Trelái: Ymchwiliad manylach i ymddygiad dau heddwas
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n arolygu ymddygiad yr heddlu yn ymchwilio ymhellach i ymddygiad dau swyddog a ddilynodd ddau lanc am gyfnod yn ardal Trelái, Caerdydd cyn i'r bechgyn wrthdaro tra roeddent ar feic trydan.
Roedd yna anhrefn yn yr ardal nos Lun, 22 Mai wedi i drigolion lleol ddod i wybod am farwolaethau Harvey Evans 15, a'i gyfaill Kyrees Sullivan, 16.
Dywed Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) bod gorchmynion mewn cysylltiad â chamymddygiad difrifol posib wedi eu cyflwyno i ddau swyddog, sef "gyrrwr a theithiwr fan heddlu a gafodd ei gweld mewn lluniau CCTV yn gyrru tu ôl i feic trydan y bechgyn am gyfnod byr cyn y gwrthdrawiad angheuol".
Eglurodd y corff mai pwrpas y gorchmynion yw rhoi gwybod i swyddogion bod eu hymddygiad yn destun ymchwiliad, ond dyw hynny ddim "yn golygu y bydd unrhyw gamau disgyblu yn dilyn y gorchmynion".
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau nad ydy'r ddau swyddog wedi cael eu hatal o'u gwaith.
Dywed yr IOPC eu bod wedi dechrau ymchwilio wedi i Heddlu De Cymru gyfeirio'u hunain "ar ôl i luniau CCTV perthnasol ddod i'r amlwg".
Mae ymchwilwyr, meddai, "yn adolygu cannoedd o glipiau fideo" sydd wedi eu casglu o ganlyniad i ymholiadau o dŷ i dŷ ac ymgyrch dosbarthu taflenni yn Nhrelái.
"I sicrhau ein bod yn nodi a chael tystiolaeth berthnasol, rydym wedi cynnal ymholiadau pellach a chasglu datganiadau gan rai trigolion lleol," meddai'r IOPC mewn datganiad.
Maen nhw hefyd wedi gosod byrddau "ar strydoedd perthnasol" yn apelio am wybodaeth gan dystion, ac wedi "adolygu datganiadau cychwynnol a fideos camerâu corff swyddogion a staff heddlu perthnasol".
Ymchwiliad 'diduedd a hollol annibynnol'
Ychwanegodd yr IOPC eu bod "mewn cysylltiad cyson" gyda theuluoedd y ddau fachgen er mwyn rhannu manylion diweddaraf yr ymchwiliad.
Mae'r ymchwiliad hwnnw'n "parhau i ganolbwyntio ar natur ymwneud yr heddlu â'r ddau fachgen cyn y gwrthdrawiad ac addasrwydd penderfyniadau a gweithredoedd y swyddogion," dywedodd.
"Rydym yn arbennig yn archwilio a oedd penderfyniadau a gweithredoedd y swyddogion, ar unrhyw adeg, yn gyfystyr ag erlid. Mae Heddlu De Cymru wedi parhau i gydweithio â'r ymchwiliad."
Yn ôl Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford, mae ymateb y gymuned i'r ymchwilwyr "wedi bod yn bositif iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth yma".
Ychwanegodd: "Hoffwn roi sicrwydd i bawb ein bod yn canolbwyntio ar gadarnhau yn union beth ddigwyddodd cyn y digwyddiad trasig yma.
"Bydd ein gwaith yn parhau'n ddiduedd ac yn hollol annibynnol o'r heddlu."
Wrth gadarnhau bod yr IOPC wedi cyflwyno gorchmynion camymddygiad difrifol i'r ddau heddwas fel rhan o'u hymchwiliad, dywedodd Heddlu'r De bod y fath gam "ddim o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi gwneud rhywbeth o'i le".
Ychwanegodd llefarydd bod y llu'n parhau i gynorthwyo'r ymchwiliad a'u bod yn cydnabod effaith y marwolaethau ar berthnasau a ffrindiau'r ddau fachgen ynghyd â'r gymuned ehangach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2023
- Cyhoeddwyd26 Mai 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023