Y cyn-Aelod Seneddol Llafur, Ann Clwyd wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Tony Blair a Mark Drakeford ymhlith y rheiny sydd wedi rhoi teyrngedau i'r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Ann Clwyd yn dilyn ei marwolaeth yn 86 oed.
Yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw ei phlaid yng Nghymru ar un cyfnod, bu'n AS ar Gwm Cynon am 35 mlynedd rhwng 1984 a 2019 gan wasanaethu'n hirach nag unrhyw AS benywaidd arall o Gymru.
Daeth hi'n fwy amlwg yn y blynyddoedd diwethaf am godi ei phryderon ynghylch cyflwr y gwasanaeth iechyd, ond yn yr 1990au daeth hi hefyd i'r amlwg am sefyll gyda glowyr.
Roedd hi'n rhan o brotest yn 1994 yng Nglofa'r Tŵr ger Hirwaun, yn erbyn penderfyniad Glo Prydain i gau'r lofa dwfn olaf yng Nghymru.
Cafodd y glowyr ganiatâd i ailagor y pwll glo y flwyddyn ganlynol, wedi iddyn nhw gasglu eu harian diswyddaeth, ac fe arhosodd ar agor nes 2008.
Irac ac iechyd
Yn enedigol o bentref Helygain yn Sir y Fflint, cafodd Ann Clwyd yrfa amrywiol cyn troi at fyd gwleidyddiaeth, gan hyfforddi fel athrawes cyn dod yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru, a phapurau'r Guardian a'r Observer.
Yn siaradwr Cymraeg, cyn ei chyfnod yn San Steffan bu'n newyddiadurwraig gyda'r BBC, ac yna'n Aelod o Senedd Ewrop.
Yn Nhŷ'r Cyffredin cafodd sawl rôl ar fainc flaen Llafur, gan gynnwys fel Ysgrifennydd Cysgodol Cymru, ond roedd hefyd yn adnabyddus fel ymgyrchydd dros hawliau dynol o'r meiciau cefn.
Cafodd ei diswyddo ddwywaith fel llefarydd gan y blaid Lafur am beidio â dilyn lein y blaid - unwaith yn 1988 dros wariant y llywodraeth Geidwadol ar arfau niwclear, a'r eildro am fethu pleidlais yn y Senedd er mwyn teithio i ffin Twrci-Irac i weld beth oedd yn digwydd i'r Cwrdiaid.
Yn ystod cyfnod Tony Blair fel Prif Weinidog, fe ddaeth Ann Clwyd yn Llysgennad Hawliau Dynol iddo ar Irac.
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Chilcott ar y rhyfel yn Irac, fe ddywedodd ei bod hi'n parhau i gefnogi'r penderfyniad i fynd i ryfel yn Irac, a bod y byd yn lle gwell heb Saddam Hussein.
Yn fwy diweddar fe ymgyrchodd ar faterion yn ymwneud a'r gwasanaeth iechyd ar ôl codi pryderon ynglŷn â'r gofal gafodd ei gŵr, Owen Roberts yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd cyn ei farwolaeth yn 2012.
Yn 2013 fe wnaeth David Cameron ei phenodi i rôl yn goruchwylio cwynion am ysbytai yn Lloegr, ond fe ddaeth hi hefyd yn feirniad cyson o safonau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Fe gyhoeddodd fwriad i ymddeol yn etholiad cyffredinol 2015, cyn gwneud tro pedol ac aros nes 2019.
Teyrngedau
Ymhlith y teyrngedau i Ann Clwyd, dywedodd Syr Tony Blair ei bod hi'n "ymgyrchydd gwleidyddol dewr, eofn ac egwyddorol" oedd yn edrych allan am bobl "dlawd a'r rheiny oedd wedi eu gormesu" drwy gydol y byd.
"Doedd hi ddim ofn siarad ei meddwl, waeth beth oedd y gost bersonol neu wleidyddol," meddai.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod yntau'n "drist iawn" i glywed am ei marwolaeth.
"Roedd hi'n ymgyrchydd eofn, yn amddiffynnwr hawliau dynol ac yn arloeswr i wleidyddion benywaidd, ond yn anad dim - yn un wnaeth ymroi'n llwyr er mwyn gwasanaethu pobl Cwm Cynon," meddai Prif Weinidog Cymru.
Ychwanegodd arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer ei bod hi'n "ffigwr blaenllaw yn y blaid Lafur a roddodd fywyd o wasanaeth i'n mudiad".
Dywedodd yr AS Llafur, Jo Stevens, fod Ann Clwyd wedi "arwain y ffordd i fenywod, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws Prydain a thramor".
"Roedd hi'n benderfynol, angerddol, ffyrnig ac yn sefyll ei thir," meddai.
Ychwanegodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan: "Trist i glywed am farwolaeth Ann Clwyd, arloeswr a'r unig fodel gwleidyddol i fenywod yng Nghymru dros gyfnod.
"Radical yng ngwir ystyr y gair, a chafodd ei hysbrydoli yn ei blynyddoedd cynnar wrth sefyll fel ASE cyn mynd ymlaen i gael effaith arwyddocaol yn San Steffan a thu hwnt."
Dywedodd ei holynydd fel AS Cwm Cynon, Beth Winter y bydd yn cael ei chofio am "ei gwaith dros cymaint o flynyddoedd ar hawliau menywod, cyfiawnder rhyngwladol a glowyr".
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies hefyd roi teyrnged i'w gwasanaeth i bobl Cwm Cynon.
"Roedd hi'n ddynes aruthrol, byth yn cefnu ar ymladd dros ei chredoau, a sefyll dros ei hegwyddorion waeth pwy roedd hi'n eu pechu," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020