Diogelwch adeiladau: Archwilio Cymru yn beirniadu cynghorau
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon ynglŷn â sut y bydd Cymru yn gorfodi rheolau adeiladu newydd sydd wedi eu llunio er mwyn osgoi tân arall fel yr un yn Nhŵr Grenfell.
Mae adroddiad gan gorff gwarchod gwariant yn dweud nad yw cynghorau a gwasanaethau tân ac achub Cymru yn gallu sicrhau bod adeiladau'n ddiogel.
Dywedodd Becky Ashwin, sy'n byw mewn datblygiad ym Mae Caerdydd, fod pedwar tân wedi bod yn ei hadeilad yn ystod pedwar mis y llynedd.
Gwrthododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wneud sylw.
'O bosibl yn anghyfreithlon'
Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol Adrian Crompton yn nodi cyfres o bryderon am gynlluniau i dynhau trefn diogelwch adeiladau Cymru.
Dywedodd bod ystod eang o broblemau'n wynebu'r proffesiwn rheoli adeiladu a diogelwch adeiladau, gan gynnwys heriau sylweddol o ran staffio, gyda gweithlu sy'n heneiddio a chynllunio gwael ar gyfer olyniaeth.
Mae ganddo "bryderon arbennig ynghylch rheolaeth ariannol ar reoli adeiladu gydag arferion cyfredol rhai awdurdodau o bosibl yn anghyfreithlon am nad ydynt yn gweithredu'n unol â rheoliadau a chanllawiau."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cael ei beirniadu am beidio ag egluro'n llawn eto sut y bydd rhan o'r system newydd yn gweithio.
Ar wahân, mynegodd y Ceidwadwyr Cymreig bryder ar ôl i gais Rhyddid Gwybodaeth ddangos nad oes unrhyw ddatblygwyr wedi gwneud cais eto i gynllun benthyg £20m ar gyfer gwaith adfer.
'Methu'
Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad "er bod y newidiadau i Reoli Adeiladu a Diogelwch Adeiladau i'w croesawu, nad yw'r rhai sy'n gyfrifol am roi'r newidiadau hyn ar waith mewn sefyllfa dda i'w cyflawni a'u bod yn methu â chyflawni eu rolau estynedig mewn modd effeithiol i sicrhau bod adeiladau yng Nghymru'n ddiogel".
Daeth Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ym mis Ebrill 2023. Mae pob agwedd ar y Ddeddf yn berthnasol i Loegr, ond dim ond Rhan 3 (gyda rhai mân eithriadau) sy'n berthnasol i Gymru.
Mae is-ddeddfwriaeth a chanllawiau ynghylch Rhan 3 yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, gyda'r bwriad y bydd y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith yn llawn ac y bydd yn ofynnol cydymffurfio'n llwyr â hi o fis Ebrill 2025.
Bydd Llywodraeth Cymru'n mynnu bod adeiladau risg uwch o fewn cwmpas y gwahanol newidiadau sy'n digwydd i'r amryw Gyfundrefnau Diogelwch Adeiladau yn mynd trwy bwyntiau stopio neu 'Byrth' cyn y gallant fynd ymlaen i gam nesaf y gwaith.
Y tri phorth yw:
Cyn rhoi caniatâd cynllunio
Cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau
Cyn meddiannu'r adeilad.
Wrth fynd trwy Borth, bydd yn rhaid i'r rhai sy'n dylunio ac yn codi'r adeilad ddangos bod y dyluniad a'r adeiladwaith yn bodloni, ac yn parhau i fodloni, gofynion rheoleiddiol a sicrhau bod mesurau diogelwch digonol a gwybodaeth ddigonol am yr adeilad yn eu lle fel y gellir eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u gwella'n briodol
Yn wahanol i Loegr, lle mae Llywodraeth y DU wedi rhoi'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wrth y llyw fel rheolydd diogelwch adeiladau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud hon yn rôl i gynghorau.
Cododd rhai staff tân ac achub a chyrff arolygu cymeradwy bryderon wrth Mr Crompton nad oedd gan gynghorau ddigon o adnoddau na phrofiad addas i gyflawni'r rôl.
Mae gan ddatblygiad Ms Ashwin broblemau gyda diogelwch tân, gan gynnwys inswleiddio a chladin fflamadwy.
Dywedodd fod cost gyffredinol yswiriant wedi cynyddu o £67,000 i £624,000 y flwyddyn ar gyfer pob un o'r saith bloc ers y sgandal cladin a bod ei ffioedd gwasanaeth wedi dyblu i £4,000 y flwyddyn.
"Eich cartref yw'r lle rydych chi i fod i fynd iddo a theimlo'n ddiogel ac yn yr achos hwn allwn ni ddim," meddai.
"Fe gawson ni bedwar tân y llynedd mewn cynifer o fisoedd ac roeddwn i'n sefyll y tu allan am oriau tra bod y criwiau tân yn mynd i'r afael â nhw.
"Rydych chi'n meddwl tybed, 'ai dyma'r amser pan fyddaf yn colli fy nghartref a phopeth ynddo'?"
Meddai'r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Roedd tân Tŵr Grenfell yn drasiedi cenedlaethol, ac rydym yn dal i deimlo'i effaith heddiw.
"Mae fy adroddiad yn amlygu pryderon mawr ynghylch rhoi'r system newydd ar gyfer Diogelwch Adeiladau ar waith.
"Er ei bod yn galonogol gweld yr awch ac ymrwymiad gan y rhai sy'n gweithio yn y sector, rwy'n pryderu nad oes digon o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r gwasanaethau hyn ar lawr gwlad.
"Mae'r diffyg cynlluniau cadarn, prosesau penderfynu eglur ac adnoddau digonol yn codi pryderon go iawn na fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyflawni ac y bydd y problemau y mae'n ceisio mynd i'r afael â hwy'n dal i fodoli."
Croesawodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad, dolen allanol gan ddweud bod diwygio'r sector yn "flaenoriaeth".
Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wedi datblygu amserlen fesul cam ar gyfer gweithredu darpariaethau'r Ddeddf Diogelwch Adeiladu sy'n berthnasol i Gymru.
"Mae hyn wedi cael ei gyfathrebu'n eang i'r diwydiant a rhanddeiliaid eraill a bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar yn 2024."
'Brawychus'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dai, Janet Finch-Saunders fod yr adroddiad yn "frawychus" a dywedodd ei fod yn darparu "catalog o dystiolaeth bod y gyfundrefn diogelwch adeiladau yng Nghymru wedi torri".
Dywedodd Mabon ap Gwynfor ar ran Plaid Cymru fod yr adroddiad "yn gywir yn tynnu sylw at y gwendidau sylweddol o dan y drefn diogelwch adeiladau yng Nghymru ar hyn o bryd a bod angen gwneud mwy o waith".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022