Ansicrwydd i bêl-droedwyr ifanc wrth i academïau golli trwydded
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o bêl-droedwyr ifanc yn wynebu haf ansicr ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru dynnu trwyddedau oddi ar bum academi ac israddio rhai eraill.
Mae penderfyniad CBDC yn golygu na fydd modd i Ffynnon Taf, Rhisga, Cwmbrân, Llandudno na Derwyddon Cefn gynnig pêl-droed lefel academi i blant rhwng 12 a 16 oed y flwyddyn nesaf.
Mae clybiau a rhieni'n dweud eu bod yn siomedig, yn enwedig gan fod plant wedi gorfod rhoi'r gorau i chwarae mewn timau llawr gwlad y llynedd er mwyn ymuno gydag academi.
Yn ôl CBDC mae'r broses o adolygu'r drefn academïau wedi bod ar y gweill ers 18 mis ac maen nhw wedi ymgynghori gyda'r timau dan sylw.
Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Ffynnon Taf ger Caerdydd wedi ei siomi'n fawr, yn enwedig o ystyried llwyddiant y clwb wrth gynhyrchu chwaraewyr o safon.
"Mae'n ergyd fawr," meddai Lee Bridgeman wrth Newyddion S4C.
"Dros y tair blynedd ddiwethaf mae 30 o'n chwaraewyr wedi ymuno â Chaerdydd, Abertawe neu Gasnewydd.
"Mae gyda ni gyn-chwaraewyr yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru ac mae 19 o'n tîm ieuenctid wedi chwarae yn y Cymru South [ail haen] eleni.
"Oes, mae angen gwelliannau oddi ar y cae. Ond siawns na fyddai cymorth a chyllid i roi'r gwelliannau hynny ar waith yn llawer gwell na thynnu trwydded ac effeithio ar 200 o blant."
Mae mab Gethin Davies wedi bod gydag academi Ffynnon Taf ers sawl blwyddyn.
Tra'n cydymdeimlo gydag ymdrechion CBDC i sicrhau safonau mae e'n cytuno y gallen nhw fod wedi rhoi mwy o amser iddyn nhw.
"Maen nhw'n moyn codi safon ym mhob academi sydd i gael yng Nghymru sef y peth cywir i'w wneud ond falle dylen nhw fod wedi trio rhoi bach mwy o gymorth i'r academïau 'ma nawr fel bod timau llwyddiannus fel Taffs yn gallu cario 'mlaen am flwyddyn arall a trial sorto pethe mas."
'Colli cenhedlaeth o bêl-droedwyr'
Bu'n rhaid i Max roi'r gorau i chwarae gyda'i dîm lleol llynedd er mwyn chwarae gyda Chwmbrân.
 hwythau nawr wedi colli eu trwydded, mae e ymhlith dros 130 o blant fydd yn gorfod dod o hyd i glwb newydd.
Mae ei dad, Richard, yn anfodlon.
"Mae'n anodd nawr i'r plant fynd 'nôl i chwarae i dimau lleol naill ai dyw'r timau ddim i'w cael rhagor neu maen nhw'n llawn a dyw hynny ddim yn deg ar y plant," dywedodd.
"Dwi'n ofni nawr y gallai pêl-droed Cymru golli cenhedlaeth o chwaraewyr o achos hyn.
"Breuddwydion plant - 'na beth sydd gyda ni fan hyn.
"Mae llawer yn meddwl bod nhw'n mynd 'mhlan i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru neu hyd yn oed yn Lloegr yn y dyfodol ac mae hwnna wedi ei gymryd oddi arnyn nhw."
"Bydd hi'n anodd iawn i bobl fynd nôl mewn i academïau, nid dim ond fi a phobl Cwmbrân sy'n edrych am academi newydd," ychwanegodd.
"Dwi'n ffodus iawn i fyw mor agos i glybiau eraill fel Cambrian a Clydach, Penybont a llefydd fel hynny.
"Mae gan Risga chwaraewyr da, maen nhw'n bennu'n eitha' da yn y tabl bob blwyddyn. Ble maen nhw am fynd? Ydyn nhw really moyn mynd i Benybont sydd awr i ffwrdd?"
'Gwirfoddolwyr y'n ni gyd'
Mae academi Rhisga ymhlith y rhai fydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad.
Mae hyfforddwr y tîm dan 15, Mark Hayward, yn teimlo y gallai CBDC fod wedi rhoi mwy o help iddyn nhw.
"Gwirfoddolwyr y'n ni i gyd," meddai, "'sneb yn cael eu talu yma.
"Chi'n gwneud eich swydd naw tan bump neu beth bynnag ac yna chi'n 'neud dwy neu dair awr bob nos ac hefyd ar benwythnosau. Mae'r peth yn ddigalon."
'Cymru'n rhy fach i gynnal 25 academi'
Gan fod nifer yn apelio doedd dim modd i'r gymdeithas wneud sylw ar achosion unigol.
Ond maen nhw'n dweud eu bod wedi mynd ati i gynnal adolygiad o strwythur yr academïau er mwyn sicrhau safonau.
Fe ddechreuon nhw ar y gwaith ym mis Rhagfyr 2021 ac roedd y clybiau'n rhan o'r broses.
Ym mis Mai y llynedd fe gafon nhw wybod beth oedd yn ddisgwyliedig ohonynt cyn cael gwahoddiad ym mis Mehefin i ymgeisio am statws academi.
Ym mis Mawrth eleni, ar ôl ymweld â'r clybiau, fe gafodd dros hanner ohonyn nhw wybod y gallen nhw golli eu trwyddedau.
Maen nhw'n dweud fod clybiau wedi colli eu trwyddedau o ganlyniad i faterion yn ymwneud â diogelu plant, safonau hyfforddi, pa mor gystadleuol yw'r timau a chyfleusterau.
Maen nhw hefyd yn dadlau bod poblogaeth Cymru yn rhy fach i gynnal 25 o academïau ac mai dim ond 50 sydd gan Loegr.
Roedd gan y clybiau tan ddydd Mawrth i apelio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2022