Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 10-20 Lloegr

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Reuters

Cafodd Cymru eu trechu gan Loegr mewn gêm flêr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dim ond 72 awr cyn y gêm daeth cadarnhad y byddai'n mynd yn ei blaen, yn dilyn wythnos gythryblus i rygbi yng Nghymru.

Roedd cwestiynau wedi codi felly a fyddai'r paratoadau wedi cael eu heffeithio gan hynny.

Ond roedd hi'n berfformiad ychydig yn well gan Gymru o'i gymharu â'u dwy golled gyntaf yn y bencampwriaeth - 10-34 yn erbyn Iwerddon a 35-7 yn erbyn Yr Alban.

Er, mae'n deg dweud nad oedd Lloegr ar eu gorau chwaith.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Leigh Halfpenny ddim yn gallu atal Anthony Watson rhag sgorio ar ei ymddangosiad cyntaf i Loegr ers dwy flynedd

Daeth y pwyntiau cyntaf i Loegr, wrth i Owen Farrell gicio gôl gosb o bron i hanner ffordd.

Yr ymwelwyr gafodd y cais cyntaf hefyd wedi 19 munud, gyda'r asgellwr Anthony Watson yn croesi yn y gornel, ond taro'r postyn wnaeth Farrell gyda'r trosiad.

Daeth pwyntiau cyntaf Cymru yn syth wedi hynny gyda gôl gosb gan Leigh Halfpenny, cyn i faswr Lloegr fethu cic gosb y byddai wedi disgwyl ei throsi.

Er i Gymru bwyso ar ddiwedd yr hanner cyntaf, llwyddodd amddiffyn Lloegr i aros yn gadarn, gan olygu mai nhw oedd â'r fantais o 3-8 ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Doedd yr un amddiffynnwr am ddal Louis Rees-Zammit wedi iddo gael rhyng-gipiad ar blât gan Max Malins

Ond eiliadau'n unig o ddechrau'r ail hanner roedd Cymru ar y blaen, wrth i bas lac gan Max Malins gael ei rhyng-gipio gan Louis Rees-Zammit.

Aeth ymlaen i sgorio ger y pyst ac roedd Halfpenny yn llwyddiannus gyda'r trosiad i roi Cymru ar y blaen am y tro cyntaf.

Ond o fewn ychydig funudau daeth cais gan Kyle Sinckler yn dilyn pwysau gan flaenwyr Lloegr, gyda Farrell yn ychwanegu'r ddau bwynt ychwanegol hefyd.

Doedd y camerâu ddim yn dangos fod Sinckler wedi tirio'n glir, ond roedd y dyfarnwr Mathieu Raynal yn hyderus ei fod wedi llwyddo i wneud hynny.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dyfarnwr Mathieu Raynal yn hyderus fod Kyle Sinckler wedi llwyddo i dirio tu hwnt i'r llinell gais

Fe wnaeth Farrell fethu gydag ymgais arall am gôl gosb, ond gyda phum munud yn weddill fe lwyddodd y canolwr Ollie Lawrence i groesi am gais yn y gornel i Loegr.

Doedd Farrell ddim yn gywir gyda'r gic o'r gornel, ond roedd Lloegr wedi gwneud digon i ennill o 10 pwynt.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru'n parhau ar waelod tabl y Chwe Gwlad, gyda thair colled mewn tair gêm, a dim pwyntiau chwaith.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ollie Lawrence gyda phum munud yn weddill i ymestyn mantais Lloegr i 10 pwynt