Marwolaeth perfformiwr drag: Rhyddhau dyn heb gyhuddiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad wrth i Heddlu De Cymru gwblhau eu hymchwiliad i farwolaeth perfformiwr drag yng Nghaerdydd.
Cafodd corff Darren Meah-Moore, oedd yn 39 oed ac yn dod o Gasnewydd, ei ddarganfod yn ardal Plas Windsor yn y brifddinas ar nos sul 22 Ionawr.
Dywedodd yr heddlu bod dyn 50 oed, oedd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad, wedi cael ei ryddhau o fechnïaeth yn ddi-gyhuddiad.
Mae teulu Mr Moore wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf, ac mae swyddogion cyswllt teulu yn parhau i gynnig cefnogaeth iddyn nhw.
Dydy'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'i farwolaeth.
Mae'r crwner wedi cael gwybod, a bydd y gwasanaeth crwner yn ymdrin â'i farwolaeth o hyn ymlaen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023