Rhybudd gwyddonwyr am beryglon yr haul yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
"Mi ges i fraw - dim fi, dwi'n troi yn frown fel cneuen."
Pan dderbyniodd Gwenno Dafydd ddiagnosis o ganser y croen saith mlynedd yn ôl roedd hi'n sioc fawr iddi hi a'i theulu.
Datblygodd crachen oedd yn gwaedu ar frechlyn haul ar ei thrwyn felly mi aeth hi at y doctor.
Mae bellach wedi derbyn llawdriniaeth a thriniaeth lwyddiannus, ond mae'r profiad wedi bod yn agoriad llygad am beryglon ymbelydredd uwchfioled a'r haul.
"Oherwydd fod genai wallt tywyll, roedd pawb arall yn y teulu yn blonde neu gyda gwallt coch, ac oedden nhw gorfod bod yn ofalus yn yr haul," meddai.
"Dyna beth sy'n rhyfedd, mai fi sydd wedi ca'l y broblem fwyaf yn y teulu.
"Gallwn ni ddim cymryd yn ganiataol oherwydd bod ein croen ni'n brownio'n gyflym, fel mae fy ngroen i, bod gynnon ni ddim anfanteision achos allith e ddigwydd i unrhyw un."
Bydd un o bob pedwar dyn ac un o bob pum menyw yn y DU yn cael diagnosis o ganser y croen yn ystod eu hoes.
Yng Nghymru, mae'n cyfrif am 46% o'r holl ganserau newydd - y gyfradd uchaf o holl wledydd y DU.
Ymbelydredd uwchfioled, neu UV, a ddaw o'r haul sy'n achosi'r difrod. Gall gormod o UV arwain at liw haul, llosg haul, heneiddio cynamserol a difrod i'r llygaid.
Mae hefyd yn brif achos canser y croen.
Mae Gwenno bellach yn gwisgo eli haul ffactor 50 ac yn gwisgo het bob tro mae'n mynd i redeg, ond doedd hi ddim wastad mor ofalus.
"Pan o'n i'n ifanc o'dd pawb yn gorwedd yn yr haul heb hylif haul, a ddim yn meddwl dim byd amdano fe," meddai.
"Pan oedden i'n y coleg o'dd rhan fwyaf o'r merched yn mynd fyny ar y to cyn slathro ein hunain mewn hylif cnau coco ac yn llosgi'n golsyn.
"Mae'n rhaid bod yn wyliadwrus, dwi ddim eisiau i hwn ddigwydd eto."
Angen addysgu plant
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe am sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn dysgu am beryglon yr haul, a phwysigrwydd gofalu am eu croen o oed ifanc.
Nod y prosiect Sunproofed yw gweld sut y gall ysgolion addysgu plant am beryglon yr haul a sut i fwynhau'r haul yn ddiogel.
Mae hynny'n cynnwys defnyddio eli haul, ond hefyd edrych ar sut mae ysgolion yn darparu cyngor i blant tra maen nhw yn yr ysgol.
Mae Maisie Edwards yn ymchwilydd ar y tîm ac yn dweud bod yna wahaniaethau mawr rhwng addysg yma yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.
"Yn Lloegr mae'n rhaid i athrawon ddysgu plant o fewn y cwricwlwm beth yw pwysigrwydd amddifyn rhag yr haul," meddai.
"Ond yma yng Nghymru does dim rhaid i ysgolion wneud hynny, felly mae'n ddibynnol ar ysgolion gwahanol, mae'n ddibynnol ar athrawon yn bod yn rhagweithiol ac yn flaengar."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae fframwaith newydd Cwricwlwm i Gymru yn sicrhau bod modd cynnwys diogelwch yr haul wrth ddysgu am Iechyd a Lles."
Mae tîm Prifysgol Abertawe yn dangos eu gwaith i'r gymuned, drwy arddangosfa yn Oriel Gwyddoniaeth yng nghanol y ddinas.
Mae aelodau'r cyhoedd yn gallu cael eu llun wedi ei dynnu gyda chamera UV, i ddangos iddyn nhw'r gwahaniaeth y mae eli haul yn ei wneud i'w croen.
Mae Dr Jemma Collins yn Ymgynghorydd Dermatoleg i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ac wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef o ganser y croen. Mae'n rhybuddio bod yr haul yn ddigon cryf yma yng Nghymru i achosi niwed.
"Ni'n gweld yn clinics ni bod mwy a mwy o bobl yn dod gyda chanser y croen," meddai. "Pobl hen ac ifanc, dyw e ddim jyst pobl sy'n henach.
"Y rhesymau dros hwn, mae pobl yn hoffi bod mas yn yr haul, gwyliau tramor, defnyddio gwelyau haul ac mae pobl yn byw yn hirach, felly ar ôl cael haul dros y blynyddau mae'r risg o gael canser y croen yn mynd lan."
Mae Dr Collins yn argymell y dylai pawb wisgo eli haul rhwng ffactor 30-50. Mae'n dweud bod yr haul yng Nghymru llawer cryfach nag y mae pobl yn meddwl, yn enwedig rhwng 11:00 a 15:00, pan ddylen ni osgoi bod allan yn yr haul am gyfnod hir.
"Mae'r haul ar ei gryfa rhwng yr amseroedd yna," meddai.
"Dylai bod pawb yn gwisgo eli haul rhwng tua Ebrill a Hydref, ac yn dibynnu ar liw y croen, falle mis Mawrth hefyd, hyd yn oed yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2017