Camau i ddelio â thywod sy'n peryglu seiclwyr Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Beiciwr ar lwybr tywodlydFfynhonnell y llun, Alison Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Pob blwyddyn mae cannoedd o dunelli o dywod yn chwythu o draeth Bae Abertawe i'r prom a'r brif heol gerllaw

Mae beicwyr yn Abertawe yn dweud bod seiclo ar hyd un o brif lwybrau yn y ddinas yn dod yn fwy peryglus.

Pob blwyddyn mae cannoedd o dunelli o dywod yn chwythu o draeth Bae Abertawe i'r prom a'r brif heol gerllaw, gan achosi trafferth i seiclwyr a cheir.

Nawr mae Cyngor Abertawe yn cymryd camau i geisio gwella'r sefyllfa, trwy osod ffensys newydd a chreu mwy o dwyni tywod.

Mae Alison Maddocks o'r Mwmbwls yn defnyddio'r llwybr oddeutu air gwaith yr wythnos, a dywedodd wrth Newyddion S4C fod y tywod wedi bod yn broblem ers blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alison Maddocks bod y tywod yn "boenus ac yn beryglus"

"Mae'n beryglus oherwydd nid yw'n hawdd beicio ar dywod meddal, felly rydych chi naill ai gorfod dod off y beic, ac yn gwneud niwsans o'ch hun, neu'n syrthio i mewn i gerddwyr," meddai.

"Fe allech chi frifo'ch hun yn wael. Mae'n ofnadwy pan mae'n wlyb ac yn wyntog.

"Bydd y tywod yn mynd ar draws Heol Oystermouth pan fydd y tywydd yn wael. Mae'n broblem i yrwyr ceir hefyd gan nad yw'n dda iawn i'r injans.

"Ar lefel bersonol, mae'n teimlo fel bod y tywod yn chwythu yn eich llygaid, ac mae'n boenus ac yn beryglus. Allwch chi ddim gweld i ble rydych chi'n mynd."

Ffynhonnell y llun, Alison Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor wedi cynnig gwelliannau ecogyfeillgar fel defnyddio boncyffion coed i atal y gwynt

Ychwanegodd Ms Maddocks: "Bydd y tywod yn mynd ar draws y ffordd pan fydd hi'n ddiwrnod gwyntog iawn.

"Mae'r cyngor yn cynnig mesurau ecolegol sy'n dda, ond rwy'n poeni os yw'r ffensys yn uchel yna y gallai dinistrio'r olygfa.

"Ond dydw i ddim yn gwybod faint mwy gall y cyngor ei wneud mewn gwirionedd.

"Dy'n nhw methu newid y tywydd. Rydyn ni'n byw mewn rhan brydferth o'r wlad, ger y traeth. Roedd y traeth yma ymhell cyn i ni gyrraedd a bydd y traeth yma ymhell ar ôl i ni fynd."

Gwelliannau ecogyfeillgar

Yn ddiweddar mae Cyngor Abertawe wedi dechrau gweithio ar "welliannau ecogyfeillgar" i helpu i symud y tywod i ffwrdd o'r llwybrau.

Mae rhan o gynlluniau'r cyngor yn cynnwys defnyddio boncyffion coed a chwythwyd drosodd mewn stormydd diweddar i atal y gwynt, a lleihau faint o dywod sy'n cael ei gario o'r traeth.

Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu gosod ffensys i helpu dal y tywod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Martin Bagley bod y cyngor yn rhoi cynnig ar wahanol syniadau i weld pa un fydd yn gweithio

Mae Martyn a Caroline Bagley yn byw yn agos at y traeth.

Fe ddywedodd Martyn: "Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd gwaith y cyngor yn gweithio. Mae'r gwaith yn amharu ychydig bach pryd chi ar y traeth, ond dim byd mawr.

"Mae'r gwaith yn cael ei wneud o fewn cyfyngiadau cost. Dydyn nhw ddim yn mynd i fynd ag un syniad yn unig - maen nhw'n rhoi cynnig ar wahanol syniadau i weld pa un sy'n gweithio.

"Rydyn ni'n byw gerllaw, ac yn dod yma bob dydd beth bynnag fo'r tywydd, felly nid yw'r broblem yn poeni ni'n ormodol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve yn credu bod angen clirio'r llwybrau'n fwy rheolaidd i'w cadw'n ddiogel

Dywedodd Steve, sy'n gweithio yn Ysbyty Singleton ac yn seiclo i'r gwaith, fod y tywod yn "gallu bod yn broblem".

"Os ydych chi'n beicio - yn enwedig pan mae'n dywyll - gallwch daro'r tywod yn annisgwyl a chwympo oddi ar y beic," meddai.

"Fi wedi cwympo unwaith neu ddwy. Yn ffodus nes i lanio yn y tywod felly doedd e ddim yn rhy ddrwg.

"'Dw i'n meddwl bod angen i'r cyngor glirio'r llwybrau yn rheolaidd."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhan annatod o fyw mewn dinas gyda thraeth hardd," medd Hannah Thomas

Ychwanegodd Hannah Thomas, a gafodd ei magu yn y ddinas, fod y "tywod ddim yn poeni fi".

"Rydyn ni'n cael cwpl o ddiwrnodau stormus gwael, sy'n gallu anfon y tywod dros y ffordd ond nid yw'n fy mhoeni," meddai.

"Mae'n rhan annatod o fyw mewn dinas gyda thraeth hardd."

'Nid yw'n bosib rheoli natur yn gyfan gwbl'

Dywedodd Andrew Stevens, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd o Gyngor Abertawe: "Y tywod sy'n cael ei chwythu i'r prom ac Oystermouth Road yw'r pris naturiol mae'n rhaid i ni ei dalu am y traeth anhygoel milltiroedd o hyd, hynod boblogaidd, sydd ar garreg drws ein dinas.

"Nid yw'n bosib rheoli natur yn gyfan gwbl, ond rydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn helpu i leihau'r broblem ac o fudd i fywyd gwyllt a phobl."

Ychwanegodd: "Mae defnyddio ffensys castan i ddal a chreu twyni tywod yn rhywbeth mae'r cyngor eisoes wedi'i wneud ger maes parcio gorllewinol y Ganolfan Ddinesig yn 2016.

"Mae wedi gweithio mor dda wrth greu clwstwr newydd o dwyni tywod a lleihau swm y tywod sy'n mynd ar y prom a'r briffordd, felly rydyn ni'n bwriadu gosod mwy o ffensys yno hefyd dros y misoedd nesaf."

Pynciau cysylltiedig