Partïon Rhif 10: Drakeford yn cyhuddo Sunak o lwfrdra am golli pleidlais
- Cyhoeddwyd
Cyflawnodd Rishi Sunak "weithred syfrdanol o lwfrdra gwleidyddol" trwy gadw draw o'r bleidlais ar bartïon Rhif 10 ddydd Llun, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Yn Senedd Cymru dywedodd Mr Drakeford ei fod yn enghraifft o "wendid gwleidyddol" Mr Sunak.
Fe wnaeth ASau yn San Steffan, yn absenoldeb y prif weinidog, gefnogi adroddiad nos Lun a ganfu fod Boris Johnson wedi camarwain Senedd y DU yn fwriadol am gyfnodau clo yn Rhif 10.
Dywedodd y pwyllgor y byddai wedi argymell atal Johnson o'r Tŷ am 90 diwrnod petai dal yn AS.
'Parchu' y canlyniad
Mae llefarydd Mr Sunak wedi dweud ei fod yn "parchu" y canlyniad.
Roedd Mr Sunak ymhlith y 225 o ASau Ceidwadol na chymerodd ran yn y bleidlais.
Pleidleisiodd saith yn erbyn, tra pleidleisiodd 118 o blaid.
Derbyniwyd yr adroddiad gan bum Ceidwadwr Cymreig - gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru David Davies, dau o'i ragflaenwyr Simon Hart a Stephen Crabb, ynghyd â Fay Jones a Craig Williams.
Ni phleidleisiodd yr wyth Ceidwadwr arall - gan gynnwys cyn-ysgrifenyddion Cymru David Jones ac Alun Cairns.
Ar ei thudalen Facebook dywedodd Fay Jones, AS Brycheiniog a Sir Faesyfed, y byddai "wedi bod yn anodd i mi edrych ar fy etholwyr yn eu llygaid" pe bai wedi ymatal.
Roedd adroddiad y pwyllgor trawsbleidiol wedi canfod bod Mr Johnson wedi torri rheolau droeon pan ddywedodd fod rheolau Covid wedi'u dilyn yn Rhif 10 bob amser.
Yn ei ymddangosiad cyntaf yn y Senedd fel arweinydd Plaid Cymru yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y Ceidwadwyr Cymreig na phleidleisiodd "yn ochri â Boris Johnson".
Atebodd Mr Drakeford: "Roedd yn weithred syfrdanol o lwfrdra gwleidyddol bod prif weinidog y wlad hon wedi methu â chefnogi adroddiad gan bwyllgor annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad hwnnw."
"Mae'r ffaith i'r prif weinidog fethu â chefnogi'r pwyllgor hwnnw yn enghraifft syfrdanol o'i wendid gwleidyddol."
Dywedwyd wrth y BBC fod gan y prif weinidog "ymrwymiadau hirsefydlog" ddydd Llun.
Gofynnodd gohebwyr dro ar ôl tro i Mr Sunak ddydd Llun sut y byddai'n pleidleisio ond ni atebodd y cwestiwn yn uniongyrchol.
Dywedodd fod y mater yn "fater i Dŷ'r Cyffredin, nid i'r llywodraeth".
"Mae hwnna'n wahaniaeth pwysig a dyna pam fyddwn i ddim eisiau dylanwadu ar neb cyn y bleidlais."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2023