Hanes derwen Pontfadog a'n coed hynafol eraill

  • Cyhoeddwyd
Mary Morris gyda'i merch Jo Williams yn ferch fach ger y goedenFfynhonnell y llun, Teulu Williams, Cilcochwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mary Morris ar fferm Cilcochwyn gyda Jo Williams yn ferch fach ger derwen fawr Pontfadog

Ydych chi erioed wedi meddwl pa mor hen yw'r coed o'n cwmpas a faint o newid maen nhw wedi ei weld?

Mae rhai o'n coed hynaf yn dyddio nôl yn bell cyn Cristnogaeth a rhai wedi byw drwy fynd a dod y Rhufeiniaid a digwyddiadau mawr yn hanes Cymru.

Un o'r rhain oedd Derwen Pontfadog oedd rhwng 1,200 a 1,700 mlwydd oed ac yn dyst yn 1165 i Frwydr Crogen gerllaw lle wnaeth Owain Gwynedd amddiffyn y ffin yn llwyddiannus rhag ymosodiad brenin Lloegr.

Yn tyfu ar fferm Cilcochwyn ym Mhontfadog ger y Waun, credir ei bod yn un o'r coed derw hynaf a lletaf ar gofnod yn y byd tan i storm fawr ei dymchwel yn 2013.

Ond fe lwyddwyd i glonio'r dderwen ac yn gynharach ym mis Ebrill 2023, cafodd un o'r coed ifanc a drawsblanwyd ohoni ei gosod yn nhir Castell y Waun, ddim yn bell o ble safai'r fam-dderwen.

Cafodd ei phlannu gan dair cenhedlaeth o deulu Cilcochwyn, oedd wedi gofalu am y goeden dros ddegawdau, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Paul Harris Photography
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu yn plannu'r goeden ifanc newydd yng Nghastell y Waun yn 2023

Fe welodd y goeden genedlaethau o deulu Cilcochwyn yn tyfu ac mae eu lluniau yn dangos mor bwysig oedd hi i'w hanes teuluol.

Ffynhonnell y llun, Teulu Williams, Cilcochwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mary Morris ar fferm Cilcochwyn gyda Jo Williams yn ferch fach ger derwen fawr Pontfadog

Meddai Jo Williams, a fagwyd ar y fferm Cilcochwyn: "I rywun arall mae'n bosibl mai dim ond coeden ydy hi, ond roedd yn golygu mwy na hynny i ni.

Ffynhonnell y llun, Teulu Williams, Cilcochwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mary Morris yn mesur y goeden yn 1975

Ffynhonnell y llun, Teulu Williams, Cilcochwyn
Disgrifiad o’r llun,

Bernard Morris gyda'i wyrion, Huw ac Alun wrth y goeden

"Rydyn ni wedi chwarae cuddio yno, gallech roi bwrdd a chwe chadair ynddi a chael bwyd ynddi. Mae cymaint o bobl wedi cerfio'u llythrennau arni," meddai Jo Williams, sydd wedi cofnodi hanes y goeden nôl i 1165.

Ffynhonnell y llun, Teulu Williams, Cilcochwyn
Disgrifiad o’r llun,

Gwesteion priodas Jo Williams yn dod at ei gilydd am lun wrth y goeden i ddathlu'r achlysur

"Mae wedi bod yn gyfarwydd i mi drwy fy mywyd, ac mae gen i luniau o pan oeddwn yn blentyn bach gyda fy mam yn sefyll o'i blaen i luniau ohonof ar ddiwrnod fy mhriodas yn sefyll gyda theulu a ffrindiau."

Ffynhonnell y llun, Teulu Williams, Cilcochwyn
Disgrifiad o’r llun,

Bernard Morris wrth y goeden yn 1982 gyda'i wyres Clare

Mae rhai o'r coed newydd eraill gafodd eu himpio o'r dderwen wreiddiol yng ngofal Windsor Great Park, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Dim amddiffyniad i hen goed

Mae elusen gadwraeth Coed Cadw yn galw am amddiffyn ein hen goed yn gyfreithiol, yn yr un ffordd ag y mae hen adeiladau yn cael eu gwarchod.

