Yr Arglwydd John Morris, cyn-AS Aberafan, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Yn 91 oed bu farw'r gwleidydd a'r bargyfreithiwr, yr Arglwydd John Morris.
Bu gyrfa wleidyddol John Morris yn un hir a nodedig - fe dreuliodd dros 60 mlynedd yng nghoridorau pŵer San Steffan.
Ar ôl cael ei wrthod mewn etholaethau fel Caerfyrddin, pan ddewiswyd Megan Lloyd George fel ymgeisydd, cafodd John Morris ei ddewis i gynrychioli Llafur yn un o'i chadarnleoedd diwydiannol, Aberafan, yn 1959.
Cynrychiolodd y sedd am dros bedwar degawd, gan gael cyfrifoldeb yn y cabinet am dair adran wahanol - bu'n Ysgrifennydd Cymru, yn Weinidog Amddiffyn ac yn Dwrnai Cyffredinol.
Roedd yn un o'r ychydig aelodau seneddol i wasanaethu tri Phrif Weinidog Llafur - Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair.
Wrth ei gofio, dywedodd Mr Blair bod gyrfa'r Arglwydd Morris wedi bod yn "ddigynsail".
"Y rheswm bod prif weinidogion fel fi wedi ei ddewis mor gyson oedd oherwydd ei gymeriad a'i ymddygiad," meddai.
"Roedd yn alluog dros ben, roedd modd dibynnu arno bob tro ac nid oedd yn gwyro o ganolbwyntio ar ddiddordebau'r wlad.
"Yn bersonol ro'n i'n arbennig o ddiolchgar amdano yn ystod cyfnod anodd y gwrthdaro yn Kosovo."
'Datganolwr'
Roedd yn gredwr mawr mewn datganoli grym, yn benodol i Gymru, ond roedd hefyd yn wrthwynebydd cryf i annibyniaeth.
Cafodd yr Arglwydd Morris ei fagu ar fferm yng Nghapel Bangor ger Aberystwyth, gan fynychu Ysgol Ardwyn a Phrifysgol Aberystwyth cyn astudio yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt.
Yn ystod ei gyfnod fel Ysgrifennydd Cymru yn y 70au, fe dreuliodd flynyddoedd yn dwyn perswâd ar y mudiad Llafur i gefnogi datganoli yng Nghymru.
Cydweithiodd ag unigolion fel Michael Foot, Cledwyn Hughes, Gwilym Prys Davies ac Elystan Morgan, ond roedd eraill o fewn Llafur yng Nghymru fel Neil Kinnock yn chwyrn eu gwrthwynebiad i ddatganoli.
Meddai John Morris ar y pryd: "Rwy' wedi bod yn ddadganolwr ac yn ddatganolwr o'r eiliad gyntaf i mi ymuno â'r Tŷ ac rwy'n credu, Mr Cadeirydd, yn angerddol yn yr angen i ddod â'r llywodraeth yn agosach at y bobl."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod y genedl wedi "colli un o'n lleisiau mwyaf ffyddlon ac effeithiol".
Roedd yr Arglwydd Morris wedi ysgrifennu ato o'r ysbyty yn y dyddiau diwethaf meddai, a hynny am ei fod yn "bryderus fel yr arfer" y dylai mater o bwys i Gymru gael ei "graffu'n llawn yn Nhŷ'r Arglwyddi".
"Roedd mor falch bod senedd bellach yn bodoli yng Nghymru, ac mae'n addas ein bod yn gallu rhoi teyrnged iddo a chydymdeimlo gyda'i deulu ar lawr y Senedd yma heddiw."
Cafodd John Morris ran ganolog yn llunio'r mesur datganoli a gafodd ei dderbyn gan Harold Wilson - polisi a wrthodwyd gan bobl Cymru yn refferendwm 1979.
Roedd nifer ar y pryd yn feirniadol o ymgyrch Llafur, a'r rhaniadau mewnol yn golygu nad oedd yna ymdrech i gyfleu neges unedig.
Mewn cyfweliad wedi'r canlyniad dywedodd John Morris: "Mae polisi'r llywodraeth wedi cael ei wrthod gan Gymru. Gynta'i gyd mod i'n derbyn hynny gorau'i gyd.
"Mae'r polisi wedi'i wrthod ar ôl ymgyrch galed gan y llywodraeth Lafur."
'Pontio cenedlaethau'
Fe gafodd Llywydd Plaid Cymru yr Arglwydd Dafydd Wigley ei ethol i gynrychioli Arfon yn 1974, pan oedd John Morris yn Ysgrifennydd Gwladol.
Mae'n cydnabod ei gyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth a datganoli Cymru.
