Penodi menyw yn is-ganghellor prifysgolion am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Elwen EvansFfynhonnell y llun, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Athro Elwen Evans yn camu i fyny o'i rôl fel dirprwy is-ganghellor

Mae Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi penodi menyw fel is-ganghellor am y tro cyntaf.

Bydd yr Athro Elwen Evans KC yn olynu'r Athro Medwin Hughes a fydd yn ymddeol ar ôl 23 mlynedd yn y swydd.

Bydd yn dechrau yn ei rôl fel darpar is-ganghellor ym mis Mehefin gan gymryd yr awenau fel is-ganghellor ym mis Medi.

Yr Athro Evans fydd arweinydd benywaidd cyntaf yn hanes y prifysgolion a'r sefydliadau oedd yn bodoli cyn hynny.

Dywedodd yr Athro Evans ei bod yn "anrhydedd mawr" cael ei phenodi i'r rôl.

"Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr a llywodraethwyr yn y Brifysgol a gyda phartneriaid allanol i sicrhau llwyddiant parhaus y ddau sefydliad uchel eu bri."

Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Medwin Hughes yw'r is-ganghellor prifysgol sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghymru

Astudiodd yr Athro Evans y Gyfraith yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, gan raddio â gradd dosbarth cyntaf dwbl.

Fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002.

Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i'r Gyfraith yng Nghymru.

Bu hefyd yn Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ac yn 2018 roedd ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.

Fydd yr Athro Evans yn cymryd lle'r Athro Medwin Hughes, yr is-ganghellor prifysgol sydd wedi gwasanaethu hiraf yng Nghymru.

"Bydd yr is-ganghellor newydd yn parhau â'r gwaith i sefydlu Prifysgol newydd i Gymru," meddai'r Athro Hughes.

"Gallaf ei sicrhau y gall ddibynnu ar gefnogaeth lawn y Prifysgolion wrth iddi ddechrau ar y bennod newydd gyffrous hon yn hanes ein sefydliadau."

Yn ddiweddar, cafodd yr Athro Hughes ei benodi yn gadeirydd Llais - corff cenedlaethol newydd sy'n cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.