Yr Ysgwrn: Pryder am lai o ymwelwyr a chostau ynni
- Cyhoeddwyd
![Yr Ysgwrn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9C53/production/_99191004_yrysgwrn.jpg)
Mae £3.4m wedi cael ei wario ar atgyweirio a datblygu Yr Ysgwrn i fod yn ganolfan dreftadaeth
Mae "effaith barhaus Covid-19" yn golygu fod llai o grwpiau yn ymweld â'r Ysgwrn, gyda phryder am effaith ariannol hynny ar darged incwm y ganolfan.
Wedi'i leoli yn Nhrawsfynydd, mae'n adnabyddus am fod yn gartref i'r bardd Hedd Wyn ac atyniad twristiaid yng Ngwynedd.
Ond mewn adroddiad mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn beio cwymp parhaus yn nifer y grwpiau, dolen allanol sy'n ymweld â'r Ysgwrn, yn rhannol oherwydd y pandemig, sydd wedi cael effaith ar yr incwm sydd wedi'i gynhyrchu.
Fe agorodd cartref Hedd Wyn fel atyniad i ymwelwyr chwe blynedd yn ôl, wrth gael ei drawsnewid yn amgueddfa, canolfan wybodaeth a chaffi.
Roedd y ffermdy rhestredig Gradd II wedi bod yn boblogaidd iawn ers agor yn 2017.
Ond mae adroddiad, fydd yn cael ei drafod ddydd Mercher, yn nodi'r sefyllfa ariannol bresennol yn sgil costau cynyddol - gan gynnwys addasu'r system wresogi - ac effaith y pandemig ar ostyngiad mewn ymweliadau grŵp.
'Diffyg o £32,000'
Enillodd Hedd Wyn, neu Ellis Humphrey Evans, nifer o gadeiriau eisteddfodol ond mae'n fwyaf adnabyddus am ddod i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917.
Fe'i wobrwywyd ar ôl ei farwolaeth gan iddo gael ei ladd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele, ychydig wythnosau ynghynt.
![Hedd Wyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16933/production/_128976429_heddwyn4.jpg)
Bu farw Hedd Wyn ym mrwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917
Yn cael ei hadnabod fel y "Gadair Ddu", mae'n cael ei harddangos yn Yr Ysgwrn.
Ond nodir yn yr adroddiad fod disgwyl diffyg o £32,000 eleni oherwydd gostyngiad mewn ymweliadau grŵp, yn ogystal ag addasiadau i'r system wresogi a chostau ynni uwch.
"Mae yna gronfa benodol ar gael i gwrdd â'r diffyg yma, fodd bynnag nid yw'n glir ar hyn o bryd os fydd gwarged (surplus) o wasanaethau eraill megis Cynllunio yn cyfrannu at y diffyg hefyd."
Gyda "chostau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd" ond fod yr "hinsawdd bresennol yn ddigynsail", mae'r adroddiad yn nodi mai "ychydig iawn o le i symud sydd o fewn y gyllideb".
![Y Gadair Ddu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/1E35/production/_129033770_cadairddu_hir_cropped_tqfsnib-lr_ztaast6.jpg)
Mae'r Gadair Ddu yn un o dair cadair Eisteddfodol Hedd Wyn sydd i'w gweld yn Yr Ysgwrn
"Roedd y gorwariant o ganlyniad i gyfuniad o lai o incwm oherwydd bod llai o grwpiau yn ymweld o ganlyniad i effaith barhaus Covid-19 a chynnydd sylweddol yn y rhan fwyaf o gostau rhedeg.
"Mae cynnal Yr Ysgwrn o fewn y gyllideb yn her barhaus yng ngoleuni'r argyfwng costau byw sy'n amharu ar wariant ymwelwyr a chostau rhedeg cynyddol."
Ym Mhroffil Risg yr Awdurdod, mae'r Ysgwrn yn cael ei nodi fel blaenoriaeth uchel, ac mae'r adroddiad yn nodi fod yr awdurdod yn wynebu "risg i'w enw da" os nad yw'n gallu rheoli'r eiddo.
Digwyddiadau i ddod
Ond mae ceisiadau am arian refeniw i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau yno dros y 12 mis nesaf wedi bod yn llwyddiannus.
O fis Gorffennaf ymlaen bydd y prosiect Geiriau Diflanedig, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn cael ei gynnal yn Yr Ysgwrn.
![Parlwr Yr Ysgwrn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DBDF/production/_97678265_parlwryrysgwrn.jpg)
Cafodd 28 haenen o bapur wal eu grafu oddi ar wal y parlwr a'u newid am bapur wal tebyg i'r cyfnod
Mae cynlluniau hefyd am arddangosfa wlân a phrosiect treftadaeth gymunedol yn seiliedig ar ganmlwyddiant Cofeb Hedd Wyn.
Bydd yr holl ddigwyddiadau hynny yn cael eu hariannu gan grantiau allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017
- Cyhoeddwyd31 Awst 2017