Alergedd: 'Brwydr' rhieni am ginio ysgol cydradd

  • Cyhoeddwyd
Quinten
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Quinten, 6, alergedd llaeth, wyau, soia a chnau

Mae rhieni i blant sydd ag alergeddau'n wynebu "brwydr barhaus" am gydraddoldeb gyda chinio ysgol, yn ôl elusen flaenllaw.

Mae teulu o Bowys yn dweud fod eu mab chwech oed yn aml yn gorfod cael bwyd plaen neu ailadroddus, sy'n gwbl wahanol i'r disgyblion eraill.

Dywedodd Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA) fod darparu ar gyfer anghenion alergedd yn gofyn am lawer o waith cynllunio, ond y dylai pob plentyn yng Nghymru gael pryd iachus.

Fe ddywedodd Cyngor Sir Powys fod y bwydlenni y maen nhw'n eu darparu yn iachus a chytbwys.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau i'w cynnig am ginio ysgol am ddim i fod "mor gynhwysol â phosib".

Mae gan Quinten, 6, o Bowys alergedd difrifol tuag at laeth, wyau, soia a chnau. Mae'n cario EpiPen - chwistrelliad o adrenalin pe bai'n cael adwaith anaffylactig.

Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r teulu yw sicrhau bod Quinten yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel yn yr ysgol amser cinio.

"Mae'n teimlo'n ynysig," dywedodd ei dad, Kam, a ddisgrifiodd y sefyllfa gyda'r awdurdod lleol fel "brwydr".

"Ers y dechrau'n deg pan ddaethon ni i wybod fod ganddo hawl i bryd o fwyd, fe ddechreuodd ar lefel syml iawn.

"Cinio rhost, tatws heb fenyn na chaws na dim - opsiynau plaen. Ry'n ni wedi gorfod treulio llawer o amser gyda nhw'n dweud 'wel, na, dyw hynny ddim yn iawn'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Quinten, Kam a Ceri, eisiau prydau bwyd "iachus a chydradd" ar gyfer eu mab

Dywedon nhw fod Quinten wedi cael "darn o dwrci mewn grefi" pan gafodd ei gyd-ddysgwyr gyri rai wythnosau'n ôl.

Dywedodd ei fam, Ceri, mai polisi'r awdurdod lleol sy'n "gwahaniaethu" yn erbyn ei mab.

"'Dw i'n gwybod y byddai nifer o bobl yn meddwl y dylai fod yn werthfawrogol o gael unrhyw beth, ond mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau bod fel pawb arall."

Mae gan Quinten, sydd ym mlwyddyn 1, hawl i ginio ysgol am ddim dan bolisi sy'n rhan o gytundeb cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Ond ychwanegodd Kam: "'Dw i'n ei chael hi'n anodd deall achos mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod hwn yn flaenoriaeth... ond mae'n ymddangos eu bod nhw'n gwbl amharod ar gyfer hyn."

'Brwydr barhaus'

Simone Miles yw prif weithredwr dros dro elusen Allergy UK, a dywedodd eu bod yn clywed am brofiadau tebyg "yn rhy aml".

"Trwy ein llinell gymorth, ry'n ni'n cael nifer fawr o alwadau gan rieni sy'n hynod bryderus gan nad yw eu plentyn yn gallu cael mynediad i'w gofynion dietegol yn yr ysgol," meddai.

"Mae hyn yn ymwneud â chynhwysiant a chydraddoldeb... mae gan bawb yr hawl i'w pryd o fwyd edrych a theimlo fel un pawb arall. Mae'n frwydr barhaus i rieni.

"Mae'r [polisi] cinio ysgol am ddim yn mynd i gael ei ehangu yng Nghymru felly mae 'na gyfle i ysgolion yng Nghymru ac awdurdodau lleol i edrych ar hyn nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aisling Pigott yn ddietegydd o Gaerdydd ac yn llefarydd ar ran cymdeithas y BDA

Dywedodd llefarydd ar ran y BDA, Aisling Pigott o Gaerdydd, ei bod yn cydnabod fod ateb gofynion alergeddau "yn cymryd llawer o waith cynllunio".

Ond dywedodd y dylai pryd o fwyd iachus a chydradd fod ar gael i bawb.

"Mae'n wych i weld y gwaith da sy'n cael ei wneud, ond yn siomedig i glywed nad yw rhai pobl yn cael y mynediad llawn sydd angen arnyn nhw," dywedodd.

"Mae hyn i gyd am gydraddoldeb... er bod gennych gyflwr meddygol neu alergedd, mae'n bwysig nad ydych chi'n cael eich eithrio rhag cael bwyd iachus."

'Mor gynhwysol â phosib'

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Powys dros Bowys Gysylltiedig: "Pan fyddwn yn cael gwybod bod gan blentyn anghenion dietegol arbennig, bydd ein gwasanaeth arlwyo ysgolion yn cysylltu'n uniongyrchol â'r teulu i ddarparu bwydlen a fydd yn diwallu eu hanghenion.

"Mae'r bwydlenni hyn, sy'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, yn cael eu gwirio gan ddietegwyr i sicrhau eu bod yn iach ac yn gytbwys o ran maeth."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni eisiau i'n cynnig prydau ysgol am ddim i oed cynradd fod mor gynhwysol â phosib.

"Disgwylir i ysgolion a gwasanaethau arlwyo wneud addasiadau rhesymol i ddiwallu unrhyw anghenion dietegol, meddygol."

Pynciau cysylltiedig