyffro a hwyl y cynnyrch celfyddydol yng Nghymru yn ei holl amrywiaeth," meddai Ffion Dafis.

"Dwi wir yn edrych ymlaen i gael mynd dan groen pethau a rhannu'r cynnwys anhygoel gyda chynulleidfa wych Radio Cymru.

"Byddwch yn barod am arlunwyr, dylunwyr, artistiaid drag, digrifwyr, perfformwyr hip hop, beirdd a chantorion a mwy!"

Disgrifiad o’r llun,

'Mr Radio Cymru' ei hun, Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd rhaglen gyntaf yr orsaf, Helo Bobol! yn 1977

Cafodd y penderfyniad i gael gwared ar raglen Stwidio, gyda Nia Roberts yn cyflwyno, ei disgrifio yn "annealladwy o hurt" y llynedd.

Dywedodd BBC Cymru ar y pryd eu bod nhw'n "gwbl ymroddedig i roi sylw haeddiannol i'r celfyddydau yng Nghymru".

Ym mis Medi, fe wnaeth Dafydd Meredydd, golygydd Radio Cymru, amddiffyn y newid i'r amserlen, ac fe awgrymodd hefyd y byddai rhaglen gelfyddyddol yn dod yn lle rhaglen Stiwdio.

'Trywydd newydd' i Hywel Gwynfryn

Daeth cyhoeddiad arall brynhawn Sul - y tro hwn yn fyw ar y tonfeddi - gyda Hywel Gwynfryn yn cyhoeddi na fydd yn parhau i gyflwyno ei slot wythnosol.

Dywedodd: "Dwi wastad wedi meddwl am Radio Cymru fel un teulu mawr a chitha [y gynulleidfa] yn rhan bwysig o'r teulu hwnnw ers sefydlu'r gwasanaeth yn 1977.

"Ond cyn cychwyn ar fy nhaith yn y byd darlledu yn 1964 wnes i erioed feddwl byswn dal i deithio trigain mlynedd yn ddiweddarach."

Ychwanegodd, "Dwi wedi cael cyfle fwy nag unwaith i droi i'r chwith a'r dde oddi ar brif ffordd fy ngyrfa i ysgrifennu, cynhyrchu yn ogystal a chyflwyno a holi, a rwan dwi'n cael cyfle unwaith eto i wneud hynny.

"Mae na dro arall ar y ffordd... ond fyddai'n dal i gyfrannu i'r gwasanaeth yma mae gen i gymaint o ddyled iddo fo."

Dywed BBC Cymru y bydd y darlledwr bytholwyrdd yn "cychwyn trywydd newydd wrth iddo droi ei law at gynhyrchu rhaglenni dogfen".

"Bydd Hywel yn parhau i ddod ag archif helaeth BBC Cymru yn fyw i wrandawyr yr orsaf ar raglen Bore Cothi ac yn parhau i gynhyrchu Swyn y Sul: Elin Manahan Thomas ar fore Sul," meddai'r datganiad.

"Yn ddiweddarach eleni bydd yn cyflwyno a chynhyrchu ei raglen Nadolig ei hun ar Radio Cymru."

Mae Mr Gwynfryn yn un o leisiau amlycaf Radio Cymru ers ei sefydlu ar 3 Ionawr 1977. Ef oedd cyflwynydd rhaglen gyntaf yr orsaf, Helo Bobol.

Amserlen prynhawn Sul newydd Radio Cymru

13:00 - Cofio

14:00 - Ffion Dafis

16:00 - Rhaglenni amrywiol

16:30 - Caniadaeth y Cysegr

17:00 - Dei Tomos

18:00 - Beti a'i Phobol

19:00 - Talwrn y Beirdd

20:00 - Ar Eich Cais

21:00-00:00 - John ac Alun

Bydd rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, sy'n cael ei chyflwyno gan Hanna Hopwood, yn dod i ben fel rhan o'r newidiadau diweddaraf.

Er na fydd Stori Tic Toc yn rhan o amserlen llinol Radio Cymru chwaith, dywedodd BBC Cymru y bydd straeon newydd i wrandawyr iau yn "parhau i gael eu comisiynu a'u cyhoeddi ar BBC Sounds".

'Cam pwysig arall ymlaen'

Wrth gyhoeddi'r amserlen newydd, dywedodd Dafydd Meredydd: "Mae adlewyrchu'r celfyddydau yn rhan greiddiol o beth mae Radio Cymru wedi ei wneud dros y blynyddoedd ac yn rhan o'n DNA ni.

"Felly mae'r rhaglen newydd yma, yn oriau brig y gwasanaeth, yn gam pwysig arall ymlaen.

"Ac wrth groesawu Ffion i deulu cyflwynwyr Radio Cymru, mae'n diolch yn fawr i Hywel Gwynfryn wrth i'w berthynas o gyda'r orsaf esblygu unwaith eto.

"Mi ydw i'n edrych ymlaen yn fawr i glywed cynnyrch Hywel y cynhyrchydd, tra'n parhau i glywed ei gyfraniadau yn fyw ar y tonfeddi.

"Yn barod, mae o wedi llwyddo i gloddio aur gwerthfawr o archif BBC Cymru ar raglen Bore Cothi."

Bydd y newidiadau i amserlen Radio Cymru yn dod i rym ar 2 Ebrill.