Partner mam Lola James 'wedi bygwth meddyg yn yr ysbyty'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed sut y gwnaeth dyn, sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio merch ddwy oed yn Hwlffordd, fygwth meddyg yn yr ysbyty.
Fe gafodd Lola James ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg yn dilyn ymosodiad honedig gan Kyle Bevan ar 21 Gorffennaf 2020.
Roedd ganddi anaf "catastroffig" i'w phen a 101 o anafiadau allanol.
Mae partner ei mam, Kyle Bevan, 31 o Aberystwyth, yn gwadu ei llofruddio, gan honni fod ci y teulu wedi achosi ei hanafiadau a'i gwthio i lawr y grisiau.
Mae mam Lola, Sinead James, 30, yn gwadu achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.
Ddydd Mawrth, fe glywodd Llys y Goron Abertawe sut y gwnaeth Kyle Bevan fygwth meddyg drwy "rwygo'i nodiadau oddi arni" pan eglurodd hi y byddai'n rhannu'r hyn ddywedodd ef oedd wedi digwydd i Lola.
Dywedodd Dr Nicola Drake wrth y rheithgor ei fod wedi "cynhyrfu" wrth iddi ofyn cwestiynau am yr hyn ddigwyddodd.
Fe holodd a fyddai'r wybodaeth yn cael ei gadw'n breifat. Eglurodd Dr Drake fod yna gyfrifoldeb cyfreithiol arni i rannu'r wybodaeth gan fod Lola wedi ei hanafu'n ddifrifol.
Clywodd y llys nad oedd Kyle Bevan yn caniatáu hynny ac fe wylltiodd, gan fygwth y meddyg.
'Poeni y byddai'n ymosod arnaf'
Yn ôl Dr Drake dywedodd wrthi: "Os gymerwch chi un cam allan o'r 'stafell hon gyda'r nodiadau yna na'i rwygo nhw o'ch dwylo.
"Roedd e'n pwyntio bys ac yn gweiddi," meddai, "Ro'n i'n ofnus. Mae gen i lawer o brofiad o bobl dreisgar... ro'n i'n poeni y byddai'n ymosod arna'i.
"Driais i ymddwyn yn bwyllog ac eglurais i wrtho beth fyddai'n digwydd pe byddai'n gwneud hynny.
"Dywedais wrtho tase' fe'n cyffwrdd yndda i neu yn y nodiadau y byddwn i'n galw'r heddlu."
Holodd Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad, beth oedd ei ymateb i hynny.
"Fe wfftiodd e hynny gan ddweud 'Ha! Heddlu'," meddai Dr Drake.
Clywodd y llys fod Sinead James wedi dychwelyd i'r ystafell a gofyn beth oedd yn digwydd.
Ar ôl i Dr Drake egluro, dywedodd fod Sinead James wedi dweud wrth Kyle Bevan fod yn rhaid iddyn nhw gyd-weithredu gyda'r ymchwiliad.
Cafodd y ddau eu holi ymhellach am anafiadau tu fewn i glustiau Lola James.
Dywedodd Dr Drake wrth y rheithgor fod Kyle Bevan wedi dweud mai ci y teulu oedd wedi achosi'r anafiadau drwy neidio i fyny ond iddo wylltio eto a dweud nad oedd e am agor y drws i wasanaethau cymdeithasol.
"Ar y pwynt yma," dywedodd y meddyg, "fe ddes i â'r cyfweliad i ben."
"A ofynnodd Kyle Bevan i chi am gyflwr Lola o gwbl?" holodd yr erlyniad.
"Naddo," atebodd Dr Drake.
Holodd John Hipkin KC ar ran Kyle Bevan a oedd Dr Drake eisoes wedi egluro cyflwr Lola ar ddechrau'r cyfarfod.
"Oedd," atebodd.
Mynnodd Mr Hipkin fod Kyle Bevan wedi ateb ei chwestiynau ac wedi bod yn agored gyda hi ynglŷn â beth ddigwyddodd.
Mynnodd mai sôn am rannu'r wybodaeth ac am wasanaethau cymdeithasol oedd y broblem.
"Na," atebodd Dr Drake. "Doedd e ddim eisiau ateb cwestiynau ond roedd e hefyd yn poeni am wasanaethau cymdeithasol."
"Oeddech chi'n gwybod fod yna ddigwyddiad yn y gorffennol lle'r aeth gwasanaethau cymdeithasol â phlentyn oddi arno?" holodd Mr Hipkin.
"Oeddwn, ddywedodd e wrtha'i," atebodd Dr Drake.
"A wnaeth e ymddiheuro am ei ymddygiad?" holodd.
"Naddo," atebodd.
Clywodd y llys gan feddyg plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Fe gafodd y paediatrydd ymgynghorol Nia John ei galw yn ei rôl diogelu plant.
Fe gofnododd hi 101 o anafiadau ar gorff Lola James yn ogystal â'r anafiadau catastroffig i'w hymennydd.
Clywodd y llys fod cyfanswm yr anafiadau yn awgrymu eu bod nhw'n fwriadol ac fe arweiniodd hynny at ymchwiliad pellach.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022