Rhybudd am barcio ar linellau melyn dwbl yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Ceir ger llyn OgwenFfynhonnell y llun, Traffig Cymru/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Fe rannodd Traffig Cymru luniau o geir wedi'u parcio ar linellau melyn dwbl ger Llyn Ogwen

Mae modurwyr yn Eryri wedi cael rhybudd ar ôl i luniau gael eu rhannu o gerbydau'n parcio ar linellau melyn dwbl newydd.

Fe wnaeth Traffig Cymru drydar lluniau o'r A5 ger Llyn Ogwen y penwythnos diwethaf.

Roedd y corff am atgoffa gyrwyr fod y "llinellau melyn yn cyfeirio at y ffordd, palmant ac ochr y ffordd".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol o rai gyrwyr yn parcio ar y llinellau melyn dwbl sydd newydd eu gosod ar yr A5 o amgylch Llyn Ogwen.

"Dylai pob gyrrwr ddefnyddio meysydd parcio lleol neu gyfleusterau parcio a theithio sydd wedi'u lleoli yn yr ardal."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth

Mae sefydliadau gan gynnwys yr heddlu, cynghorau, Llywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi ymuno gyda'i gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.

Ar un penwythnos ym mis Gorffennaf 2020 roedd mwy na 500 o geir wedi'u parcio ar hyd un ffordd ger Yr Wyddfa.

Yn 2021 cafodd sawl car eu symud gan heddlu a staff y cyngor.

Dywedodd y cynghorydd Dafydd Meurig, aelod cabinet dros yr amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Bydd staff o Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, sydd rwan efo'r pwerau i dynnu cerbydau i ffwrdd, yn talu sylw arbennig i ardal Eryri.

"Ein neges i fodurwyr ydy i barcio'n synhwyrol, ond os ydy'n angenrheidiol, mi fyddwn yn cymryd y camau priodol i gael gwared ar gerbydau sy'n parcio'n anghyfreithlon ar gyfer diogelwch y cyhoedd."

Dywedodd Arolygydd Plismona'r Ffyrdd Gogledd Cymru, Gareth Pearson: "Tra ein bod yn gwerthfawrogi bod pobl yn mynd allan er mwyn mwynhau'r tywydd a'r golygfeydd godidog, rydym yn annog pobl i fod yn gyfrifol a meddwl am ble maen nhw'n parcio, ac i wneud llawn ddefnydd o'r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael."

Mwy o drafnidiaeth gyhoeddus

Y gobaith yw y bydd cyfuniad o drafnidiaeth gyhoeddus, llinellau melyn dwbl a synwyryddion sy'n dweud pan fod llefydd parcio ar gael, yn helpu i fynd i'r afael â pharcio gwael yn yr ardal.

Mae Bws Ogwen - sy'n wasanaeth bws trydan cymunedol - yn rhedeg wyth gwaith y dydd o 1 Ebrill rhwng Bethesda a Llyn Ogwen.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwasanaeth Bws Ogwen yn rhedeg o Fethesda i Lyn Ogwen ac i Gapel Curig eleni

Dywedodd Angela Jones, rheolwr partneriaethau'r Awdurdod Parc Cenedlaethol: "Mae i wneud gyda chael y neges i bobl bod angen cynllunio ymlaen llaw pan maen nhw'n meddwl am ddod yma ac edrych ar beth sydd ar gael.

"Yn draddodiadol mae pobl wedi gyrru'n syth i Ogwen a pharcio yna.

"Llynedd cawsom ni llawer o bobl leol yn defnyddio'r gwasanaeth [bws] sy'n wych. Ond mi fydden yn caru cael hyd yn oed mwy o ymwelwyr ar y gwasanaeth."

Mae gwefannau fel Traffig Cymru ac ap Parcio Eryri hefyd ar gael er mwyn i ymwelwyr wirio'r ffyrdd a llefydd parcio cyn iddyn nhw gyrraedd.