Gweinidogion 'heb helpu' gyda sylwadau am fwrdd iechyd y gogledd
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth pennaeth y corff sy'n edrych ar wariant cyhoeddus yng Nghymru ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl yn dweud bod gweinidogion yn gwneud "sylwadau nad oedd yn helpu" am fwrdd iechyd y gogledd.
Cafodd pryderon eu codi gan yr archwilydd cyffredinol bod y cyn-weinidog iechyd wedi awgrymu iddo gael "cyngor uniongyrchol" gan Archwilio Cymru ynglŷn â Betsi Cadwaladr yn gadael mesurau arbennig yn 2020.
Mae Plaid Cymru wedi galw am eglurder gan Lywodraeth Cymru.
Ond dywedodd Eluned Morgan, y gweinidog iechyd presennol, y byddai'n canolbwyntio ar weld "gwelliannau'n digwydd ar lawr gwlad i Betsi yn y dyfodol".
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddychwelyd i fesurau arbennig fis Chwefror yn dilyn cyfres o fethiannau, gan gynnwys o fewn gwasanaethau fasgwlar ac unedau brys.
Fe wnaeth adroddiad damniol feirniadu'r ffordd yr oedd yn cael ei redeg.
Roedd y bwrdd wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig yn 2020 - penderfyniad gafodd ei feirniadu'n hallt gan y gwrthbleidiau ar y pryd.
'Dim cyngor uniongyrchol'
Ddiwrnod ar ôl i'r bwrdd ddychwelyd i fesurau arbennig, yn y Senedd, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford wrthod awgrym Plaid Cymru fod y mesurau arbennig wedi cael eu codi yn 2020 oherwydd bod "etholiad ar y gorwel".
Dywedodd Mr Drakeford: "Fe gafodd y penderfyniad - penderfyniad gweinidogion - i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig ei wneud oherwydd i ni gael gwybod mai dyna beth y dylem ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gan swyddogion Llywodraeth Cymru sydd yn rhoi cyngor i weinidogion."
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton wrth Blaid Cymru mewn llythyr na wnaeth ei sefydliad roi'r fath gyngor.
Mewn ymateb i gais am eglurder wrth Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, dywedodd Mr Crompton: "Mewn ymateb i'ch cwestiwn penodol ynghylch a oedd cyngor gen i neu fy staff i'r gweinidog i dynnu'r bwrdd iechyd i lawr o fesurau arbennig ar y pryd, gallaf fod yn glir iawn nad oedd cyngor o'r fath."
Esboniodd fod Archwilio Cymru yn rhannu'r wybodaeth maen nhw'n ei gasglu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd wedyn yn rhoi cyngor i weinidogion.
Ond fe ddywedodd bod sgyrsiau wedi bod o fewn Archwilio Cymru ble roedd cydnabyddiaeth fod "pum mlynedd gyda'r label 'mesurau arbennig' yn dod yn rhwystr cynyddol i welliannau o fewn y bwrdd iechyd, o ystyried yr effaith negyddol ar feysydd allweddol fel recriwtio allanol, cysylltiadau mewnol, a morâl staff".
Dywedodd Plaid Cymru fod y prif weinidog wedi camarwain y Senedd - cyhuddiad y mae Mr Drakeford yn ei wadu.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Drakeford fod y broses ar fesurau arbennig yn "system gymhleth i'r rheiny sydd ddim yn gyfarwydd â hi.
"Mae'n dechrau gyda'r archwilydd cyffredinol, y gwasanaeth sifil ac Arolygiaeth Gofal Cymru'n dod ynghyd i drafod a oes angen ymyrraeth ychwanegol ar sefydliad ai peidio.
"Ar wahân i hynny, mae gweision sifil wedyn yn cynghori gweinidogion a'r trydydd cam yw bod gweinidogion yn dewis."
'Proses gymhleth'
Wrth siarad yn y Senedd yn dilyn y penderfyniad i dynnu bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020, dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd ar y pryd: "Maen nhw wedi ystyried y wybodaeth ychwanegol sydd wedi cael ei ddarparu, ac mae'r grŵp yna o bobl - prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru - wedi rhoi cyngor clir y dylai Betsi Cadwaladr symud allan o fesurau arbennig, a dyna sail fy mhenderfyniad."
Mewn llythyr at Blaid Cymru, dywedodd yr archwilydd cyffredinol ei fod wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar y pryd "i nodi ei fod yn ddi-fudd i'r gweinidog awgrymu ei fod wedi derbyn cyngor uniongyrchol gennyf fi neu fy staff ar statws y bwrdd iechyd".
Wrth siarad ar raglen Politics Wales, pan ofynnwyd iddi a oedd angen i weinidogion gywiro cofnod y Senedd dywedodd y Gweinidog Iechyd presennol, Eluned Morgan: "Mae'r prif weinidog wedi egluro'r sefyllfa er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn deall rhywbeth sy'n broses gymhleth.
"Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw ffocysu ar y dyfodol. Dyna beth mae gen i ddiddordeb ynddo.
"Does gen i ddim diddordeb mewn semanteg o ddwy flynedd yn ôl. Rydw i eisiau gweld gwelliannau'n digwydd ar lawr gwlad i Betsi yn y dyfodol - dyna beth mae'r cyhoedd yn poeni amdano."
'Llywodraeth sy'n osgoi cyfrifoldeb'
Dywedodd Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ar Politics Wales: "Mi wnaethon nhw gamarwain y Senedd.
"Rydym yn gofyn y llywodraeth am eglurdeb, rydym yn gofyn i'r llywodraeth rhoi eu dwylo i fyny a dweud 'cawsom ni'r un yma'n anghywir'.
"Achos ynghanol hyn mae bwrdd iechyd cythryblus, sy'n dioddef, sydd wedi methu, ac mae angen i ni wybod pam gymerodd y llywodraeth benderfyniadau gwahanol ar adegau gwahanol er mwyn datrys y mater.
"Maen nhw wedi methu ac yma mae gennym lywodraeth sy'n osgoi cyfrifoldeb gan ddweud ei fod yn semanteg.
"Efallai eu bod yn meddwl ei fod yn semanteg. Dyw'r archwilydd cyffredinol ddim yn meddwl hynny."
Dywedodd yr AS Ceidwadol am Orllewin Clwyd, Darren Millar: "Mae angen i ni gymryd gweinidogion allan o'r mater a dweud y gwir, pan mae'n dod at ymyrryd yn ein gwasanaethau iechyd.
"Mae'n rhaid i ni gael gwleidyddiaeth allan o'r sefyllfa yma fel bod pobl yn gallu cael y gwasanaethau maen nhw'n eu haeddu.
"Mae gennym fwrdd iechyd yng ngogledd Cymru sy'n methu ac mae wedi bod yn methu am amser hir iawn bellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2023