"Yn anffodus, nid yw coed hynafol yn derbyn unrhyw amddiffyniad cyfreithiol awtomatig ac eto maent yn hynod arwyddocaol yn ecolegol, yn hanesyddol ac i'n diwylliant Cymreig," meddai Kylie Jones Mattock, Rheolwr Stad gyda Coed Cadw yng Nghymru.

Mae'r elusen yn cynnal cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn er mwyn cefnogi eu gwaith i godi ymwybyddiaeth am ein cysylltiad gyda'n coed hynafol.

Un o'r rhai sydd wedi ennill yw Coeden y Cabidwl ger mynachlog o'r 12fed ganrif ym Mharc Margan, Port Talbot.

Ffynhonnell y llun, Coed Cadw
Disgrifiad o’r llun,

Canghennau llydan braf y goeden ffawydd ger mynachlog Sistersaidd Parc Margam - enillydd Coeden y Flwyddyn Cymru 2020

Y Dderwen wrth Borth y Meirw

Mae un arall o'n coed hynafol arwyddocaol yn sefyll ychydig gaeau o hen safle derwen Pontfadog, a choeden dderw arall oedd yn dyst i ymladd gwaedlyd Crogen ydy hithau.

Ffynhonnell y llun, Woodland Trust

Meddai Kylie Jones Mattock: "Credir ei bod yn dyddio'n ôl i deyrnasiad y Brenin Egbert yn 802, ac roedd gan y Dderwen Fawr gylchred o 10m tan 2010, pan holltodd ei boncyff mewn tywydd oer.

"Mae ei lleoliad, ar Glawdd Offa, wrth y porth i Ddyffryn Ceiriog ychydig islaw Castell y Waun, yn drawiadol iawn. Ar y safle hwn yn 1165 yr ymosododd lluoedd Cymru ar fyddin ymosodol o Loegr ym Mrwydr Crogen, a chladdwyd y meirw gerllaw."

Dyma'r cyfnod roedd teyrnasoedd y brenhinoedd Cymreig yn ffurfio wrth i'r Sacsoniaid ddod i reoli dros y rhan fwyaf o Loegr.

Byddai'r goeden wedi dechrau tyfu ychydig dros 20 mlynedd wedi i'r brenin Offa orchymyn codi ei glawdd enwog a ddaeth yn ffin i wahanu Cymru a Lloegr.

Ywen Disgoed: 5,000 o flynyddoedd?

Mae'n anodd gwybod pa un yw coeden hynaf Cymru gan ei bod yn anodd dyddio coed yn gywir, ond mae'n debygol iawn mai coeden ywen ydy hi.

Credir bod ein coed yw hynaf yn hŷn na rhai o'r pyramidau ac wedi bod yn bwysig iawn i'r Celtiaid.

Un ohonynt ydy Ywen Disgoed yn Llanandras ym Mhowys.

Ffynhonnell y llun, Coed Cadw

"Mae Ywen Disgoed ym mynwent eglwys Sant Mihangel yn debygol o fod, yn rhyfeddol, yn 5,000 o flynyddoedd oed," meddai Kylie Jones Mattock.

"Mae'n debyg ei fod yn un o'r pump hynaf yn Ynysoedd Prydain. Cwmpas yr Ywen yw 1128cm (37 troedfedd) ac mae'n wrywaidd.

"Roedd coed yw yn gysegredig i'r hen Geltiaid ac fe'i cysylltir yn aml â hen eglwysi: credir bod Cristnogion cynnar wedi pregethu oddi tanynt er mwyn cael derbyniad o'r grefydd newydd."

Mae ywen enwog Llangernyw, dolen allanol hefyd yn un o'r rhai hynaf a gallu'r ywen i aros yn fytholwyrdd a thyfu o'r newydd o hen fonyn yn siŵr o fod wedi ei gwneud yn arbennig i'r hen Geltiaid.

Felly, y tro nesaf ewch chi am dro a gweld coeden hynafol, meddyliwch pa straeon fyddai hi'n gallu eu dweud wrthon ni petai hi'n gallu siarad!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol