Penderfyniad i gau ffatri 2 Sisters yn 'symud ymlaen'

  • Cyhoeddwyd
2 sisters Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn cyflogi 730 o weithwyr

Mae'r penderfyniad i gau ffatri dofednod ar Ynys Môn sy'n cyflogi dros 700 o bobl yn "symud ymlaen", meddai Llywodraeth Cymru.

Fis diwethaf fe wnaeth cwmni 2 Sisters gadarnhau eu bod yn bwriadu cau ei safle yn Llangefni oherwydd lefel y buddsoddiad fyddai ei angen i gadw'r ffatri yn hyfyw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes gan y cwmni "unrhyw gynlluniau... i gynnal y safle", a bod hynny'n "siom".

Yn ôl y cwmni maen nhw'n parhau i "gydweithio'n bositif" gyda thasglu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i geisio cadw'r safle ar agor a chefnogi gweithwyr.

"Ein prif ffocws ar hyn o bryd ydy cydweithio gyda phob asiantaeth er mwyn cefnogi gweithwyr a chanfod pob opsiwn i'w helpu nawr, ac yn dilyn cyfnod yr ymgynghoriad," meddai llefarydd.

'Torcalonnus'

Y penwythnos diwethaf dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, nad yw'r cwmni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU am gymorth.

Mae'r cwmni wedi dweud yn flaenorol fod safle Llangefni - sy'n cyflogi 730 o bobl - yn hen ac yn rhy fach, ac felly y gellir gweithredu'n fwy effeithlon o ffatrïoedd eraill.

Mae tasglu yn cwrdd yn wythnosol er mwyn "adnabod a chydlynu cymaint o gymorth â phosibl i gefnogi'r gweithwyr gafodd eu heffeithio".

Yn ymateb i'r datganiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, dywedodd yr Aelod o'r Senedd ar gyfer yr ynys, Rhun ap Iorwerth, fod y newyddion yn "dorcalonnus i bawb sy'n gweithio yno a'u teuluoedd".

Ychwanegodd nad yw 2 Sisters "yn barod i ystyried unrhyw opsiwn ar gyfer achub eu safle yn Llangefni".

"Mi allaf eich sicrhau bod yna benderfynoldeb i wneud popeth posibl i'w helpu, i ddod o hyd i gyflogaeth wrth gwrs, ond hefyd i ymdopi efo'r ergyd hon mewn amser o galedi ac argyfwng costau byw," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd y tasglu'n unfrydol ei gefnogaeth i ymgysylltu'n gynnar a rhagweithiol â pherchennog y safle er mwyn sicrhau ei ddyfodol fel safle cyflogi allweddol i Langefni a'r ardal ehangach.

"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Ynys Môn, yr undebau llafur a rhanddeiliaid eraill i gefnogi'r unigolion a'r gymuned leol."