Dem Rhydd yn beirniadu araith olaf Price fel arweinydd Plaid

  • Cyhoeddwyd
Jane Dodds ac Adam PriceFfynhonnell y llun, BBC/Senedd Cymru

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu'r pleidiau eraill yn y Senedd am beidio â sôn am gynnwys adroddiad ar fwlio a misogynistiaeth o fewn Plaid Cymru, yn ystod ymddangosiad olaf Adam Price fel arweinydd.

Brynhawn Mawrth fe alwodd Mr Price ar y Prif Weinidog i wireddu'r cynlluniau i ehangu nifer Aelodau'r Senedd "fel bod pob llais yn cael ei glywed".

Ond ni wnaeth Mr Price, Mark Drakeford nac arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies gydnabod yr adroddiad gafodd ei gwblhau gan un o gyn-Aelodau'r Senedd, Nerys Evans.

Fe ddywedodd Jane Dodds AS, unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd ei bod hi'n "disgwyl i fwy o ddynion i amddiffyn menywod mewn gwleidyddiaeth".

'Dwi'n disgwyl mwy'

Fe wnaeth Ms Dodds y sylwadau ar raglen S4C, Y Byd yn ei Le, yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru.

Mae Llyr Gruffydd wedi olynu Mr Price fel arweinydd dros dro, a bydd ras arweinyddol yn cael ei chynnal dros yr haf i ddewis arweinydd parhaol.

Yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog brynhawn Mawrth fe wnaeth Mr Price a Mark Drakeford longyfarch ei gilydd am lwyddiannau'r cytundeb cydweithio rhwng PLaid Cymru a'r Blaid Lafur.

Ond cafodd y diffyg sylw i'r adroddiad damniol oedd wedi arwain at ymddiswyddiad Mr Price ei feriniadu hefyd gan gyn-AS Plaid Cymru, Bethan Sayed.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth ymddiswyddiad Adam Price yn dilyn adolygiad damniol o'r diwylliant o fewn y blaid

Fe ddywedodd Jane Dodds fod y ffaith i wleidyddion o statws mor uchel beidio cydnabod yr adroddiad yn siomedig.

"Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn enwedig dynion, i siarad allan yn erbyn y pethau sy'n digwydd i bobl fel fi," meddai.

"Dyna pam mae mor siomedig na wnaeth Adam Price gydnabod y mater, na Mark Drakeford nac ychwaith Andrew RT Davies - dim un ohonyn nhw.

"Dwi'n disgwyl mwy i fod yn onest."

'Ble oedd cwestiwn Ms Dodds?'

Yn ôl Llyr Gruffydd, wnaeth hefyd ymddangos ar y rhaglen, roedd Adam Price wedi cael ei holi eisoes gan y cyfryngau am gynnwys yr adroddiad.

"Dwi'n credu bod siarad am ei waith fel aelod etholedig, fel cynrychiolydd o'r cytundeb cydweithio ac yn y blaen, ac am natur ei berthynas gyda Mark Drakeford, a'i berthynas gydag Andrew RT Davies, yn briodol," meddai.

"Achos roedd e'n siarad yng nghyd-destun ei waith Seneddol. Does gen i ddim problem gyda hynny."

Dywedodd y Ceidwadwyr fod Andrew RT Davies wedi dymuno'n dda i Adam Price allan o "gwrteisi... fel mae disgwyl i wrthwynebwyr gwleidyddol ei wneud".

Ychwanegodd llefarydd fod Mr Davies wedi dewis canolbwyntio ar gwestiynau yn ymwneud â bwrdd iechyd y gogledd yn y sesiwn.

"Tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi cynnig dau gwestiwn amserol ym ymwneud ag ymddiswyddiad Adam Price, dyw Jane Dodds heb godi'r mater unwaith yn y Senedd, er ei bod hi wedi cael cyfle i wneud," meddai.