Porth Tywyn: Dyn yn ddieuog o ladd cyn-athro wedi ffrae annibyniaeth

  • Cyhoeddwyd
Peter OrmerodFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Peter Ormerod yn arfer dysgu yn Ysgol Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Ramadeg Caerfyrddin

Mae dyn wedi ei gael yn ddieuog o ddynladdiad cyn-athro o Sir Gaerfyrddin.

Bu farw Peter Ormerod ddyddiau wedi digwyddiad tu allan i dafarn y Portobello ym Mhorth Tywyn fis Medi'r llynedd.

Clywodd y llys fod y dyn 75 oed wedi ei wthio ar y stryd gan Hywel Williams o Gaerdydd, 40, yn dilyn ffrae dros annibyniaeth.

Bu'r rheithgor yn trafod dros gyfnod o chwech awr cyn dod i benderfyniad nad oedd Mr Williams, a oedd yn gyn-gyfarwyddwr teledu ar opera sebon Pobol y Cwm, yn euog o ddynladdiad.

Cafodd Mr Ormerod, cyn-athro yn Ysgol Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Ramadeg Caerfyrddin, ei ddisgrifio fel dyn "cariadus ac annwyl".

Fe ddywedodd y barnwr Paul Thomas KC nad oedd yn gallu cofio achos "mor drist â hyn".

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y dynion yn anghytuno ar y ddadl dros Gymru annibynnol a'u bod wedi trafod y mater yn nhafarn y Portobello Inn ym Mhorth Tywyn ar 24 Medi 2022.

Clywodd y llys yr wythnos ddiwethaf fod Hywel Williams wedi gadael y dafarn gyda'i fam ac fe aeth Peter Ormerod ato y tu allan.

Fe ddechreuodd y ddau ddadlau cyn i Hywel Williams wthio Peter Ormerod i'r llawr "mewn panig" i amddiffyn ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y rheithgor i benderfyniad nad oedd Hywel Williams yn euog o ddynladdiad Peter Ormerod

Fe ddywedodd Hywel Williams wrth y rheithgor yr wythnos diwethaf ei fod wedi teimlo "dan fygythiad" gan Peter Ormerod.

Roedd lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos Peter Ormerod a Hywel Williams yn dadlau ar Heol Stepney ym Mhorth Tywyn am 22:40 y diwrnod hwnnw.

Fe ddywedodd Hywel Williams wrth y llys fod y ddau yn rhegi ar ei gilydd cyn i Peter Ormerod gamu tuag ato.

Clywodd y llys fod Mr Williams wedi galw'r gwasanaethau brys eiliadau ar ôl y digwyddiad, ac fe arhosodd tan iddo gael ei arestio gan yr heddlu.

Fe ddywedodd Mr Williams ei fod wedi gwneud popeth o fewn ei allu i helpu Mr Ormerod.

Bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach gydag anafiadau difrifol i'r pen.

'Siom enbyd'

Wedi'r dyfarniad, fe ddarllenodd merch Mr Ormerod, Cari, ddatganiad y tu allan i Lys y Goron Abertawe.

"Mae dyfarniad heddiw yn siom enbyd i ni," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddywedodd merch Peter Ormerod, Cari, fod ei thad yn ddyn caredig a chariadus wrth siarad wedi'r dyfarniad

"Hoffem ddiolch yn fawr i'r holl bobl a ofalodd am ein tad yn dilyn y digwyddiad.

"Nid ydym yn adnabod y fersiwn o'n tad a ddisgrifiwyd yn ystod yr achos llys. Nid oedd yn berson ymosodol o gwbl.

"Treuliodd ei holl fywyd proffesiynol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc a hynny trwy ddangos parch, amynedd ac empathi i bawb.

"Roedd Dad yn berson caredig, cariadus ac ystyriol. Mae'n cael ei golli'n fawr gan y teulu a'i ffrindiau."

'Trasig'

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ddiolch i'r rheithgor am eu ystyriaeth yn ystod yr achos llys.

"Yn drasig fe ddaeth bywyd Mr Ormerod, a oedd yn 75 oed, yn gyn-athro uchel ei barch ac yn ddyn teulu annwyl, i ben ar ôl cael ei wthio unwaith," dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Prif Arolygydd Phil Rowe.

"Mae'r achos hwn unwaith eto wedi amlygu canlyniadau trais sy'n gysylltiedig ag alcohol.

"Rydym yn gobeithio y bydd ei amgylchiadau trasig yn gwneud i bobl feddwl am eu gweithredoedd a helpu i atal unrhyw farwolaethau pellach neu anafiadau difrifol.

"Hoffwn ddiolch i deulu Mr Ormerod am yr urddas a'r dewrder a ddangoswyd yn dilyn ei farwolaeth a thrwy'r achos llys diweddar."

Pynciau cysylltiedig