Cyfrifiad 2021: Môn yn gweld y twf mwyaf mewn tai gwyliau

  • Cyhoeddwyd
AberffrawFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardaloedd fel Aberffraw ar Ynys Môn yn boblogaidd ar gyfer ail gartrefi neu aneddau gwyliau

Ynys Môn welodd y cynnydd mwyaf ar draws Cymru a Lloegr yn y defnydd o dai gwyliau dros y degawd diwethaf, yn ôl ystadegau newydd.

Mae gwybodaeth o Gyfrifiad 2021 hefyd yn dangos mai Gwynedd sydd â'r ail gyfran uchaf o dai gwyliau mewn unrhyw sir yng Nghymru a Lloegr.

O ystyried y boblogaeth leol, Gwynedd a Môn oedd â'r ganran uchaf o bobl yn teithio i aros yn yr ardaloedd hynny, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'r ddwy ardal wedi gweld cynnydd ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011.

Ble mae'r nifer fwyaf o dai gwyliau yng Nghymru?. Nifer fesul cymuned.  .

Ym Môn y bu'r cynnydd mwyaf, gyda 63.3 o bobl i bob 1,000 o'r trigolion arferol yn defnyddio ail gartref fel llety gwyliau.

Mae hyn yn cymharu â 41.5 yn 2011, gyda 4,375 o ddefnyddwyr tai gwyliau yn teithio i'r ynys erbyn Cyfrifiad 2021.

Hefyd o ddiddordeb

Nifer y bobl sy'n defnyddio ail gyfeiriad fel llety gwyliau. Fesul 1,000 o drigolion arferol.  .

I bob 1,000 o drigolion arferol Gwynedd, roedd 79 o bobl o ardaloedd eraill yn defnyddio tŷ gwyliau yn yr ardal, sef cyfanswm o 9,270 o bobl, a chynnydd o 63.9 i bob 1,000 yn 2011.

Roedd cynnydd yn Sir Benfro a Cheredigion hefyd, ond mae'r ffigyrau yn dangos bod 62.7% o ddefnyddwyr tai gwyliau Sir Benfro yn dod o Gymru ac yng Ngheredigion roedd y nifer yn 44.1%.

Yn Abertawe hefyd mae'r ffigyrau yn dangos bod 55.3% o ddefnyddwyr tai gwyliau yn dod o Gymru, ond ar Ynys Môn 7.2% oedd yn dod o Gymru ac yng Ngwynedd roedd y ganran gyfatebol yn 8.4%.

Mae gan Wynedd 41 o dai gwyliau i bob 1,000 o gartrefi - a dim ond ardal South Hams yn Nyfnaint, gyda 44.1 i bob 1,000, sydd â mwy na hynny.

Mae gan Ynys Môn 32.9 ail gartref i bob 1,000 o gartrefi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yng nghymuned Abersoch ac Aberdaron mae'r nifer fwyaf o dai gwyliau yng Nghymru - 620

O edrych ar gymunedau llai, ardal Salcombe, Malborough a Thurlestone yn South Hams, sydd â'r mwyaf o dai gwyliau - 171.9 i bob 1,000 o gartrefi, ac Abersoch ac Aberdaron yn ail gydag 153.3 fesul 1,000.

Roedd dros dri chwarter y rhai a ddefnyddiodd ail gartrefi yng Ngwynedd a Môn yn dod o ogledd-orllewin a gorllewin canolbarth Lloegr, ac mae dros hanner defnyddwyr ail gartrefi yng Nghymru yn dod o'r ardaloedd yma.

Daw'r mwyafrif fesul 1,000 o ddefnyddwyr tai gwyliau Môn o Sir Caer (13), ac mae 5.9 yn dod o Stockport. Roedd yna 4.5 fesul 1,000 yn dod o Trafford, 2.9 o Warrington a 2.9 arall o Gilgwri.

O Sir Caer hefyd y mae mwyafrif fesul 1000 o ddefnyddwyr tai gwyliau Gwynedd - 11.2. Roedd 5.8 yn dod o Sir Amwythig a 3.3 yn dod o Stockport.

Yn ôl yr ystadegau mae gan Gymru 6.9 o gartrefi gwyliau i bob 1,000 o gartrefi, gyda chyfanswm o 36,370 o bobl yn eu defnyddio, tra bo gan dde-orllewin Lloegr 7.5 i bob 1,000.

Cernyw sydd â'r canrannau uchaf o gartrefi gwyliau a defnyddwyr, gyda 6,080 o dai, a 14,230 o ddefnyddwyr.

Pynciau cysylltiedig