Symud cleifion a chau ward Ysbyty Tywyn yn sgil prinder staff

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty TywynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd ward cleifion mewnol Ysbyty Tywyn yn cau oherwydd methiant i recriwtio digon o nyrsys

Bydd cleifion mewn ysbyty cymunedol yn y gogledd yn cael eu symud i ysbyty arall oherwydd prinder staff.

Bydd ward cleifion mewnol Ysbyty Tywyn yn cau dros dro gan nad yw'r bwrdd iechyd wedi gallu recriwtio digon o nyrsys i weithio yno.

Mae'n golygu na fydd cleifion yn aros dros nos yno bellach, a dim ond apwyntiadau dydd fydd ar gael o'r ysbyty.

Yn ôl aelodau Plaid Cymru yn yr ardal, mae hyn yn "ergyd arall" i bobl Bro Dysynni.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn adolygu'r trefniadau'n rheolaidd ac mai diogelwch cleifion yw eu blaenoriaeth.

Ddydd Iau fe rannodd y bwrdd iechyd ddatganiad yn dweud eu bod wedi "gweithio'n galed i recriwtio nyrsys newydd" ond eu bod bellach "wedi defnyddio pob opsiwn recriwtio".

"Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, nid ydym wedi gallu recriwtio niferoedd digonol o nyrsus," dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig ar gyfer gorllewin y bwrdd iechyd.

"Gyda diogelwch ein cleifion fel ein prif bryder, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau'r ward yn Ysbyty Tywyn dros dro a chyfuno gwelyau cleifion mewnol yn Ysbyty Dolgellau i sicrhau cyflenwad nyrsio mwy cadarn.

"Bydd yr holl wasanaethau eraill - gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol - yn parhau fel arfer yn Ysbyty Tywyn."

Dywedodd y bydd staff a chleifion yn dechrau symud draw i Ddolgellau dros yr wythnosau nesaf.

Ychwanegodd y bydd trefniadau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u bod yn parhau i geisio recriwtio, er y gallai hynny gymryd rhai misoedd.

"Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi pryder o fewn cymuned Tywyn ond rydym wedi gwneud y penderfyniad i warchod diogelwch ein cleifion mewnol hyd nes y gallwn gyflawni lefelau cynaliadwy o staff nyrsio."

'Pryderus iawn'

Ymatebodd cynrychiolwyr etholaeth Dwyfor Meirionnydd nos Iau trwy ddweud bod y cyhoeddiad yn "ergyd wirioneddol" i'r ardal, a'u bod "yn bryderus iawn am ddyfodol yr ysbyty".

Mewn datganiad pellach, fe ddywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru yn y Senedd a Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru bod cynrychiolwyr y bwrdd iechyd wedi dweud wrthyn nhw mewn cyfarfod yn ystod y dydd "yn bendant nad oes unrhyw fwriad i gau Ysbyty Tywyn".

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor wedi mynegi pryderon i'r bwrdd iechyd

Wrth amlinellu'r heriau o ran recriwtio nyrsys cofrestredig yn ne Meirionnydd, roedd y bwrdd wedi egluro wrthyn nhw bod ailagor y ward cleifion mewnol yn ddiogel "yn dibynnu ar recriwtio pedair nyrs".

Pam ddywedodd y cynrychiolwyr bod hi'n fwriad i ailagor y ward erbyn mis Awst, roedd y ddau wleidydd wedi mynegi pryder "y bydd hyd yn oed cau'r ward dros dro yn arwain at oblygiadau eang a hirdymor ac y gallai atal staff nyrsio rhag ymgeisio am swyddi ymhellach".

Mae dyfodol yr Uned Mân Anafiadau hefyd, medd y gwleidyddion, yn "dibynnu ar recriwtio pedair nyrs gofrestredig ychwanegol".

Ond mae swyddogion y bwrdd wedi cytuno i'w galwad "am amserlen glir ar gyfer ailagor y ward cleifion mewnol a'r Uned Mân Anafiadau, ynghyd â briff manwl o strategaeth y bwrdd iechyd i recriwtio staff nyrsio a sut y bydd y swyddi hyn yn cael eu hysbysebu".

Bydd y swyddogion hefyd yn cwrdd â'r ddau bob bythefnos fel eu bod nhw'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion yr ardal.