"Yn '79 pan ddoth y canlyniad allan roedd ganddo ddywediad enwog, roedd o'n nabod yr eliffant oedd yn eistedd ar ei garreg drws, sef roedd y canlyniad mor negyddol doedd dim posibilrwydd o ailagor y peth, a dyna fu.
"A dwi'n gwybod ei fod o'n eithriadol o falch pan yn '97, cenhedlaeth yn ddiweddarach, y llwyddwyd i gael pleidlais ie - Ron Davies yn Ysgrifennydd Gwladol erbyn hynny, ac roedd John Morris wrth gwrs yn weinidog yn y llywodraeth erbyn hynny hefyd.
"Roedd o'n un oedd wedi pontio cenedlaethau felly."
Bargyfreithiwr oedd John Morris wrth ei alwedigaeth a chafodd ei alw i'r Bar yn Gray's Inn ym 1954.
Cyn ei ethol yn AS bu'n ysgrifennydd cyffredinol ac ymgynghorydd cyfreithiol Undeb Amaethwyr Cymru rhwng 1956 a 1958.
O 1979 tan 1997 cyfunodd John Morris ei waith fel aelod o feinciau cefn yr wrthblaid Lafur a gyrfa fel bargyfreithiwr a barnwr.
Daeth John Morris yn ôl i'r Cabinet pan etholwyd Tony Blair yn 1997 - gan ddwyn perswâd ar ei drydydd prif weinidog i roi elfen o ddatganoli i Gymru.
Alun Michael oedd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd ac o amgylch bwrdd y cabinet gyda John Morris.
"Oedd 'na ddim cytundeb ledled Cymru ac wrth gwrs - dim ond mwyafrif bach iawn ddaru lwyddo i roi y mesur mewn lle," meddai Mr Michael.
"Ond ar ôl hynny roedd 'na lot o waith i 'neud ac oedd y ffaith bod John Morris yn y cabinet fel cyn-Ysgrifennydd Gwladol ond hefyd gyda'r awdurdod fel Twrnai Cyffredinol yn bwysig ac yn gefnogol iawn."
Roedd John Morris â rhan flaenllaw pan agorodd y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynorthwyo gyda'r gwaith o lunio cyfreithiau'r sefydliad.
'Elwa'n fawr o'i brofiad'
Un a elwodd yn fawr o'i brofiad ac a oedd yn ei adnabod yn bersonol oedd Winston Roddick, a fu yn Gwnsler Cyffredinol Cymru rhwng 1998 a 2004 gan weithredu fel uwch-ymgynghorydd ar holl faterion cyfreithiol pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.
"Fe wnes i elwa'n fawr o'i brofiad e," meddai.
"O'dd 'na neb o'n i'n gallu troi atyn nhw o'dd â'r profiad perthnasol er mwyn dangos y ffordd i mi - i gynnal swydd gyfansoddiadol bwysig o'r math.
"O'dd hi'n swydd ddigynsail - o'dd rhaid troi at rywun ac wrth lwc ro'n i'n gallu troi at yr Arglwydd Morris yn ei swydd o fel Cwnsler Cyffredinol y Deyrnas Unedig.
"Roedd o'n Gymro i'r carn. Mae ei gyfraniad i Gymru a'r DU yn amhrisiadwy.
"Roedd ganddo feddwl agored a goddefgarwch. Er ei fod yn aelod o'r Blaid Lafur ro'dd o'n gweld ei hun fel gweinidog gyda dyletswydd i'r cyhoedd yn gyffredinol.
"O'r cychwyn hyd at y diwedd roedd o'n gyfrannwr mawr i Gymru ac i'r Gymraeg.
"Fe gefais i'r fraint yn ddiweddar i gynnig llwnc destun iddo yn Gymraeg yn Gray's Inn ar achlysur ei ben-blwydd yn 90 - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ac ro'dd e a'i wraig wrth eu bodd."
Yn dilyn ei ymddeoliad fel Aelod Seneddol cafodd John Morris le parhaol yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Rhestr Anrhydeddau 2001 gan gael ei adnabod fel y Barwn Morris o Aberafan.
Yn ystod ei gyfnod yn Nhŷ'r Arglwyddi un o'r pynciau a gafodd gryn sylw ganddo oedd yr oedi yn Ymchwiliad Chilcot i ryfel Irac.
Yn 2011 fe gyhoeddodd yr Arglwydd Morris ei gyfrol Fifty Years in Politics and Law sydd yn bwrw goleuni ar ei fywyd a'i waith dros y degawdau.
Yn 2022 wrth baratoi i fod yn un o'r nifer a oedd yn derbyn corff y Frenhines Elizabeth II yn swyddogol i Neuadd Westminster dywedodd ei bod wedi cyfarfod â'r Frenhines droeon yn ystod ei hymweliadau â Chymru.
Mae'r Arglwydd John Morris yn gadael gweddw, Margaret, a thair o ferched.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Medi 2022