Pa gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr prifysgol?

  • Cyhoeddwyd
GraddedigionFfynhonnell y llun, PA Media

Nawr eu bod wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, fe fydd llawer o bobl ifanc yn pwyso a mesur a ydyn nhw am fynd i'r brifysgol - ac yn bwysicach, a allen nhw fforddio mynd.

Gyda ffïoedd dysgu'n costio £9,000 y flwyddyn yng Nghymru a chostau cyffredinol astudio am radd, pa help sydd ar gael?

Pa gymorth sydd ar gael gyda ffïoedd dysgu?

Fe all mwyafrif y myfyrwyr o Gymru, dolen allanol sy'n astudio'n llawn amser am radd, Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch gael benthyciad i dalu am eu ffïoedd dysgu, a chyfuniad o fenthyciad a grant tuag at gostau byw.

Mae Benthyciad Ffïoedd Dysgu, dolen allanol hyd at £9,250 y flwyddyn ar gael, gan ddibynnu ar gost y cwrs. Mae'r swm ar gael i fyfyrwyr yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

Mae'r benthyciad yma'n cael ei dalu'n uniongyrchol i'r brifysgol neu'r coleg, a bydd yn rhaid i fyfyrwyr ei dalu'n ôl, gyda llog, unwaith maen nhw wedi gorffen neu adael eu cwrs.

Pa gymorth sydd ar gael gyda chostau byw?

Yn ogystal â benthyciad ffïoedd dysgu, gall myfyrwyr o Gymru ymgeisio am gyfuniad o fenthyciad a grant i helpu gyda chostau byw.

Mae'r swm yn dibynnu ar incwm yr aelwyd, dolen allanol a ble maen nhw'n byw ac yn astudio.

Er enghraifft, fe allai myfyriwr sy'n byw gyda rhieni ble mae incwm yr aelwyd yn £18,370 neu'n is gael benthyciad o tua £3,065 a £6,885 mewn grant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r benthyciad cynhaliaeth a'r grant yn cael eu talu i gyfrif banc y myfyriwr mewn tri rhandal, fel arfer ar ddechrau pob tymor.

Rhaid talu'r benthyciad yn ôl, gyda llog, unwaith y mae'r myfyriwr wedi darfod neu adael eu cwrs. Does dim rhaid ad-dalu'r grant.

Os nad yw myfyriwr mewn cysylltiad â'u rhieni neu wedi treulio cyfnod yn y system ofal, does dim rhaid darparu manylion incwm eu rhieni ar bob achlysur wrth ymgeisio am gymorth ariannol.

Beth os oes gyda chi radd eisoes?

Os oes gyda chi radd yn barod, fe allwch chi fod yn gymwys i gael cymorth ariannol ar gyfer graddau meddygaeth, deintyddiaeth, milfeddygaeth, pensaernïaeth, gofal cymdeithasol neu ofal iechyd.

Os nad ydych chi'n dilyn un o'r cyrsiau hyn, ni fyddech chi'n gymwys i gael benthyciad ffïoedd dysgu, dolen allanol nag unrhyw fenthyciadau neu grantiau cynhaliaeth.

Beth am fyfyrwyr ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor?

Fe allen nhw ymgeisio am gymorth ychwanegol Lwfans Myfyrwyr Anabl, dolen allanol i dalu am gostau'n ymwneud ag astudiaethau, fel offer, cost help nad yw'n help meddygol, costau teithio a chostau llungopïo ac argraffu.

Fe allai myfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig llawn amser neu ran amser gael hyd at £33,146 y flwyddyn ar gyfer costau offer arbenigol, cymhorthydd heb fod yn gymhorthydd meddygol a chostau mwy cyffredinol.

Mae lwfans teithio hefyd ar gael ar gyfer costau teithio'n ymwneud â'u hastudiaethau sy'n gysylltiedig â'u hanabledd. Maen nhw'n cael eu hasesu ar sail amgylchiadau'r unigolyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Beth am fyfyrwyr â phlant?

Gall myfyrwyr israddedig gyda phlant ymgeisio am Grant Gofal Plant, dolen allanol at gostau gofal plant.

Mae maint y cymorth yn dibynnu ar incwm yr aelwyd a does dim rhaid ei ad-dalu.

Gallen nhw hefyd ymgeisio am Lwfans Dysgu Rhieni, dolen allanol rhwng £52 a £1,896 y flwyddyn - gan ddibynnu ar incwm y teulu - a does dim angen talu'r arian yn ôl.

Beth am fyfyrwyr gydag oedolion dibynnol?

Gall myfyrwyr llawn amser a rhan amser dros 25 oed geisio am Grant Oedolion Dibynnol, dolen allanol hyd at £3,262 y flwyddyn os oes yna oedolyn un dibynnu arnyn nhw'n ariannol.

Mae'r swm yn dibynnu ar incwm yr aelwyd a does dim rhaid ad-dalu'r arian.

Beth am fyfyrwyr sydd ar fudd-daliadau neu dros 60?

Mae Cymorth Arbennig, dolen allanol ar gael i fyfyrwyr dros 60 oed a'r rheiny sy'n hawlio budd-daliadau penodol yn gysylltiedig ag incwm, i helpu talu am bethau fel llyfrau, offer ar gyfer y cwrs a theithio.

Os yn gymwys, fe fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n diystyru eu hawl i grant hyd at £5,161 wrth gyfrifo unrhyw fudd-daliadau y maen nhw â hawl i'w dderbyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Beth am fyfyrwyr sy'n astudio dramor?

Ni all pobl sy'n dechrau a chwblhau cwrs tu allan i'r DU ymgeisio am gymorth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Rhaid i fyfyrwyr ymgeisio am gymorth ariannol i asiantaeth gyllido'r wlad dan sylw.

Fe allai'r rhai sy'n astudio dramor ar leoliad fel rhan o radd hawlio cost hyd at dair taith ddwy ffordd y flwyddyn, dolen allanol rhwng y DU a'r brifysgol neu'r coleg sydd dramor, ac am yswiriant meddygol a fisa teithio.

Fe allai rhieni sengl hawlio arian ar gyfer costau teithio eu plant.

Bydd yn rhaid iddyn nhw dalu naill ai'r £303 cyntaf neu'r £1,000 cyntaf, gan ddibynnu ar incwm yr aelwyd a phryd wnaeth y cwrs ddechrau.

Does dim rhaid ad-dalu'r arian.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Beth os ydw i eisiau astudio yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon?

£9,250 y flwyddyn yw'r ffïoedd dysgu i fyfyrwyr o Gymru sy'n dewis astudio yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, o'i gymharu â £9,000 y flwyddyn yn achos y rhai sy'n astudio yng Nghymru.

Pa bryd mae'n rhaid ad-dalu'r benthyciadau?

Yr adeg gynharaf y bydd disgwyl i fyfyriwr ddechrau ad-dalu benthyciadau yw'r mis Ebrill ar ôl gadael eu cwrs, ond dim ond pan fo incwm yn fwy na £524 yr wythnos, £2,274 y mis, neu £27,295 y flwyddyn.

Mae unrhyw fenthyciad sydd heb ei ad-dalu yn cael ei ddileu wedi 30 o flynyddoedd.

Mae'r drefn yma'n parhau i fyfyrwyr o Gymru, ond yn achos myfyrwyr o Loegr fe fydd y cyfnod ad-dalu yn estyn i 40 o flynyddoedd.

Pynciau cysylltiedig