Pryder am broses dendro ymgymerwyr Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorwyr Ceredigion wedi dweud bod hi'n "bryder" nad yw Crwner Ceredigion wedi comisiynu gwasanaethau gan drefnwr angladdau o Dalgarreg, ar ôl i'r cwmni ennill tendr bedair blynedd yn ôl i gasglu cyrff ar ran y crwner yn dilyn marwolaethau sydyn.
Dywedodd y cynghorydd lleol dros yr ardal, Gareth Lloyd nad oedd "wedi cael unrhyw esboniad" pam nad oedd y crwner yn fodlon defnyddio cwmni Cenfil Reeves, oedd wedi ennill y tendr cyhoeddus yn 2019 i ymateb i farwolaethau sydyn.
Fe gafodd y broses dendr "dryloyw" ei chynnal gan Gyngor Ceredigion, gyda'r tendr yn para am bedair blynedd.
Mae cwmni Cenfil Reeves wedi cadarnhau nad yw nhw wedi cyflwyno cais am dendr newydd eleni oherwydd eu profiadau dros y pedair blynedd diwethaf.
Mae Crwner Ceredigion, Peter Brunton, wedi cael cais i ymateb.
'Beth yw'r pwynt tendro?'
Deallir bod Mr Brunton yn defnyddio tri chwmni o'i ddewis ei hun yn ne, canolbarth a gogledd Ceredigion i gasglu cyrff pan mae yna farwolaeth sydyn neu annisgwyl.
Arian cyhoeddus sydd yn talu am y gwaith ac am gludo cyrff ar gyfer archwiliadau post mortem yn Amwythig.
Fe esboniodd Cenfil Reeves mai ei gwmni ef enillodd y tendr cyntaf yn 2019, ar gyfer ardal y canol a'r de.
"Dyma oedd y tro cyntaf iddo fynd i dendr," meddai. "[Ond] wedodd y council bod y coroner wedi dweud i beidio iwso ni.
"Mae'r tendr yn codi eto nawr. Beth yw'r pwynt tendro os nag yw'r peth yn cael ei wneud yn iawn?"
Dywedodd Mr Reeves nad oedd wedi cael "unrhyw esboniad" am benderfyniad y Crwner. Er mai Cyngor Ceredigion oedd yn rhedeg y broses dendro, mae hi'n ymddangos nad oes pwerau gan yr awdurdod i orfodi'r crwner i ddefnyddio'r cwmni oedd yn fuddugol yn y broses.
Caeodd proses dendro ddiweddaraf y cyngor, ar gyfer y pedair blynedd nesaf, ar 10 Gorffennaf.
Gosod cynsail peryglus
Yn ôl Iona Reeves o'r cwmni, doedd dim awydd gwneud tendr am y gwaith eto ac mae hi'n dweud bod y system yn Sir Gaerfyrddin yn llawer tecach.
"Yn Sir Gâr, mae'n dderbyniol i ni wneud y gwaith," meddai.
"Mae'r Cyngor Sir yn darparu rhestr o ffioedd i ni pan ni'n cael ein galw i wneud y gwaith. Yr un ffi mae pob ymgymerwr yn cael.
"Does neb yn gwybod am unrhyw dendr arall sydd wedi cael ei ennill gan gwmni, a bod y cwmni ddim wedi cael gweithredu fe. Yn amlwg, mae'n annheg iawn fan hyn."
Mae'r Cynghorydd Gareth Lloyd yn dweud fod penderfyniad Crwner Ceredigion i anwybyddu enillydd y tendr diwethaf yn gosod cynsail peryglus.
"Pan mae yna broses o ran y cyngor sir i ddewis y bobl hynny yn hollol deg, fydden ni meddwl bod yna esboniad os nad yw hynny'n digwydd," meddai.
"Os oes yna fusnesau ddim yn ymgeisio am dendr achos dy'n nhw ddim yn meddwl bod e'n deg, mae hynny yn bryderus o ran y broses dendro."
Mae trefnwyr angladdau eraill wedi cefnogi Iona a Cenfil Reeves yn ei brwydr - yn eu plith, Peter Evans o Aberteifi.
Mae e hefyd wedi penderyfnu peidio rhoi cais mewn am dendr eleni yn sgil profiadau cwmni Cenvil Reeves.
"O achos beth ddigwyddodd i Cenfil tro diwethaf, mae pobl wedi colli ffydd a so nhw yn treial," meddai.
Mae Louise Evans, trefnwr angladdau o Aberystwyth, hefyd yn bryderus am y sefyllfa.
"Dyw'r system ddim yn fair i deuluoedd gan bod teuluoedd ddim yn cael y dewis," meddai.
"Gyda marwolaeth sydyn, dy'n nhw ddim yn cael amser i feddwl pwy ni'n mynd i gael i wneud yr angladd. Maen nhw yn defnyddio pwy maen nhw'n meddwl mae rhaid iddyn nhw ddefnyddio.
"Fi'n gwybod am drefnwyr angladdau sydd wedi ennill y tendr a ddim wedi cael un galwad allan o'r crwner yn sgil marwolaeth sydyn, er bod nhw wedi ennill. Dyw e ddim yn fair o gwbl."
Cadarnhaodd Cyngor Ceredigion eu bod nhw'n "ymwybodol nad yw'r Crwner wedi comisiynu gwasanaethau Cenfil Reeves er gwaethaf y ffaith iddynt fod yn llwyddiannus yn y broses dendro dryloyw ddiwethaf".
Dywedodd yr awdurdod eu bod nhw wedi "codi'r mater gyda'r Prif Grwner ar sawl achlysur", ond "nid oes gan yr awdurdod lleol y pwerau i gyfarwyddo'r Crwner yn uniongyrchol ynghylch pa gwmnïau y mae'n eu defnyddio".
Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai mater "rhwng yr awdurdod lleol a'r crwner lleol" oedd hyn.
Dyw Crwner Ceredigion, Peter Brunton, ddim wedi ymateb i geisiadau BBC Cymru am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2020