Bwcle: Dyn wedi ei ganfod yn euog o lofruddio'i gyn-ffrind

  • Cyhoeddwyd
StevenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Steven Wilkinson ar ôl ymosodiad ym Mwcle y llynedd

Mae dyn wedi cael ei ganfod yn euog o lofruddio ei gyn-ffrind yn Sir y Fflint y llynedd.

Roedd Jamie Mitchell, 25, wedi gwadu llofruddio Steven Wilkinson, 23, yn ardal Bwcle.

Clywodd y llys fod Mr Wilkinson wedi "cael ei erlid, ei gornelu a'i drywanu'n fwriadol," gan Mitchell ar 4 Hydref 2022.

Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands wrth Mitchell fod hyn yn enghraifft o beth sy'n digwydd pan fod "dynion ifanc annigonol fel chi yn mynd â chyllyll allan ar y stryd".

"Rwyt ti wedi cael dy ganfod yn euog ar dystiolaeth cymhellol iawn o lofruddiaeth dyn ifanc arall a oedd yn digwydd bod yn y lle anghywir ar yr amser anghywir.

"Fe gollodd ei fywyd mewn ymosodiad llwfr," ychwanegodd.

Bydd Mitchell yn cael ei ddedfrydu ar 4 Mai.

Pynciau cysylltiedig